Canlyniadau chwilio

2497 - 2508 of 2571 for "john hughes"

2497 - 2508 of 2571 for "john hughes"

  • WILLIAMS, ROWLAND (Hwfa Môn; 1823 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Pen y Graig, Trefdraeth, Môn, Mawrth 1823. Pan oedd yn 5 oed symudodd y teulu i fyw i Ros-tre-Hwfa, ger Llangefni, a chyda'r Methodistiaid Calfinaidd y magwyd ef nes oedd yn 14 oed. Prentisiwyd ef yn saer coed gydag un John Evans, Llangefni; bu'n gweithio wrth ei grefft wedyn ym Mangor, Deiniolen, Porthdinorwig, a lleoedd eraill. Yn 1847 dychwelodd i Fôn ac yn fuan codwyd ef i bregethu
  • WILLIAMS, SAMUEL (c. 1660 - c. 1722), clerigwr ac awdur Cartrefai yn Abertrosol, Llandyfrïog, deau Ceredigion. Priododd â Margaret, merch Thomas John, Nant-yr-ymenyn, Llandysul, a ganed iddynt un mab, sef Moses Williams. Hyd y gwyddys, ni chafodd addysg ffurfiol, eithr yr oedd ganddo ddigon o gymwysterau i gael ei urddo'n ddiacon yn 1691 i fod yn gurad yn Llandyfrïog, ac yn offeiriad yn 1696, pan gafodd guradiaeth Llanarth ynghyd â'r capeli anwes
  • WILLIAMS, THOMAS (fl. niwedd y 18fed ganrif) Lanidan, twrnai ac un o brif lywiawdwyr y diwydiant copr Coch, a'i fab, y William Bulkeley Hughes cyntaf; ef hefyd (1791) a lwybreiddiodd brynu Plas yn Llanfair gan yr iarll Uxbridge oddi wrth y bonheddwr John Lewis o Lanfihangel (Tre'r Beirdd). Rai blynyddoedd cyn hynny, o gwmpas 1785, daeth Williams i gyswllt agos a'r iarll ac yn brif reolwr ar weithiau copr Mynydd Parys, gweithiau a berchenogid gan Uxbridge a theulu Llysdulas; ymddiriedwyd eu datblygu
  • WILLIAMS, THOMAS (Eos Gwynfa, Eos y Mynydd; c. 1769 - 1848), bardd bri ar ei garolau ef. Aeth dau o'i feibion i'r weinidogaeth, Joseph, a fu'n weinidog yn Llansilin ar un adeg, a John, a drodd yn ddiweddarach at y Bedyddwyr.
  • WILLIAMS, THOMAS (Twm Pedrog; 1774 - 1814), bardd detholiad o'i awdlau, cywyddau, ac englynion wedi eu cynnull gan John Jones ('Myrddin Fardd') yn Cynfeirdd Lleyn, 1905. Bu farw ym mis Mai 1814 a chladdwyd ef ym mynwent Ceidio Sir Gaernarfon.
  • WILLIAMS, THOMAS (Soranus; 1818 - 1865), meddyg a gwyddonydd Ganwyd yn 1818 yn fab i'r Parch. John Williams, ficer Llandyfrïog, Ceredigion. Aeth i Lundain i astudio meddygiaeth; enillodd wobr y R.C.S. yn 1843 am draethawd ' The Structure and Functions of the Lungs '; cafodd ei M.D. yn 1845. Wedi bod am amser yn ddarlithydd mewn anatomeg yn Guy's Hospital, ymsefydlodd yn Abertawe fel meddyg, a daeth i fri mawr yno. Ar hyd y cyfnod o 1841 hyd 1858 bu'n
  • WILLIAMS, THOMAS (Tom Nefyn; 1895 - 1958), gweinidog (MC) ac efengylydd Ganwyd 23 Ionawr 1895 yn y Fronolau, Boduan, Caernarfon, mab John Thomas ac Ann Williams - y tad yn fardd gwlad adnabyddus yn Llŷn. Symudodd y teulu i gyffiniau Nefyn, ac ymsefydlu wedyn ym Modeilas yn ardal y Pistyll lle y magwyd ef. Gadawodd ysgol elfennol Nefyn yn 1909 a bu'n gweithio yn chwarel ithfaen yr Eifl. Ymunodd â'r fyddin yn 1914, a gwelodd frwydro yn y Dardanelles, Ffrainc, yr Aifft
  • WILLIAMS, THOMAS (Capelulo; c.1782 - 1855), meddwyn diwygiedig, llyfrwerthwr teithiol, cymeriad . Prif ffynhonnell yr hyn a wyddys am 'Gapelulo' yw ei hunangofiant (Hanes bywyd Thomas Williams, yr hwn a adwaenid wrth yr enw Thomas Capelulo. A ysgrifenwyd o'i enau ef ei hun) a gyhoeddwyd gan John Jones yn 1854. Fersiwn llenyddol yw hwn o'r hyn a adroddwyd 'o'i enau ei hun' gan yr awdur ac mae'n nodedig am onestrwydd yr hanes cyn ei dröedigaeth fel ar ei hôl. Seiliwyd cofiant Robert Owen Hughes
  • WILLIAMS, THOMAS CHARLES (1868 - 1927), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 28 Awst 1868 yn Bryntirion, Gwalchmai, sir Fôn, mab i'r Parch. Hugh Williams, a'i fam yn ferch i'r Parch. John Charles (1784 - 1858) ac yn chwaer i'r Parchn. Hugh (1806 - 1839), John (1809 - 1865), William (1817 - 1849), a David (1823 - 1860) Charles - y ddau olaf yn bregethwyr poblogaidd iawn. Cafodd ei addysg yng Nghroesoswallt, y Bala, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Rhydychen, lle y
  • WILLIAMS, Syr TREVOR (c. 1623 - 1692) Llangibby, gwleidyddwr gwrthwynebiad) mewn is-etholiad a achoswyd pan ddaeth aer Raglan yn ardalydd Worcester. Bu'n eistedd dros y bwrdeisdrefi yn Senedd 1679 ac wedi hynny dros y sir yn seneddau 1680 a 1681. Oherwydd ei fod yn pleidio yr hyn a ddaeth i'w adnabod wrth yr enw ' Country Party ' collodd (ym mis Chwefror 1680) ei swydd fel ustus heddwch yn sir Fynwy. Dialodd am hyn y mis Ionawr dilynol trwy uno â John Arnold i ofyn am
  • WILLIAMS, WALDO GORONWY (1904 - 1971), bardd a heddychwr Ganwyd Waldo Williams yn Hwlffordd, Sir Benfro ar 30 Medi 1904, y trydydd o bum plentyn John Edwal Williams (1863-1934) ac Angharad Williams (ganwyd Jones, 1875-1932). Ysgolfeistr Ysgol Prendergast yn Hwlffordd oedd y tad, a Saesneg oedd prif iaith yr aelwyd. Ar ôl iddo ddioddef gan byliau o anhwylder nerfol a adawodd eu hôl yn ddwfn ar ei fab ifanc, yn 1911 penodwyd J. Edwal Williams yn
  • WILLIAMS, WILLIAM (c. 1625 - 1684), hynafiaethydd John Lloyd, Plas Llanddyfnan, a merch William Jones, Plas Gwyn, Pentraeth. Yr oedd yn hynafiaethydd cymwys a dibynadwy, fel y tystia hynny o'i waith a erys ar glawr, sef: 'Historia Bellomarisci,' 1669, a gyhoeddwyd fel atodiad i'r adargraffiad o Tours in Wales, Fenton (Archæologia Cambrensis, Supplement, 1917); ' History of the Bulkeley Family ' (1673-4), a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Transactions