Canlyniadau chwilio

193 - 204 of 2563 for "john hughes"

193 - 204 of 2563 for "john hughes"

  • DAFYDD, THOMAS (fl. 1765-92), marwnadwr ac emynydd dderbyn fel pregethwr. Nid oedd ef ychwaith yn un o'r sawl Thomas David y ceir eu llythyrau yng nghasgliad Trefeca. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol iawn am Fethodistiaid blaenllaw ei ddydd yn ei farwnadau. Ceir y marwnadau hyn, a'i emynau, mewn rhyw ugain o lyfrynnau a gyhoeddwyd rhwng 1765 a 1792. Disgrifir y rhain gan Garfield H. Hughes yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, Gorffennaf 1951. Y
  • DALTON, EDWARD HUGH JOHN NEALE (BARWN DALTON), (1887 - 1962), economegydd a gwleidydd Ganwyd yng Nghastell-nedd, Morgannwg, yn fab i'r Canon John Neale a Catharine Alicia Dalton, 26 Awst 1887. Buasai'r tad yn diwtor i'r brenin George V pan oedd yn Dywysog Cymru, ac yr oedd yn ganon yng Nghapel Sant Siôr yn Windsor o 1885 i 1931 pan fu farw. Yr oedd y fam yn ferch i Charles Evans-Thomas o'r Gnoll. Addysgwyd Hugh yn Summer Fields, Rhydychen ac Eton cyn mynd i Goleg y Brenin
  • DANIEL, JOHN (1755? - 1823), argraffydd Mab ffermwr a oedd yn byw yn rhywle yng ngwaelod Sir Gaerfyrddin. Wedi gorffen ei brentisiaeth saith mlynedd gyda John Ross yng Nghaerfyrddin, aeth i Lundain lle y bu yng ngwasanaeth argraffwyr y brenin. Priododd yn Llundain, dychwelodd i Gaerfyrddin, a sefydlu ei fusnes ei hun yno yn 1784. Argraffodd lu o lyfrau a daeth i gael ei ystyried gyda'r goreuon yng Nghymru yn ei gyfnod; barna Ifano
  • DANIEL, JOHN EDWARD (1902 - 1962), athro coleg ac arolygydd ysgolion Newydd, Bangor. Priododd â Chatrin, merch Rowland Hughes (1870 - 1928), gweinidog (A), a bu iddynt bum plentyn. Gyda'i gymwysterau academaidd eithriadol, yr oedd Daniel yn ddiwinydd gyda'r medrusaf yn ei genhedlaeth, yn cyfuno gwybodaeth eang, cof diollwng a meddwl dadansoddol o'r radd flaenaf. Daeth yn drwm o dan ddylanwad dysgeidiaeth Karl Barth a Rudolph Bultmann, yn nyddiau cynhyrfus eu
  • DANIEL, WILLIAM RAYMOND (1928 - 1997), pêl-droediwr proffesiynol 2 gêm gwpan Cymreig gan sgorio 16 gôl. Nid oedd rhan iddo yn ymgyrch Cwpan y Byd ddewr Cymru yn Sweden yn 1958 gan ei fod wedi colli ei le rhyngwladol i'r Mel Charles ifancach (ganwyd 1935). Ymunodd â Hereford United, clwb yng Nghynghrair y Dehau, fis Gorffennaf 1960 heb ffî a bu'n rheolwr-chwaraewr y clwb am gyfnod byr rhwng 1962 a 1963, cyfnod pan chwaraeodd ei gyd-chwaraewr cydwladol John
  • DANIELS, ELEANOR (1886 - 1994), actores teithiol o Little Miss Llewelyn, yn The Joneses yn Theatr y Strand a hefyd yn The Mark of Cain. Yn 1914 teithiodd i'r Unol Daleithiau gyda'r Welsh Players, ynghyd â Gareth Hughes, yntau hefyd o Lanelli, i berfformio drama arobryn J. O. Francis, Change. Yn sgil y ganmoliaeth a gafodd gan yr adolygwyr penderfynodd ddychwelyd i UDA ac ymgartrefodd yno am weddill ei hoes. Am nifer o flynyddoedd bu'n rhan o
  • DAVID, JOHN (1701? - 1756), gweinidog Annibynnol a breswyliai yn y Cilast yn ymyl Maenor Deifi; ffermwr cefnog. Ymddengys mai tua 1736 y dechreuodd bregethu. Yn 1745, dilynodd Lewis Thomas o Fwlch-y-sais fel gweinidog Rhydyceisiaid yn Sir Gaerfyrddin a Glandŵr yn Sir Benfro. Pregethai'n deithiol ar draws lled mawr o wlad, yn ymestyn mor bell â Llandudoch; cynorthwyid ef yn 1747-8 gan Evan Williams o Gwmllynfell. Efo, yn bur sicr, oedd y John
  • teulu DAVIES Yr oedd HUW DAVIES, gof, yn byw yn y Groes-foel, Esclusham, yn yr 17eg ganrif. Fe'i claddwyd ym mynwent Wrecsam 2 Medi 1702. Priodolir iddo ganllaw haearn wych yng nghôr eglwys Wrecsam a llidiard fechan ym mynwent Malpas, sir Gaerlleon. Yr oedd iddo ef a'i wraig Eleanor bedwar mab, ROBERT (bu farw 1748/9), JOHN (bu farw 1755), Huw a Thomas, a chwe merch (Anne, Magdalen, Jane, Sarah, Elinor a
  • DAVIES, ALUN TALFAN (1913 - 2000), bargyfreithiwr, barnwr, gwleidydd, cyhoeddwr a dyn busnes Davies, Janet Lyn Talfan Davies (a briododd y chwaraewr rygbi rhyngwladol Barry John), Christopher Humphrey Talfan Davies, a Kathryn Elizabeth Talfan Davies. Gwnaed Alun Talfan Davies yn Gwnsler y Frenhines yn 1961 a'i ddyrchafu'n farchog yn 1976. Fe'i penodwyd yn Gofiadur Merthyr Tudful yn 1963; yn Gofiadur Abertawe yn 1969; ac yn nes ymlaen y flwyddyn honno yn Gofiadur Caerdydd; bu'n Gofiadur
  • DAVIES, ALUN (1916 - 1980), hanesydd rhaid oedd gadael popeth a chilio o Baris i chwilio am ryw fodd i gyrraedd Prydain. Wedi cysgu dros nos ar gwrt Palas Versailles ac yna neidio ar drên i Sant Malo a dod adre yn ddiogel, ymunodd â'r fyddin ar unwaith. Dewiswyd ef gan y fyddin i fod yn lladmerydd milwrol a dysgu Siapanaeg yn y School of Oriental and African Studies yn Llundain. Ymhlith ei gyfeillion yno roedd John Silkin (1923-1987), y
  • DAVIES, BENJAMIN (1739? - 1817), athro a gweinidog Annibynnol Ganwyd yn 1739 neu 1740, yn ail fab i Rees Davies, rhydd-ddeiliad cefnog y Canerw ym mhlwyf Llanboidy. Haedda REES DAVIES ei hunan sylw, er mai diffygiol iawn yw ein gwybodaeth amdano; bu farw tua 1788. Yr oedd yn henuriad athrawiaethol yn eglwys Henllan Amgoed, a chyda Henry Palmer a John Davies anfonodd lythyr (Trevecka Letter 231) at Howel Harris ar 22 Mawrth 1740; ymddengys mai Calfin pybyr
  • DAVIES, BENJAMIN (1858 - 1943), datganwr Ganwyd 6 Ionawr 1858, ym Mhontardawe, Morgannwg, yn fab i John a Hannah Davies. Symudodd y teulu i Gwmbwrla, Abertawe. Dechreuodd ganu yn ieuanc ac enillodd ei wobr gyntaf yn 5 oed. Canai alto yng nghôr Caradog, ac enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau. Yn 1878 enillodd ysgoloriaeth yr Academi Gerddorol Frenhinol, ac yn ystod ei gwrs enillodd amryw fedalau, a chafodd radd Cymrawd (F.R.A.M