Canlyniadau chwilio

49 - 60 of 60 for "Cynan"

49 - 60 of 60 for "Cynan"

  • OWAIN FYCHAN ap MADOG ap MAREDUDD (bu farw 1187), tywysog Powys un o feibion Madog o Susanna, merch Gruffydd ap Cynan. Yn ôl cân gyfoes, ym Mechain, Cynllaith, a Mochnant-Isrhaeadr y gorweddai ei diroedd ef; yr oeddent yn ffurfio cainc rhwng tiroedd ei frawd hynaf, Gruffydd, a thiroedd ei gefnder, Owain Cyfeiliog. Yr oedd iddo bersonoliaeth ychydig uwchlaw'r cyffredin. Collodd ei fywyd yng Ngwern-y-Figyn gerllaw Carreg Hofa lle yr ymosodwyd arno yn fradwrus
  • OWAIN GLYNDWR (c. 1354 - 1416), 'Tywysog Cymru' ddisgynnydd o Owain Gwynedd a Gruffydd ap Cynan; ac wedi marw Owen ap Tomas ap Rhodri yn 1378, ychydig a oedd yn aros a chanddynt well hawl na'r eiddo ef i etifeddiaeth y tywysogion Llywelyn. Priododd (yn 1383, efallai) â Margaret, ferch David Hanmer, Maelor; bu chwe mab ac amryw o ferched o'r briodas. O'r meibion ymddengys mai Maredudd yn unig a oroesodd ei dad. Nid oedd unrhyw argoel ym mywyd cynnar Owain
  • OWAIN GWYNEDD (c. 1100 - 1170), brenin Gwynedd Ail fab Gruffydd ap Cynan ac Angharad, ferch Owain ab Edwin. Fe'i gelwir yn Owain Gwynedd i'w wahaniaethu oddi wrth Owen ap Gruffydd arall, a adnabyddir fel Owain Cyfeiliog. Priododd, (1), Gwladus, ferch Llywarch ap Trahaearn, a (2), Christina, ei gyfnither, merch Gronw ab Owain ab Edwin, merch y glynodd yn ffyddlon wrthi er gwaethaf anghymeradwyaeth egnïol yr Eglwys. Cafodd ddau fab o Gwladus
  • PARRY, JOHN (Y telynor dall; 1710? - 1782) Ganwyd ef ym Mryn Cynan yn agos i Nefyn, Sir Gaernarfon, c. 1710. Dywed 'Carnhuanawc' mai Robert Parry, Llanllyfni, a ddysgodd iddo'r gelfyddyd o ganu'r delyn, a dywed Edward Jones ('Bardd y Brenin') iddo gael gwersi gan Stephen Shon Jones o Benrhyndeudraeth. Daeth John Parry yn un o delynorion gorau Prydain a bu'n canu'r delyn ym mhrif gyngherddau'r deyrnas yn Llundain, Caergrawnt, Rhydychen, a
  • PIERCE, ELLIS (Elis o'r Nant; 1841 - 1912), awdur rhamantau hanesyddol a llyfrwerthwr , 1884); Rhamant Hanesyddol: Gruffydd ab Cynan (Dolyddelen a Blaenau Ffestiniog, 1885); Gwilym Morgan: Neu gyfieithydd cyntaf yr Hen Destament i'r Gymraeg (Bala, 1890); Syr Williams o Benamnen (Caernarfon, 1894); Teulu'r Gilfach, neu Robert Sion (Caernarfon, 1897); a Dafydd ab Siencyn yr Herwr, a Rhysyr Arian Daear (Caernarfon, 1905). Ysgrifennai'n gyson i'r Faner o 1865 i 1900, a chyfrannodd i'r
  • RHODRI ab OWAIN (bu farw 1195), tywysog yng Ngwynedd mab Owain Gwynedd a Christina, a brawd iau Dafydd I. Yr oedd ei gyfran ef o diriogaeth Owain Gwynedd ym Môn ac Arfon eithr alltudiwyd ef o'r gyfran honno yn 1190 gan ei neiaint, Gruffydd a Maredudd, meibion Cynan. Yn 1193 llwyddodd i adennill Môn dros dymor trwy gymorth llu o Ynys Manaw - yr oedd cyn hynny wedi ymrwymo i briodi merch i frenin Manaw. Ni wyddys a fu iddo ddychwelyd o'i alltud a
  • RHYS ap GRUFFYDD (Yr Arglwydd Rhys), (1132 - 1197), arglwydd Deheubarth Mab iau Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr, a Gwenllian, ferch Gruffydd ap Cynan. Pedair oed yn unig oedd pan fu ei dad farw, y daeth ei hanner brodyr Anarawd a Chadell yn arweinwyr y gwrthryfel yn Ne Cymru yn erbyn y Normaniaid. Pan oedd yn 13 oed fe'i ceir gyda'i frawd hŷn, Maredudd, yn ymladd o dan arweiniad Cadell yn 1146. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf gwelwyd ail-ffurfio hen frenhiniaeth Deheubarth
  • RHYS AP TEWDWR (bu farw 1093), brenin Deheubarth (1078-1093) cystadleuwyr dynastig er mwyn hyrwyddo ei hawliau ei hun. Mae Brut y Tywysogyon yn dyddio dechrau ei deyrnasiad tua 1078 heb nodi ffiniau ei diriogaeth. Enillodd Rhys fuddugoliaeth bwysig iawn yn 1081 ym mrwydr Mynydd Carn lle ymgynghreiriodd ag arglwydd Gwynedd Gruffudd ap Cynan a oedd wedi cynnull llu o hurfilwyr o Iwerddon. Dywed y cofnod cwta yn nhestun cynharaf yr Annales Cambriae (tua 1100) i Rys a
  • RHYS ap TEWDWR (bu farw 1093) Wyr Cadell ab Einion ab Owen ap Hywel Dda. Cymerth lywodraeth Deheubarth i'w ddwylo yn 1075 ar farw ei gyfyrder, Rhys ab Owain ab Edwin. Yn 1081 cymerwyd y llywodraeth oddi arno gan Garadog ap Gruffydd, eithr yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, gyda chymorth Gruffydd ap Cynan, fe'i cadarnhawyd mewn meddiant ohoni ar ôl brwydr bwysig Mynydd Carn. Yn yr un flwyddyn aeth William y Concwerwr ar daith
  • teulu ROBINSON Conwy, Monachdy, Gwersyllt, da fel pregethwr (credai Syr John Wynn o Wydir mai ei bregethau difyfyr, 'o'r frest,' oedd orau) ac fel ysgolhaig a ieithydd; ar gais tad Syr John Wynn cyfieithodd hanes Cymraeg bywyd Gruffydd ap Cynan i'r Lladin (y mae wedi ei argraffu yn Archæologia Cambrensis, III, xii, 30, 112), ac ysgrifennodd draethawd (sydd heb ei gyhoeddi) ar hanes yr eglwys gadeiriol : cymerwyd y dabled goffa bres oddi yno
  • TALIESIN (fl. ail hanner y 6ed ganrif), bardd Llyn Tegid, llys Maelgwn yn Negannwy, a llys Elffin ple bynnag yr oedd. Am y Cynfardd, Taliesin, nid oes sicrwydd. Yn ôl ei eiriau ef ei hun nid oedd yn perthyn i ddeiliaid Urien, ond teithiodd at deyrnedd y gogledd ac aros i'w clodfori. Gellid felly roi ei gartref yng Nghymru, a chan y priodolwyd iddo foliant Cynan ab Brochfael brenin Powys, yr hen Bowys helaeth, mae esgus o reswm dros ei wneuthur
  • TRAHAEARN ap CARADOG (bu farw 1081), brenin Gwynedd ar yr union adeg pan oedd amgylchiadau y llinachau pennaf yn bur isel. Pan fu Bleddyn farw yn 1075 cipiodd Trahaearn yr awenau yng Ngwynedd. Heriwyd ei awdurdod gan Gruffudd ap Cynan, cynrychiolydd hen linach Gwynedd, a gorchfygwyd ef yn Glyngin ym Meirionnydd; yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, fodd bynnag, adenillodd ei awdurdod ym Mron-yr-erw a gorfodi Gruffudd i fynd i alltudiaeth am yr ail dro