Canlyniadau chwilio

1057 - 1068 of 2571 for "john hughes"

1057 - 1068 of 2571 for "john hughes"

  • JONES, ALWYN RICE (1934 - 2007), Archesgob Cymru Ganwyd Alwyn Rice Jones ar 25 Mawrth 1934 yng Nghapel Curig, Sir Gaernarfon, unig blentyn John Griffith Jones, chwarelwr llechi, a'i wraig Annie. Bu farw ei fam a'i dad yn ifanc, gan ei adael yn amddifad yn bedair ar ddeg oed. Fe'i magwyd mewn cymuned Gymraeg, a'r Gymraeg oedd ei iaith gyntaf ar hyd ei oes. Mynychodd Ysgol Ramadeg Llanrwst ac enillodd ysgoloriaeth i astudio'r Gymraeg yng Ngholeg
  • JONES, ANEURIN (Aneurin Fardd; 1822 - 1904), llenor Ganwyd 27 Hydref 1822 yn Nhŷ'r Eglwys, Bedwas, Mynwy, yn fab i John Jones ('Shôn Fardd'), a fu wedyn yn felinydd yn y Gelli-groes, Pontllanfraith. Cafodd addysg dda, a phrentisiwyd ef yn bensaer a pheiriannydd sifil. Dilynodd ei alwedigaeth yn y Gelli-groes, ac wedi marw ei dad cymerth at y felin hefyd, heblaw trin ychydig dir. Daeth yn fore'n adnabyddus fel gŵr hyddysg yn y mesurau caethion, a
  • JONES, AUDREY EVELYN (1929 - 2014), athrawes ac ymgyrchydd dros hawliau menywod Ganwyd Audrey Jones ar 15 Hydref 1929 yn Bushey, Hertfordshire, yr hynaf o dri o blant John Henry Reed (1901-1971), heddwas, ac Evelyn Mary Reed, (ganwyd Tofield, 1898-1938), gwerthwraig papurau newydd. Roedd ganddi frawd Bernard (ganwyd 1936) a chwaer Marion (ganwyd 1938). Ar ôl marwolaeth gynnar ei mam, symudodd y teulu i Essex. Enillodd Audrey le yn Chelmsford County High School for Girls, ac
  • JONES, BASSETT (fl. ganol y 17eg ganrif), meddyg ac ysgolhaig ryw Marie Hughes, a merch o'r enw Marie Jones o ryw Katherine Miles. Yn ôl achau'r Golden Grove Book ni chafodd blant o'i wraig Katherine Lloyd.
  • JONES, BENJAMIN (1756 - 1823), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Trecyrnfawr, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, 29 Medi 1756. Eglwyswyr cefnog oedd ei deulu â'u bryd ar iddo gymryd urddau eglwysig. Addysgwyd ef i ddechrau gan glerigwr yn ysgol Llanddewi-efelffre, Sir Benfro. Daeth dan ddylanwad Richard Morgan, Henllan, a John Griffith, Glandwr, a wnaeth iddo droi at yr Annibynwyr; ymaelododd yn eglwys Henllan ac yno y dechreuodd bregethu yn 18 oed. Yn 1775
  • JONES, CADWALADR (1783 - 1867), gweinidog gyda'r Annibynwyr a golygydd cyntaf Y Dysgedydd Ganwyd Mai 1783 yn y Deildre Uchaf, Llanuwchllyn, unig blentyn John a Dorothy Cadwaladr. Ni bu ei rieni erioed yn perthyn i'r Ymneilltuwyr ac nis cyfrifid yn grefyddwyr amlwg - at yr Eglwys Sefydledig y gogwyddent. Yr oedd ef yn 11 oed pan ddaeth Dr. George Lewis yn weinidog i Lanuwchllyn, ac ef a'i derbyniodd yn aelod yn yr Hen Gapel yn 1803. Dechreuodd bregethu yn 1806, a derbyniwyd ef yr un
  • JONES, CADWALADR (1794 - 1883), saer maen a cherddor Ganwyd yn Talgruffydd, ger Castell Prysor, Trawsfynydd, yn 1794, mab John a Cathrin Cadwaladr Jones. Cymerodd at ddysgu cerddoriaeth yn ieuanc, a cherddai o Drawsfynydd i Fangor i gael gwersi gan Dr. Pring, organydd yr eglwys gadeiriol. Yr oedd yn chwaraewr da ar y ffidil. Bu'n arwain y canu yn eglwys Trawsfynydd am 50 mlynedd, a phan aeth ei lais yn grynedig, cymerai ei ffidil i arwain y canu
  • JONES, CAIN, almanaciwr Mab John Edwards ('Sion y Potiau'). Ni wyddys ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ei frawd Abel, a fu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Merthyr Tydfil, yn Llansantffraid Glyn Ceiriog, 21 Rhagfyr 1740, a theg yw casglu fod Cain yn hŷn nag Abel. Ar farwolaeth Gwilym Howel, yn 1775, ymgymerodd â golygu'r almanac Tymmhorol, ac wybrennol Newyddion. Bu'n gyfrifol am 20 rhifyn a gyhoeddwyd gan Eddowes yn
  • JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS (Cynan; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr ' (yr Wyddgrug 1923), sef stori cenhadaeth y Tad Damien at y gwahangleifion, yn ei gwneud hithau'n gerdd oblogaidd, a'r drydedd ' Y Dyrfa ' (Bangor 1931), cerdd am gêm rygbi, yn beth cwbl newydd yn yr iaith. Yr oedd dylanwad beirdd Saesneg cyfoes, yn enwedig John Masefield a J. C. Squire, ar y pryddestau eisteddfodol, ond gallodd Cynan gymathu'r dylanwadau hyn mor llwyr nes peri fod rhin gwbl Gymreig
  • JONES, DAFYDD (Dafydd Siôn Siâms; 1743 - 1831), cerddor, bardd, a llyfr-rwymwr Bedyddiwyd 5 Mai 1743 yn eglwys Llandanwg, Sir Feirionnydd, mab John a Gwen James. Bu'n byw ym Maentwrog, lle y priododd ei wraig gyntaf, ac ym Mhenrhyndeudraeth (lle yr adeiladodd dy a'i alw'n ' Llundain'). Gofalai am y canu yn eglwys plwyf Llanfrothen ac âi o gwmpas i eglwysi eraill i ddysgu cantorion. Dywedir iddo adael yr Eglwys gan ymuno â'r Methodistiaid Calfinaidd, a gofalu am y canu yn y
  • JONES, DAFYDD (1711 - 1777), emynydd Ganwyd 1711 yng Nghwm Gogerddan, Caeo, Sir Gaerfyrddin, mab Daniel John, porthmon. Porthmon oedd yntau hefyd, a chafodd dröedigaeth yng nghapel Troed-rhiw-dalar wrth ddychwelyd adref o borthmona. Ymunodd ag eglwys Annibynnol Crug-y-bar, a bu'n aelod blaenllaw yno ar hyd ei oes. Priododd, (1), Ann Jones, Llanddewi-brefi, (2) - Price, Hafod Dafolog, Llanwrda. Aeth i fyw i'r Hafod c. 1763; bu farw
  • JONES, DAFYDD RHYS (1877 - 1946), ysgolfeistr a cherddor Ganwyd 10 Mehefin 1877, ym Maes Comet, Drofa Dulog, Patagonia, yn un o ddeg o blant Dafydd Jones a Rachel (ganwyd Williams) ei wraig. Yr oedd y tad yn y fintai gyntaf i lanio ar draethau Patagonia. Hanai o ardal Blaen-porth, Ceredigion, o'r un teulu â John Jones, Blaenannerch (1807 - 1875;). Ymfudasai teulu'r fam o Brynmawr i'r wladfa Gymreig yn Rio Grande yn Brazil ac yr oedd hi'n rhugl mewn