Canlyniadau chwilio

2053 - 2064 of 2571 for "john hughes"

2053 - 2064 of 2571 for "john hughes"

  • ROBERTS, RICHARD (Y Telynor Dall; 1769 - 1855) Gan fod John Parry ('Bardd Alaw'), yn cyfeirio ato yn 1808 fel telynor da iawn a fuasai'n casglu gwaith y beirdd ers blynyddoedd dylid derbyn 1769, y dyddiad a rydd R. Griffith yn Cerdd Dannau fel blwyddyn ei eni. Dywed 'Meurig Idris' iddo gael ei eni yn Ardudwy, Meirionnydd, ond dywed John Parry ('Bardd Alaw') mai yng Nghefn Mein, Llŷn, y ganwyd ef. Collodd ei olwg yn 8 oed mewn canlyniad i
  • ROBERTS, RICHARD (1823 - 1909), gweinidog Wesleaidd dyfod i'r amlwg yn ei bregethu yn y Saesneg. Etholwyd ef i Gant Cyfreithiol ei Gyfundeb yn 1874 ac yr oedd yn Weinidog Wesley's Chapel, Llundain - 'Eglwys Gadeiriol Methodistiaeth' - pan etholwyd ef yn Llywydd y Gynhadledd yn 1885. Ef oedd y Cymro Cymraeg cyntaf i eistedd yng nghadair John Wesley. Cyhoeddodd gyfrolau o bregethau: My Later Ministry (1887), The Living One (1892), The Man of Peace (1894
  • ROBERTS, ROBERT (1800 - 1878), ysgolfeistr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn ymyl Tre'r Ddôl, Llangynfelyn, 1800, mab John a Beti Roberts, ond yng Nglandŵr ger Gogerddan y magwyd ef. Addolai'r teulu ym Mhenygarn. Addysgwyd ef yn Llanfihangel-genau'r-glyn, mewn ysgol ramadeg leol o fri a gedwid gan yr athro gorau o blith ysgolheigion Ystrad Meurig. Yno y meistrolodd y clasuron. Bu am gyfnod yn athro ysgol yn Staines, lle y perffeithiodd ei Saesneg; ymaelododd yn
  • ROBERTS, ROBERT (1774 - 1849), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac emynydd , Rhosllannerchrugog; rhoes yntau ei grefft i fyny, ac fel ' Robert Roberts, Rhosllannerchrugog,' y cofir ef. Yr oedd yn bregethwr athronyddol ei naws, meddai Roger Edwards, a dug hynny ef i gryn helynt (yng nghwmni gwŷr fel John Jones o Dalsarn, John Hughes (1796 - 1860), a Morris Roberts (Remsen) yn y dadleuon diwinyddol yng nghyfarfod misol Sir y Fflint o tua 1828 hyd 1841; nid oedd ei lymder personol ef ei hunan
  • ROBERTS, ROBERT (1777 - 1836), almanaciwr ac argraffydd Ganwyd 1777, yn fab i John Roberts ('Siôn Robert Lewis'), Caergybi. Dilynodd ei dad fel cyhoeddwr a golygydd almanaciau poblogaidd Caergybi, o dan y teitlau Cyfaill Glandeg, Cyfaill Taeredd, etc., o 1805 hyd 1837. Argraffwyd y rhain gan John Jones o Drefriw gyda ffugargraffnod Dulyn arnynt er mwyn osgoi treth y Llywodraeth. Cyhoeddodd hefyd Eurgrawn Môn, neu y Drysorfa Hanesyddol, 1825-6, a
  • ROBERTS, ROBERT (1762 - 1802), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 12 Medi 1762, mab Robert Thomas a Catherine Jones, y Ffridd, Baladeulyn. Aeth yn fachgen i weithio i chwarel y Cilgwyn. Er bod cadw ysgol Sul ac ymgynnull i addoli yn ei gartref, yr oedd bryd Robert ar oferedd. Pan oedd tuag 16 oed ducpwyd ef gan ei frawd John (1753 - 1834) i oedfa gan David Jones o Lan-gan yng nghapel Brynrodyn, a newidiodd ei gwmni a'i ffordd o fyw. Gadawodd y chwarel
  • ROBERTS, ROBERT (Bob Tai'r Felin'; 1870 - 1951), canwr cerddi gwerin gystadleuaeth cân werin. Tua'r cyfnod hwnnw y ffurfiwyd parti Tai'r Felin (sef Llwyd o'r Bryn (Robert Lloyd), John Thomas a'i ferch, Lizzie Jane, a Bob Roberts a'i ferch, Harriet), parti a fu'n diddanu ar lwyfannau Cymru, a hefyd rai troeon yn Lloegr. O 1944 ymlaen daeth i sylw cenedl gyfan wrth ganu ar Radio B.B.C. yn rhaglenni Sam Jones, ' Noson lawen '. Recordiwyd nifer o'i ganeuon gan Gwmni Decca a
  • ROBERTS, ROBERT ALUN (1894 - 1969), Athro Llysieueg amaeth Coleg y Brifysgol Bangor, a naturiaethwr oedd yn awdur nifer o lyfrau e.e. Y tir a'i gynnyrch; Hafodydd brithion; Welsh Homespun; Y tyddynnwr-chwarelwr yn Nyffryn Nantlle (Darlith flynyddol Llyfrgell Penygroes, 1968); Yr elfen fugeiliol ym mywyd Cymru (Darlith Radio 1968) a chyd-awdur Commons and Village Green (1967). Priododd Jennie, merch Mr. a Mrs. John Morris Williams, Cae Mawr, Tan'rallt, yn 1924, a bu iddynt un ferch.
  • ROBERTS, ROBERT DAVID (1820 - 1893), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 3 Tachwedd 1820 mewn ty gerllaw hen gapel Sardis, Dinorwig. Yr oedd ef a'r ' Hen Gloddiwr ' (John Jones, 1821 - 1879; gweler Spinther, iv, 327-9) yn gefndyr. Ni chafodd fawr addysg pan yn blentyn, nac ychwaith addysg athrofaol wedi dechrau ohono bregethu. Bedyddiwyd ef yn 12 oed a dechreuoddodd bregethu yn 1839. Aeth am gyfnod byr yn genhadwr dros gyfarfod misol Arfon i hen faes Christmas
  • ROBERTS, ROBERT GRIFFITH (1866 - 1930), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur Ganwyd 13 Rhagfyr 1866, yn Nhyddyn Llidiart, Dyffryn Ardudwy, yn fab ieuaf Morris a Chatrin Roberts. Methodist Calfinaidd oedd ei dad, a thipyn o gymeriad, ond yr oedd ei fam (née Evans, aelod o deulu a hannai o Lanystumdwy, a disgynydd o deulu Lloyd, Cwmbychan, Ardudwy yn Fedyddwraig Sandemanaidd, a magodd ei dau fab i fod yn aelodau o'r enwad hwnnw, sef dilynwyr John Richard Jones. Bedyddiwyd
  • ROBERTS, ROBERT HENRY (1838 - 1900), gweinidog y Bedyddwyr a phrifathro Coleg Regent's Park, Llundain Ganwyd yng Nghaerfyrddin yn 1838, yn fab i John Nathan Roberts, gwerthwr offer haearn yn y dref a diacon yn y Tabernacl. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin o 1852 i 1857, ac yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bryste, o hynny hyd 1859, pryd y graddiodd yn B.A. o Brifysgol Llundain. Ordeiniwyd ef yn Bootle, 1861, symudodd i Cornwall Road, Notting Hill, Llundain, yn 1869, ac oddi yno yn 1891
  • ROBERTS, SAMUEL (S.R.; 1800 - 1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr, golygydd, diwygiwr Radicalaidd Ganwyd 6 Mawrth 1800, mab hynaf John a Mary Roberts (gynt Breese), Llanbrynmair, lle'r oedd ei dad yn weinidog Annibynnol. Derbyniodd ei addysg fore yn yr ysgol leol a gedwid gan ei dad, ac yna yn Amwythig, 1810-12. Hawlir mai ef oedd un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i ddysgu llaw-fer. Yn 1819 aeth fel ymgeisydd am y weinidogaeth i'r academi a gedwid yn Llanfyllin, ond a symudwyd yn fuan i'r