Canlyniadau chwilio

889 - 900 of 2571 for "john hughes"

889 - 900 of 2571 for "john hughes"

  • HUGHES, OWEN (Glasgoed; 1879 - 1947), swyddog rheilffordd, masnachwr a bardd Ganwyd yn y Glasgoed, Cwm Prysor, Meirionnydd, yn un o 10 plentyn William a Mary Hughes. Cafodd ychydig addysg yn ysgol Ty Nant a Maentwrog Uchaf, ond bu raid iddo fynd allan i weithio yn 9 oed. Symudodd i weithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda yn 1900. Bu yno am tua 6 blynedd gan ddod o dan ddylanwad Diwygiad 1904-05 fel y dengys ei emynau. Dychwelodd i'w hen ardal yn 1906, a'r flwyddyn honno
  • HUGHES, PRYCE (c. 1687 - 1715), cynlluniwr trefedigaeth Americanaidd Pryce Hughes o Lanllugan, Sir Drefaldwyn, oedd yr hynaf o dri mab a thair merch Richard Hughes (1663-1700) o Frongoch, prif stiward y Castell Coch ym Mhowys, a Mary Pryce (1663-1700). Daeth ystad Llanllugan i deulu'r Hughesiaid drwy'r briodas hon. Dilynodd Pryce ei dad fel asiant William Herbert, ail Ardalydd Powis, tra oedd yr olaf yn byw mewn alltudiaeth gan iddo gael ei ddrwgdybio o fod yn
  • HUGHES, RICHARD (c. 1565 - 1619) Cefn Llanfair,, bardd Elizabeth, a'r brenin Iago ar ôl hynny, ac iddo gael blwydd-dâl o £50 ar ôl marwolaeth John Hedde. Nid oes nac awdl na chywydd ar glawr o'i waith, ond y mae rhai englynion. Ond ei gerddi rhydd yw ei gerddi pwysicaf. Ceir ei waith yn Cymdeithas Llên Cymru, i, Carolau Richard Hughes, a Cymdeithas Llên Cymru, v-vi, Caniadau yn y Mesurau Rhyddion, lle y ceir ar dud. 49 ganddo dri phennill o faled, ' Bywyd y
  • HUGHES, RICHARD (1794 - 1871), argraffydd a chyhoeddwr Mab Hugh a Mary Hughes, Brynhaulog, Adwy'r Clawdd, sir Ddinbych. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol Evans, Minera, ac aeth oddi yno i weithio yn ariandy Kendrick yn Hope Street, Wrecsam. Ar ôl tymor byr yno aeth i felin bapur isaf Bersham i ofalu am y llyfrau cyfrifon, a phan fu Broseley y perchennog farw ymhen ysbaid fe barhaodd y felin i weithio o dan enw Hughes and Phillips. Priododd Anne
  • HUGHES, RICHARD SAMUEL (1855 - 1893), cerddor Ganwyd 14 Gorffennaf 1855, yn Aberystwyth, mab Benjamin ac Ann Samuel Hughes a gadwai siop nwyddau haearn gyferbyn â chloc y dref. Amlygodd athrylith gerddorol yn blentyn, a gallai ganu'r piano yn 5 mlwydd oed. Yn eisteddfod Aberystwyth, 1865, enillodd ar ganu'r piano, a phroffwydodd Brinley Richards, ' Owain Alaw,' ac ' Ieuan Gwyllt ' y byddai 'yn gerddor enwog.' Yn 1870 aeth i'r Royal Academy
  • HUGHES, RICHARD SAMUEL (1888 - 1952), gweinidog (MC) ac athro Ganwyd 18 Mehefin 1888, yn Nhanycelyn, Rhostryfan, Sir Gaernarfon, mab Samuel a Mary Hughes. Ar ôl y cwrs arferol yn ysgol elfennol ei bentref bu am rai blynyddoedd yn gweithio mewn masnachdy, ac oddi yno aeth i ysgol Clynnog â'i fryd ar y weinidogaeth. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), a graddiodd mewn diwinyddiaeth yn y Coleg Diwinyddol
  • HUGHES, ROBERT (1811 - 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i'w dŷ pa lyfrau a ddefnyddid yn y Bala, ac ymlafnio ag elfennau Groeg a Hebraeg a Lladin wrtho'i hunan. Yr oedd wedi dechrau pregethu yn 1838 (blwyddyn ei briodas â Catherine Hughes o'r Gelli, Deneio), ac yn bregethwr pur hynod, a bu'n teithio gyda John Jones, Talsarn; yr oedd yn ffraeth ei dafod a chyda hynny'n pregethu'n ddarluniadol. Ordeiniwyd ef yn 1848, ac yr oedd yn fugail answyddogol ar y
  • HUGHES, ROBERT (Robin Ddu yr Ail o Fôn; 1744 - 1785), bardd
  • HUGHES, ROBERT ARTHUR (1910 - 1996), meddyg cenhadol yn Shillong, Meghalaya, Gogledd-ddwyrain India ac arweinydd dylanwadol yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru Ganwyd ef a'i efaill, John Harris Hughes, yng Nghroesoswallt ar 3 Rhagfyr 1910, yn feibion i'r Parchedig Howell Harris Hughes, gweinidog yn y dref, a'i briod, Mrs Annie Myfanwy Hughes (gynt Davies) o Garth, ger Llangollen, a fu'n brifathrawes yn Rhosllannerchrugog. Symudodd y teulu yn fuan o Groesoswallt i Fangor pan aeth eu tad yno'n weinidog eglwys y Tabernacl ac yn Ysgol y Garth y cafodd y
  • HUGHES, ROBERT GWILYM (1910 - 1997), bardd a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd Gwilym Hughes 17 Awst 1910 ym Methesda, Arfon, yn ail fab i Robert John ac Elisabeth Hughes, ei dad o Waen Pentir, a'i fam o Drefdraeth ym Môn. Bu ei dad yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn wedi'r Streic Fawr (1900-03), a gwyddai ef a'i frawd Richard Môn Hughes o brofiad am y tlodi a ddilynodd y streic ym Methesda. Pan oedd yn bedair oed, symudodd y teulu i Lôn Bopty, Bangor, lle y cawsant
  • HUGHES, ROBERT OWEN (Elfyn; 1858 - 1919), newyddiadurwr a bardd Ganwyd 8 Hydref 1858 yn Plough Street, Llanrwst, mab Charles Hughes a'i wraig. Bu yn Ysgol Frutanaidd Llanrwst cyn cael ei brentisio yn ariandy Pugh Jones and Co., lle yr arhosodd am saith mlynedd. Wedi hynny paratôdd ar gyfer gweinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd eithr yn ddiweddarach bu yn Llundain yng ngwasanaeth Kirby and Endean, cyhoeddwyr llyfrau. Yn 1883 priododd Elizabeth, merch Edward
  • HUGHES, ROBERT RICHARD (1872 - 1957), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd 2 Ionawr 1872 ym Mhont Myfyrian, bwthyn ar ymyl y rheilffordd nid nepell o Frynsiencyn a'r Gaerwen, Môn, mab Thomas a Margaret Hughes. Cafodd addysg yn ysgol Frytanaidd Llanidan; ysgol St. John, Porthaethwy; High School Croesoswallt; Coleg y Gogledd, Bangor (lle cafodd radd B.A. Prifysgol Llundain); a Choleg y Bala. Magwyd ef yn eglwys Brynsiencyn dan weinidogaeth John Williams; a phan