Canlyniadau chwilio

1021 - 1032 of 2571 for "john hughes"

1021 - 1032 of 2571 for "john hughes"

  • JOHN ap JOHN (1625? - 1697), Apostol y Crynwyr yng Nghymru Fox i argyhoeddi'r ddau, un dros dro, a'r llall, sef John ap John, am ei oes. Dychwelodd at Forgan Llwyd gydag 'adroddiad' a throi ei gefn ar ei athro cyntaf. O hyn allan, disgybl i George Fox, ac apostol y Crynwyr yng Nghymru ydoedd. Sefydlodd ei 'eglwys' gyntaf ym Mhen-y-cefn, a chenhadu'n ebrwydd yng Ngwrecsam, gan deithio oddi yno i lawr gyda'r gororau, i'r De - i Fynyw ac i Forgannwg, lle y
  • John David - gweler JONES, DAVID JOHN
  • JOHN OF WALES - gweler IOHANNES WALLENSIS
  • JOHN - gweler WALLENSIS, JOHANNES
  • JOHN WYN ap MAREDUDD (bu farw 1559), gwleidydd - gweler WYNN
  • JOHN, AUGUSTUS EDWIN (1878 - 1961), arlunydd Ganwyd 4 Ionawr 1878, trydydd plentyn Edwin William John a'i wraig Augusta (ganwyd Smith); brawd iau Gwendolen Mary John. Symudodd y teulu o Hwlffordd, Penfro, i Ddinbych-y-pysgod wedi marwolaeth y fam yn 1884. Cafodd Augustus John ei addysg gynnar yn Ninbych-y-pysgod a Clifton, cyn mynd i Lundain yn 1894 i astudio celf am bedair blynedd yn y Slade, dan oruchwyliaeth Henry Tonks a Frederick Brown
  • JOHN, BRYNMOR THOMAS (1934 - 1988), gwleidydd Llafur Ganwyd ef ar 18 Ebrill 1934, yn fab i William Henry John, paentiwr ac addurnwr, a Sarah Jane John. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Wood Road, Trefforest, Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd a Choleg y Brifysgol, Llundain. Graddiodd yn Ll.B. (gradd anrhydedd) ym 1954. Roedd yn glerc yn gwneud ei erthyglau rhwng 1954 a 1957. Daeth yn gyfreithiwr ym 1957. Roedd ar wasanaeth cenedlaethol, 1958-60, gan
  • JOHN, DAVID (1782? - 1853), gweinidog gyda'r Undodwyr, Siartydd, a gof wrth ei alwedigaeth Suliau a chyda'r nos ar ddyddiau gwaith, dysgid pynciau a fyddai o fudd i weithwyr gyda'u gwahanol orchwylion. Yr oedd ei feibion, DAVID JOHN a MATTHEW JOHN, yn flaenllaw ymysg y Siartwyr. Bu David John, a oedd yn danbaid ei natur fel Siartydd, yn gyd-gyhoeddwr (gyda Morgan Williams) Udgorn Cymru, 1840-2, papur Siartaidd, ac un Saesneg, The Advocate and Merthyr Free Press, 1840; pum rhifyn o'r un
  • JOHN, DAVID, Siartydd - gweler JOHN, DAVID
  • JOHN, EDWARD THOMAS (1857 - 1931), diwydiannwr a gwleidyddwr Ganwyd 14 Mawrth 1857 ym Mhontypridd. Bwriodd ei gyfnod diwydiannol yn Middlesbrough, yn aelod o ffyrm Bolckow, Vaughan, a Williams, gwneuthurwyr haearn - ffyrm a sefydlwyd gan John Vaughan (1799? - 1868), Cymro a fu'n gweithio yn ei ieuenctid fel ' roll-turner ' yng ngwaith haearn Clydach ym mhlwy Llanelli yn sir Frycheiniog, ac a atynodd lawer iawn o Gymry i Middlesbrough ar un cyfnod. Y mae
  • JOHN, EWART STANLEY (1924 - 2007), diwinydd, gweinidog gydag enwad yr Annibynwyr, athro a phrifathro coleg Ganwyd Stanley John ar gyrion pentref Wdig, Abergwaun, ym mhlwyf Llanwnda, ar 20 Mai 1924, y chweched o saith plentyn Dafydd (a oedd yn ddiacon ac yn godwr canu yn eglwys Rhosycaerau) a Mary Ann John, Bwlch y Rhos (man ei eni) ac yn ddiweddarach, Ffynnon Clun a Brynhyfryd. Fe'i haddysgwyd yn ysgol elfennol Wdig ac yn Ysgol Sir Abergwaun, lle yr enynnodd ei athro Saesneg, D. J. Williams, gariad
  • JOHN, GEORGE (1918 - 1994), gweinidog (Bed.) a phrifathro coleg Ganwyd George John ym Mhen-rhiw, plwyf Eglwys Wen, Sir Benfro, ar 8 Tachwedd 1918, yn fab i William a Margaret John. Roedd ganddo un chwaer, Mattie, a dwy hanner chwaer o briodas gyntaf ei dad. Addysgwyd ef yn yr ysgol gynradd leol, ac yn Ysgol y Sir, Aberteifi. Bedyddiwyd ef yn Eglwys y Bedyddwyr, Bethabara, ac yno, o dan weinidogaeth y Parchg Lewis Young Hayden, y codwyd ef i bregethu. Yn 1938