Canlyniadau chwilio

2509 - 2520 of 2563 for "john hughes"

2509 - 2520 of 2563 for "john hughes"

  • WILLIAMS, WILLIAM (Myfyr Wyn; 1849 - 1900), gof, bardd, ac hanesydd lleol Cyfrannwr llithiau cyson i newyddiaduron Cymraegyn enwedig Tarian y Gweithiwr yn y naw degau. Fe'i ganed ar Dwyn Star, Tredegar. Mab ydoedd i John a Hannah Williams. Glöwr oedd ei dad, genedigol o ardal Aberteifi, a fu farw wedi damwain ym mhwll glo Bryn Bach, Tredegar, pan nad oedd ' Myfyr Wyn ' ond bachgen, ac yn un o bedwar o blant. Ganed ei fam yn Nant-y-bwch yn 1819 i deulu a ddaethai yno o
  • WILLIAMS, WILLIAM (Ap Caledfryn; 1837 - 1915), arlunydd Mab William Williams, ('Caledfryn'). Ganwyd yn Nghaernarfon, 24 Mawrth 1837, a treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yng Nghymru. Derbyniodd ei wers gyntaf mewn arlunio pan yn chwe mlwydd oed gan yr arlunydd Cymreig Hugh Hughes. Priododd â Mary Daniel, merch Herbert Daniel, gweinidog yr Annibynwyr yng Nghefn-y-crib, a bu iddynt fab a merch, a'r ddau, fel eu tad, yn ymddiddori mewn cerddoriaeth. Ymysg ei
  • WILLIAMS, WILLIAM (Creuddynfab; 1814 - 1869), llenor a bardd priododd, yn 1837, ag Elizabeth Hughes, merch i lifiwr, David Hughes, yn Llangollen. Ymhen rhai blynyddoedd cafodd swydd fel ysgrifennydd ar orsaf y rheilffordd yng nghymdogaeth Huddersfield a'i ddyrchafu'n orsaf-feistr a threulio 3 blynedd yn Oldham, a 16 yn Stalybridge yn y safle honno. Yn ystod ei arhosiad yn Stalybridge daeth yn un o brif aelodau Cymdeithas y Cymreigyddion ym Manceinion, a thua'r
  • WILLIAMS, WILLIAM (Crwys; 1875 - 1968), bardd, pregethwr ac archdderwydd Ganwyd 4 Ionawr 1875 yn 9 Fagwr Road, Craig-cefn-parc ger Clydach, Morgannwg, yn fab i John a Margaret (ganwyd Davies) Williams. Crydd oedd y tad ac am rai blynyddoedd bu'r mab yntau yn dysgu'r grefft, ond penderfynodd newid cwrs ei fywyd a mynd yn weinidog. Codwyd ef i bregethu yn Eglwys Pant-y-crwys (A), ac wedi dwy flynedd yn ysgol Watcyn Wyn (WILLIAMS, WATKIN HEZEKIAH), Rhydaman, derbyniwyd
  • WILLIAMS, WILLIAM EMYR (1889 - 1958), cyfreithiwr ac eisteddfodwr Ganwyd 24 Mai 1889 yn Llanffestiniog, Meirionnydd, yr hynaf o blant John Williams, gweinidog Engedi (MC), ac, wedi hynny, capten llong a blaenor yn y Tabernacl, Aberystwyth. Pan benodwyd John Williams yn ysgrifennydd cenhadaeth gartref y MC, symudodd y teulu i Wrecsam, ac o ysgol ramadeg Grove Park yn y dref honno yr aeth William Emyr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r enillodd radd LL.B
  • WILLIAMS, WILLIAM GILBERT (1874 - 1966), ysgolfeistr a hanesydd lleol Ganwyd yn Nhŷ'r Capel, Rhostryfan, Llanwnda, Caernarfon, 20 Ionawr 1874, yn fab i John Williams, chwarelwr, a'i briod Catherine (ganwyd Jones). Brawd iddo oedd ' J. W. Llundain ' (JOHN WILLIAMS). Gadawodd yr ysgol leol yn naw mlwydd oed i weithio yn chwarel y Cilgwyn ond dychwelodd yno yn ddisgybl-athro ac ennill ysgoloriaeth i fynd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, 1892-94. Penodwyd ef yn
  • WILLIAMS, WILLIAM JOHN (1878 - 1952), arolygwr ysgolion a chyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru a Mynwy
  • WILLIAMS, WILLIAM JONES (1863 - 1949), swyddog yn y gwasanaeth gwladol, Ysgrifennydd Cwmni Kodak, Trysorydd Coleg Harlech ac Urdd Gobaith Cymru Ganwyd 21 Mai 1863 yn Salford, sir Gaerhirfryn, yr hynaf o 7 plentyn John Williams (1828 - 1877), ' warehouseman ' (gynt o Dyn-y-graig, Garthgarmon, gerllaw Llanrwst) a'i wraig (gyntaf), Ellen Williams (1838 - 1874), brodor o Fethel, gerllaw Llandderfel, Sir Feirionnydd. Wedi cyfnod byr yn Ysgol Ramadeg Manceinion (Ionawr 1875 hyd Rhagfyr 1876) dechreuodd weithio (21 Rhagfyr 1876) ym masnach ' Mr
  • WILLIAMS, WILLIAM JONES (1891 - 1945), diwygiwr, gweinidog Apostolaidd iddynt 3 phlentyn. Bu hi farw 15 Tachwedd 1936, ac yn 1938 priododd yntau (2) ag Elsi, merch John a Rachel Evans, Capel Isaac, a bu iddynt un ferch. Bu yntau farw 15 Ebrill 1945, yn Llundain a chladdwyd ef ym mynwent y Deml, Pen-y-groes.
  • WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur Ganwyd 10 Mawrth 1867 yn Brownhill, Llansadwrn, dyffryn Tywi (ar 15 Medi 1938 dadorchuddiwyd cofgolofn iddo o flaen y tŷ), yn ail fab i Morgan Williams a'i wraig Sarah (Davies). Yr oedd ei deulu'n dda eu byd, ac yn Annibynwyr o hil gerdd; ei daid, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac cyn symud o'r Ffrwd-wen (Llandeilo) i Brownhill, a dau o frodyr ei dad yn weinidogion, sef JOHN WILLIAMS
  • WILLIAMS, WILLIAM MATTHEWS (1885 - 1972), cerddor Pwyllgor Mawl y ddau Gyfundeb Methodistaidd. Cyfansoddodd ganeuon ac emyn-donau, anthemau a rhanganau. Cyhoeddwyd casgliad o'i emyn-donau, Tannau Moliant, yn 1970. Mae ei ganeuon, 'Siôn y Glyn' a 'Llanfihangel Bachellaeth' yn enghreifftiau ardderchog o'i arddull delynegol. Priododd Margaret Myfanwy Hughes yng nghapel St John Street, Caer, 9 Rhagfyr 1915. Wedi marw ei briod yn 1970, symudodd i Patcham ger
  • WILLIAMS, WILLIAM MORRIS (1883 - 1954), chwarelwr, arweinydd corau, datgeiniad a beirniad cerdd dant Genedlaethol - Bangor, 1931, Aberafan, 1932, Castell-nedd, 1934, a Chaernarfon, 1935. Yn y tair cyntaf enillodd y côr hefyd Darian Goffa Iorwerth Glyndwr John am ganu trefniannau o alawon gwerin, a'i hennill yn derfynol. Enillodd y wobr gyntaf hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Colwyn 1934. Daeth y Côr yn adnabyddus drwy Gymru gyfan mewn eisteddfod a chyngerdd, ac yr oedd yn un o'r corau cyntaf