Canlyniadau chwilio

901 - 912 of 2571 for "john hughes"

901 - 912 of 2571 for "john hughes"

  • HUGHES, ROWLAND (1811 - 1861), gweinidog Wesleaidd (1854), Lerpwl (1857), a Dinbych (1860). Priododd Elizabeth, merch y Parch. David Evans ' y cyntaf.' Bu farw yn Ninbych dydd Nadolig 1861. Yr oedd yn un o brif bregethwyr Cymru yn ei ddydd. Cyhoeddodd gyfieithiad diwygiedig o esboniad John Wesley ar y Testament Newydd, cyfieithiad o bregeth gan Thomas Jackson (Trefnyddiaeth Wesleyaidd), ac o lyfr gan R. Young (Cyfarchiad Caredig i rai newydd
  • HUGHES, ROYSTON JOHN (BARWN ISLWYN), (1925 - 2003), gwleidydd Ganwyd ef ar y 9fed o Fehefin 1925 yn Pontllan-fraith, Sir Fynwy, yn fab i John Hughes, glöwr, a Florence Tucker. Yn ystod ei beichiogrwydd nesaf, clafychodd Florence Hughes, a chymerwyd Roy, a oedd tua blwydd oed ar y pryd, at rieni ei dad. Cymerodd Elizabeth Hughes, ei fodryb, ofal ohono, ac arhosodd gyda hi drwy gydol ei blentyndod. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Pontllanfraith, ac ysgol
  • HUGHES, SIÂN (1811 - 1878) - gweler HUGHES, JANE
  • HUGHES, STEPHEN (1622 - 1688), un o'r Anghydffurfwyr bore Mab John Hughes, sidanydd yn nhref Caerfyrddin. Ni wyddys odid ddim am ei hanes yn ei ieuenctid, ond y mae'n bosibl iddo fod yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Cafodd fywoliaeth Meidrum yn 1654, a dywedir iddo gael bywoliaeth Merthyr (yn Sir Gaerfyrddin) cyn hynny. Yr oedd yn ŵr o ddylanwad yng nghyfnod Cromwell.Tua 1658 fe'i cawn yn dechrau ar waith mawr ei fywyd, sef cyhoeddi llyfrau Cymraeg i'r
  • HUGHES, T. ROWLAND - gweler HUGHES, THOMAS ROWLAND
  • HUGHES, THOMAS (1854 - 1928), gweinidog Wesleaidd gyfundeb i fynd i goleg prifysgol yng Nghymru. Golygodd Y Winllan, 1894-7, Yr Eurgrawn Wesleaidd 1912-28. Cyhoeddodd Esboniad ar yr Actau; Ymneilltuaeth Eglwys Loegr; Cofiant John Evans, Eglwysbach (cyd-awdur â J. P. Roberts); ysgrif, ' Beirniadaeth y Beibl, ei Hegwyddorion Cyffredinol a'i Gwerth '; erthyglau i'r Geiriadur Beiblaidd; ysgrif arweiniol Llestri'r Trysor, 1914.
  • HUGHES, THOMAS (Glan Pherath; 1803 - 1898), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gydiol â'r oes o'r blaen; bu'n gwrando ar John Evans, y Bala, yn pregethu, ac yr oedd John Evans wedi ei eni yn 1723. Yr oedd y ddwy oes yn pontio yn ymyl dwy ganrif gyfan. Ysgrifennodd Thomas Hughes ei atgofion i Cymru (O.M.E.) dan y pennawd ' Atgofion Glan Pherath,' yn 1894-5.
  • HUGHES, THOMAS (1758 - 1828), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd adeiladydd, a bu wrthi'n codi capelau ym Manceinion ac yng Ngogledd Cymru. Bu farw 2 Tachwedd 1828, yn 70 oed. Y mae cyfrol goffa iddo ef a Thomas Edwards, gan John Jones (1829), sy'n cynnwys peth prydyddiaeth ganddo. Merch iddo, Mary (a fu farw 9 Medi 1860), oedd gwraig Richard Williams (1802 - 1842).
  • HUGHES, THOMAS (1814 - 1884), gweinidog Wesleaidd Ganwyd yn Llangynog, 1814, mab Thomas Hughes, pregethwr cynorthwyol wedi hynny ar gylchdaith Llangollen, a nai'r Parch. Evan Hughes. Aeth i'r weinidogaeth a theithiodd ar gylchdeithiau Cymraeg Aberteifi (1842) a Chaerfyrddin (1844), ac ar gylchdeithiau Saesneg yn Lloegr o 1846 hyd 1871. Bu farw 31 Ionawr 1884 ym Moreton. Cyhoeddodd amryw lyfrau (megis The Great Barrier; Prayer and the Divine
  • HUGHES, THOMAS HYWEL (1875 - 1945), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ysgolhaig, diwinydd, ac athronydd Ganwyd 10 Gorffennaf 1875 ym Mhen-clawdd, mab Daniel ac Ann Hughes. Yn ôl y Parch. W. Glasnant Jones, Abertawe, bu'n gweithio am ysbaid fel crydd yn Nhre-gŵyr cyn mynd i ysgol y Gwynfryn, Rhydaman. Addysgwyd ef yn New College a Phrifysgol Llundain lle y graddiodd yn B.A. (anrhyd. dosb. 1af mewn Athroniaeth), a B.D. (anrhyd. dosb. 1af mewn Diwinyddiaeth Feiblaidd). Urddwyd ef yn Gunnersbury yn
  • HUGHES, THOMAS ISFRYN (1865 - 1942), gweinidog Wesleaidd Ganwyd 16 Hydref 1865 yng Nghlocaenog, sir Ddinbych, mab John Hughes, gwerinwr goleuedig a diwinydd praff. Dechreuodd bregethu yn ddeunaw oed, derbyniwyd i'r weinidogaeth yn 1887, ac wedi tymor yng ngholeg diwinyddol Handsworth gwasanaethodd gylchdeithiau Abergele (1890), Llanfaircaereinion (1891), y Rhyl (1893), Tywyn (1895), Coed-poeth (1896), Tre-garth, (1899), Mynydd Seion, Lerpwl (1902
  • HUGHES, THOMAS JOHN (Adfyfr; 1853 - 1927), newyddiadurwr Ganwyd ym Mhenybont-ar-Ogwr, 1853, mab y Parch. Thomas Hughes o bentref Meisgyn, Morgannwg. Daeth yn newyddiadurwr ac yn gynrychiolydd nifer o bapurau Saesneg dyddiol yng Nghymru. Ysgrifennodd ar ustusiaid yng Nghymru a landlordiaeth yng Nghymru, ac ailgyhoeddwyd rhai o'i ysgrifau gan Ffederasiwn Genedlaethol Rhyddfrydwyr Cymru. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd personol i Alfred Thomas, barwn 1af