Canlyniadau chwilio

1045 - 1056 of 2571 for "john hughes"

1045 - 1056 of 2571 for "john hughes"

  • JOHNES, ARTHUR JAMES (1809 - 1871), barnwr llysoedd sirol o'r De hefyd, ac ymestynnai o Gaergybi i'r Gelli ('Hay'). Ymdaflodd i'w waith yn gydwybodol, ond ni chyfyngodd ei weithgarwch a'i ddiddordeb i'w ddyletswyddau swyddogol. Ymgyfathrachai â chlerigwyr llengar megis Walter Davies ('Gwallter Mechain'), John Jenkins ('Ifor Ceri'), a Thomas Richards, ac yr oedd yn un o hyrwyddwyr The Cambrian Quarterly Magazine, 1830-3. Yn 1831 enillodd wobr a gynigiwyd
  • JOHNES, JOHN (1800 - 1876), bargyfreithiwr a barnwr llys sirol Mab John Johnes (D.L., U.H., uchel siryf sir Gaerfyrddin, 1803), Dolau Cothi, Sir Gaerfyrddin, ac Elizabeth, merch John Bowen, Maes, Llanwrthwl. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen. Priododd, yn 1822, Elizabeth, merch y Parch. John Edwards, Gileston Manor, Sir Forgannwg. Cafodd ei wneuthur yn fargyfreithiwr (o'r Inner Temple) yn 1831. Bu'n gomisiynwr cynorthwyol o dan ddeddf
  • JOHNES, THOMAS (1748 - 1816) Hafod,, tirfeddiannwr, arloeswr amaethyddol, a llenor yno. Adeiladwyd plasty newydd iddo gan Thomas Baldwin (gweler D.N.B.), ac ychwanegwyd ato gan John Nash (gweler arno); llosgwyd y tŷ yn 1807, ond ailgodwyd ef gan Baldwin. Adeiladwyd hefyd lawer o dai newydd ar hyd y stad, cyflogwyd meddyg i ofalu am y tlodion, codwyd eglwys newydd, ac agorwyd ysgol i ferched; ond rhoddwyd y prif sylw i'r tir. Gwnaed gerddi cywrain ar dir y plas; gwnaed arbrofion
  • JOHNS, DAVID Llanfair Dyffryn Clwyd, ficer Gwr o Feirion. Yn B.M. MS. 9817, mewn llythyr, geilw ei hun 'David Johns al's ap John ap Hugh ap Howel,' ac yr oedd 'Howel ap Jenkyn o Ynys y Maengwyn,' gwr y bu Tudur Aled yn ei foli, yn hendaid iddo. Urddwyd ' David ap John' yn ddiacon ar 1 Tachwedd 1569, ac yn offeiriad (' David ap John, alias Johns ') ar y Nadolig 1570. Fe'i penodwyd ('collated') yn offeiriad Llanfair Dyffryn Clwyd ar 22 Medi
  • JOHNS, DAVID (1796 - 1843), cenhadwr ym Madagascar am yn agos i 17 mlynedd dros Gymdeithas Genhadol Llundain Mab John Jones, Llain, Llanina, Sir Aberteifi. Yr oedd yn aelod yn eglwys yr Annibynwyr yn Penrhiwgaled. Bu dan addysg yn academi Neuaddlwyd, yn seminari'r Drenewydd, ac yn Gosport, ac ordeiniwyd ef i'r maes cenhadol ar 16 Chwefror 1826. Priododd Mary, ferch William Thomas, 1749 - 1809, gweinidog yr Annibynwyr yn y Bala. Aeth â gwasg argraffu a pheiriant nyddu gydag ef i Madagascar, a bu'n
  • JOHNS, WILLIAM (1771 - 1845), gweinidog ac athro Undodaidd, ac awdur Ganwyd yn 1771 mhlwyf Cilmaenllwyd (Caerfyrddin, ar ochr Sir Benfro). Ni wyddys ddim am ei dras, ond gellir nodi bod y cyfenw John(s) yn gyffredin yng nghofnodion eglwys Glandwr, Sir Benfro (gweler J. Lloyd James, Hanes Eglwys Glandŵr, 141-3), a ofalai am Annibynwyr Cilmaenllwyd. Anghyson hefyd yw'r adroddiadau o'i ddyddiau bore. Dywedir iddo weithio ar dyddyn ei dad (ac na fedrai ddim Saesneg
  • teulu JONES Llwynrhys, Dyma deulu a gysylltir yn agos ag Anghydffurfiaeth gynnar yng nghanol Sir Aberteifi. Tŷ hir, gyda'i nenbrenni yn cyrraedd o'r llawr hyd y to, a adeiladwyd yn y 15fed ganrif, oedd Llwynrhys, ym mhlwyf Llanbadarn Odwyn (Peate, Welsh House, 78-9). Trwyddedwyd y tŷ, fel eiddo JOHN JONES, i Forgan Howell bregethu ynddo, 28 Hydref 1672 (Richards, Wales under the Indulgence, 156); a thua'r un adeg
  • teulu JONES, Teulu o ofaint a ffermwyr, beirdd, cantorion a phregethwyr Cilie, Amaethent 'Y Cilie', fferm o dros dri chan erw uwchben y môr rhwng Llangrannog a Cheinewydd, Ceredigion. Gof oedd y tad, Jeremiah Jones (ganwyd 9 Ebrill 1855; bu farw 19 Chwefror 1902), a hanai o deulu o ofaint yng ngogledd Penfro, teulu â chysylltiad agos, yn ôl traddodiad, â Beirdd Cwm-du, ger Castell Newydd Emlyn (gweler Siencyn Thomas, a John Jenkin). Daeth ef a'i briod Mary (ganwyd George
  • JONES, Syr THOMAS (bu farw 1622?), clerigwr a bardd -72). Fe sylwir mai'r 'Iolo MS.' yn unig sy'n cysylltu'r bardd â Llandeilo'r Bertholau; ac y mae gan ' Iolo Morganwg ' nodyn arno (a ddyfynnir yn Hen Gwndidau, 282) a dynnwyd, meddai ef, ' o Lyfr Harri Siôn o Bont y Pwl ' (Henry John) - nid oes fodd gwybod pa faint ohono sy'n wir, nac ychwaith a yw W. O. Pughe yn iawn pan ddywed yn y Cambrian Biography (ar dystiolaeth ' Iolo,' mae'n debyg) i Thomas
  • JONES, ABEL (Bardd Crwst; 1830 - 1901), baledwr a chantwr pen ffair .), cyf. i. Gwyddys ei fod yn canu yn 1864 beth bynnag, a chlywodd 'Elfyn' (R. O. Hughes) ef yn canu yn Abergele yn gynnar yn 1901 - y mae llawer sydd eto'n fyw wedi ei glywed. Bu ar un adeg yn byw yn yr Wyddgrug, 'mewn cwrt yn y Stryd Fawr,' ac edrydd Ellis Edwards y byddai'n troi i mewn i siop Daniel Owen y nofelydd am sgwrs. Canai nid yn unig yng Ngogledd Cymru ond yn y Deheudir hefyd, a seiliwyd
  • JONES, ALFRED ERNEST (1879 - 1958), seicdreiddiwr a chofiannydd swyddogol Sigmund Freud ., M.R.C.S.), a blwyddyn yn ddiweddarach cafodd radd Prifysgol Llundain mewn meddygaeth (M.B.) ag anrhydedd a medalau aur mewn meddygaeth ac obstetreg, a dyfarnwyd medal aur y brifysgol mewn obstetreg iddo gan Syr John Williams. O fewn pum mlynedd, enillodd gyfres o raddau uwchradd (M.D., a medal aur, M.R.C.P., D.P.H.), ond wedi sawl anghytundeb â phwyllgorau'r ysbytai lle'r oedd yn gweithio, bu'n rhaid
  • JONES, ALICE GRAY (Ceridwen Peris; 1852 - 1943), awdures Ganwyd Rhagfyr 1852 yn Llanllyfni, yn ferch i David ac Ellen Jones. Yr oedd ei thad yn frawd i'r Parch John Jones, Brynrodyn, a'i mam yn gyfnither i'r Parch. John Roberts ' Iolo Caernarfon '. Addysgwyd yn ysgol Dolbadarn, Llanberis a Choleg Hyfforddi Abertawe, a bu'n brif athrawes ei hen ysgol cyn iddi briodi (1881) y Parch. William Jones, gweinidog Fourcrosses. Bu iddynt 4 o blant. Bu'n olygydd