Canlyniadau chwilio

2041 - 2052 of 2571 for "john hughes"

2041 - 2052 of 2571 for "john hughes"

  • ROBERTS, JOHN IORWERTH (1902 - 1970), ysgolfeistr, ysgrifennydd Eisteddfod Gydwladol Llangollen Ganwyd 8 Mawrth 1902 yn Warrington yn fab i William John Roberts, gweinidog (MC), a'i wraig Harriet, merch Edward Roberts, gweinidog Engedi (MC), Brymbo a fu'n gadeirydd pwyllgor addysg sir Ddinbych. Symudodd y teulu i Bontrhythallt, Llan-rug, Sir Gaernarfon yn 1911 pryd yr aeth i ysgol Penisa'r-waun, ac wedyn i ysgol uwchradd Bryn'refail (1914-19) a'r Coleg Normal, Bangor (1920-22). Aeth yn
  • ROBERTS, JOHN JOHN (Iolo Caernarfon; 1840 - 1914), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a llenor Ganwyd yn Tir-bach, Llanllyfni, yn fab i John Roberts, a ddaethai yno o Amlwch yn 1824 pan ddaeth dyddiau blin ar waith copr Mynydd Parys. Ychydig iawn o addysg a gafodd ym more ei oes, a dechreuodd weithio'n ifanc gyda'i dad yn chwarelau Nant Nantlle. Dechreuodd bregethu yn 1867; o ysgol Clynnog aeth i Goleg y Bala (1868-1872). Galwyd ef (1873) i fugeilio eglwys Trefriw, ac ordeiniwyd ef yn 1874
  • ROBERTS, JOHN PRICE (1854 - 1905), gweinidog gyda'r Wesleaid, a llenor . Sgrifennai'n fynych i'r Eurgrawn; prydyddai hefyd, gan ennill amryw gadeiriau - canmolir ei bryddest goffa ar Joseph Thomas, Carno. Cyhoeddodd gofiant Cymraeg, 1903, i Hugh Price Hughes, ac yr oedd yn un o awduron cofiant John Evans, Eglwysbach, 1903.
  • ROBERTS, KATE (1891 - 1985), llenor hanner-chwaer a dau hanner-brawd hŷn o briodasau cyntaf ei rhieni (John Evan, Mary, Jane, ac Owen) a thri brawd iau, sef Richard (Dic), Evan, a David (Dei). O 1895 ymlaen cartref y teulu oedd tyddyn o'r enw Cae'r Gors, lle roeddent yn ffermio er mwyn ymgynnal ac ychwanegu at eu hincwm. Cae'r Gors oedd cartref Kate am y rhan fwyaf o'i blynyddoedd cynnar, ac mae'n cyflwyno darlun byw o'r bwthyn a'r
  • ROBERTS, LEWIS (1596 - 1640), masnachwr ac economydd yn dad ac yn daid). Ei wraig gyntaf oedd Anne, merch John Hawarden o Appleton ger Widnes. Daw dau o'u meibion dan ein sylw: GABRIEL ROBERTS, masnachwr Diwydiant a Busnes Ysgutor ewyllys ei dad. Erbyn ei ddydd ef, yn sgil siarter 1507 Harri VII i Gymry Gwynedd, ac wedyn y Ddeddf Uno (1536), yr oedd monopôl y bwrdeisiaid Seisnig (a wanychwyd eisoes gan ymdreiddiad Cymry i'w teuluoedd, fel y sylwyd
  • ROBERTS, MICHAEL (bu farw 1679), pennaeth Coleg Iesu yn Rhydychen -argraffiad o Hanes y Ffydd; anfon nodiadau am lawer o Gymry ar gyfer Athenae Oxonienses Anthony Wood; a bod yn bur llawdrwm ar argraffiad 1672 o'r Testament Newydd (am fod Stephen Hughes a'i gymrodyr wedi gadael y Llyfr Gweddi allan ohono).
  • ROBERTS, MICHAEL (1780 - 1849), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Mab i John Roberts (Llangwm); ganwyd yn Llanllyfni, Arfon. O'r flwyddyn 1802 gwnaeth ei gartref ym Mhwllheli a chadwai ysgol yno. Dechreuodd bregethu yn 1798 ac ordeiniwyd ef yn 1814. Nid oedd, mwy na'i ewythr Robert Roberts (Clynnog), yn gryf o gorff, ond fel hwnnw, cymerth ei le ymhlith pregethwyr blaenaf ei oes. Yr oedd o feddwl praff a'i ddull o bregethu, yn enwedig ar brydiau, yn rymus
  • ROBERTS, MICHAEL HILARY ADAIR (1927 - 1983), gwleidydd Ceidwadol flwyddyn. Ym 1979 penodwyd ef yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, gyda chyfrifoldeb dros addysg o fewn y Dywysogaeth. Roedd yn llywydd yr Undebwyr Llafur Ceidwadol, 1977-79, ac etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas y Clybiau Ceidwadol ym 1980. Ym 1974 daeth Roberts yn gyfarwyddwr ymgynghorol i John Addey Associates, cwmni cysylltiadau cyhoeddus, ac ym 1975 penodwyd ef yn ymgynghorydd diwydiannol i Minton
  • ROBERTS, MORRIS (1799 - 1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i ddechrau, ac yna gweinidog gyda'r Annibynwyr drafferth oherwydd ei olygiadau ' ar rai pethau yn athrawiaeth yr Efengyl.' Cyhuddid ef o ogwyddo at y 'system newydd' mewn athrawiaeth, a dilyn John Roberts, Llanbrynmair, ac eraill o weinidogion yr Annibynwyr. Bu ei achos gerbron cymdeithasfa y Bala ym Mehefin 1828, ac ataliwyd ef rhag pregethu y tu allan i'w sir ei hun hyd gymdeithasfa Caernarfon y mis Medi dilynol, pryd yr adferwyd ef. Ym Mehefin 1831
  • ROBERTS, MORRIS (bu farw 1723), bardd gwlad a saer o Dynllidiart, Llanuwchllyn, a fu wedyn yn byw yn y Bala. Annibynnwr oedd ef, a merch iddo oedd gwraig y cynghorwr Methodistaidd John Evans o'r Bala. Cofnodwyd nifer o hanesion amdano, ac yn enwedig am ei dduwioldeb, yn Y Brython (Tremadog), Y Gwyliedydd, Llyfryddiaeth y Cymry, a Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. Cadwyd enghreifftiau o'i farddoniaeth, yn ganu caeth a rhydd, mewn llawysgrifau; yn eu
  • ROBERTS, PETER (1760 - 1819), clerigwr, ysgolhaig Beiblaidd a hynafiaethydd Ganwyd 1760 yn Nhai'n-y-nant, Rhiwabon, sir Ddinbych. Enillodd ei dad, JOHN ROBERTS, mab i rydd-ddeiliad yn Rhiwabon, enwogrwydd fel gwneuthurwr clociau. Ymddengys ei enw ar restr y tanysgrifwyr i Dewisol Ganiadau, a gyhoeddwyd yn 1759 gan Huw Jones o Langwm. Bu John Roberts yn byw yn Wrecsam o 1764 hyd ar ôl 1771, a gwnaeth gloc i Izaak Walton (Peate, Clock and Watch Makers of Wales, 60-1
  • ROBERTS, RICHARD (Gruffydd Rhisiart; 1810 - 1883), llenor a phregethwr gyda'r Annibynwyr Ganwyd 5 Tachwedd 1809 yn y Diosg, Llanbrynmair, mab ieuengaf John Roberts (1767 - 1834). Addysgwyd ef yn ysgol ei dad a dygwyd ef i fyny yn amaethwr, ac ef a fu â gofal y tyddyn gan mwyaf, ond fel ei frodyr 'S.R.' a 'J.R.' ymddiddorai gryn lawer mewn llenora. Brithid cylchgronau'r cyfnod, yn arbennig y Cronicl (a olygid gan ei frodyr), gan ysgrifau a chaneuon o'i eiddo. Yn 1855 cyhoeddodd nofel