Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 182 for "Gruffudd"

1 - 12 of 182 for "Gruffudd"

  • GRUFFUDD ap LLYWELYN (bu farw 1063), brenin Gwynedd a Phowys, ac ar ôl 1055 brenin Cymru oll Gruffudd ap Llywelyn yn frenin Gwynedd a Phowys. Yn union wedyn trawodd ergyd yn erbyn Saeson Mercia ym mrwydr Rhydygroes-ar-Hafren a gyrrodd hwynt yn waedlyd ar ffo. Dug y fuddugoliaeth hon ef i amlygrwydd, ac o hyn hyd ei farwolaeth parhaodd yn darian i'w wlad ac yn ddychryn i'w gelynion. Ar ôl taro gwŷr Mercia a sicrhau'r gororau troes ei sylw at y Deheubarth, lle yr oedd Hywel ab Edwin yn frenin. Ni
  • GRUFFUDD AP LLYWELYN (bu farw 1064), brenin Gwynedd 1039-1064 a phenarglwydd ar y Cymry oll Mab ydoedd i Lywelyn ap Seisyll ac Angharad merch Maredudd. Roedd Gruffudd yn un o dywysogion Brythonaidd mwyaf llwyddiannus yr Oesoedd Canol, a honna Llyfr Llandaf mai ef oedd 'brenin Cymru benbaladr'. Serch hynny, yn unol â'r syniad canoloesol am Olwyn Ffawd, daeth ei yrfa i ben mewn alltudiaeth a marwolaeth dreisgar. Hanai ei dad Llywelyn o Bowys yn wreiddiol. Cipiodd frenhiniaeth Gwynedd trwy
  • RHYS AP TEWDWR (bu farw 1093), brenin Deheubarth (1078-1093) Roedd Rhys yn fab i Dewdwr ap Cadell ac felly'n ddisgynnydd i'r tywysog mawr o'r ddegfed ganrif Hywel Dda, ond nid oedd neb o'i linach wryw uniongyrchol wedi dal y frenhiniaeth ers y ddegfed ganrif. Wrth ddod i rym elwodd Rhys o'r arafu a fu ar oresgyniad y Normaniaid yn ne Cymru wedi 1075 yn ogystal ag o ymdrechion ei gefnder pell Caradog ap Gruffudd (arglwydd Gwent Uch Coed ac Iscoed) i ddileu
  • GRUFFUDD ap CYNAN (c. 1055 - 1137), brenin Gwynedd y flwyddyn honno daeth Gruffudd drosodd o Iwerddon i geisio ennill ei dreftadaeth, a glaniodd yn Abermenai. Gyda help Robert o Ruddlan gorchfygwyd a lladdwyd Cynwrig, a deyrnasai yn Llŷn o dan Drahaearn. Mewn brwydr ym Meirionnydd gorchfygwyd Trahaearn yntau, a'i yrru ar ffo i'w wlad ei hun, Arwystli. Fel brenin Gwynedd y peth cyntaf a wnaeth Gruffudd oedd ymosod ar y castell Normanaidd newydd yn
  • GRUFFUDD BENRHAW, neu PENRHAW (fl. 15fed ganrif), bardd y gwyddys ei fod yn ŵr o Frycheiniog ac o dylwyth yr Awbreaid. Cadwyd cyfres o englynion a fu rhwng Gruffudd ap Nicolas, Owain Dwnn, ac yntau. Ceir darnau o ryddiaith gyda'r rhain, a'r cyfan yn rhoi gwahanol helyntion y Fenrhaw, a oedd yn 'ddyn dyrys drwg ei reol.' Rhoir hanes ei garcharu yng Nghaerfyrddin a'i ryddhau drwy gymorth Gruffudd ap Nicolas; ei ail-garcharu a thalu ei ddyled gan Tomas
  • GRUFFUDD ap GWRGENAU, bardd Nid erys o'i waith ond (1) awdl farwnad i'r tywysog Gruffudd ab Cynan ap Owain Gwynedd, a fu farw (1200) yn fynach yn abaty Aberconwy, a (2) cadwyn o englynion yn datgan hiraeth y bardd ar ôl rhai o'i gymdeithion. Y mae'r awdl yn gwbl arbennig ymhlith y marwnadau i'r tywysogion am mai ail le a roddir i achau a gyrfa a haelioni'r gwrthrych. Nid syniadau'r canu arwrol sydd ynddi'n bennaf, ond
  • GRUFFUDD LEIAF (fl. 15fed ganrif), bardd Brodor o sir Ddinbych, mab Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch, o linach Owain Gwynedd (Peniarth MS 127 (17)). Ceir englyn o'i waith yn Cwrtmawr MS 242B (1) ac NLW MS 6499B (1). Priodolir cywydd i'r dylluan iddo mewn rhai llawysgrifau hefyd, e.e. Cardiff MS. 64 (552), ac Esgair MS. 1 (37); ond rhoir enw Dafydd ap Gwilym, ac aelodau eraill o deulu Gruffudd, sef Rhobert Leiaf a Syr Sion
  • LLYGAD GŴR (fl. -1268-), bardd moliant Y mae Gwilym Ddu yn ei gysylltu â'r Tŵr, Edeirnion, h.y. Hendwr, Llandrillo. Syrth ei waith i ddau ddosbarth: (a) canu i dri o fân dywysogion gogledd Powys, sef Gruffudd (bu farw 1269) a Hywel (bu farw tua 1268), feibion Madog ap Gruffudd Maelor, a Llywelyn, fab Gruffudd ap Madog uchod. Gan amlaf yr oedd y rhain yn ffyddlon i'r Llyw Olaf, ac fe'u molir am 'gadw terfyn heb wathrudd,' sef am
  • IEUAN ap GRUFFUDD LEIAF (fl. ail hanner y 15fed ganrif), bardd Aelod o un o deuluoedd sir Ddinbych, mab Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch, o linach Owain Gwynedd (Peniarth MS 127 (19)). Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau ac awdlau i aelodau teulu'r Penrhyn a Nanconwy, cywyddau brud a chrefyddol, cywydd i Aberconwy, cywydd dychan i afon Llugwy am rwystro'r bardd ar ei ffordd i'r Penrhyn, ac
  • HYWEL FOEL ap GRIFFRI ap PWYLL GWYDDEL (fl. c. 1240-1300), bardd Canodd ddwy awdl i Owain Goch ap Gruffudd pan oedd hwnnw yng ngharchar gan ei frawd, y tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Ni wyddys dim amdano ac ni chafwyd unrhyw enghraifft arall o'i waith.
  • EINION OFFEIRIAD (fl. c. 1320), y gwr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r 'llyfr cerddwriaeth' cynharaf sydd gennym hynny yw, llyfr yn trafod celfyddyd cerdd dafod, ac yn rhoddi talfyriad Cymraeg o'r gramadeg Lladin a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol. Canodd awdl i Rys ap Gruffudd ap Hywel ap Gruffudd ab Ednyfed Fychan, a pherthyn hon i'r cyfnod 1314-22. Myn Syr Thomas Williams yn NLW MS 3029B mai gwr 'o Wynedd ' ydoedd, ac iddo lunio'r gramadeg 'yr ynrrydedd a Moliant' i'r un Rhys ap Gruffudd. Ni chyfeirir ato
  • GRUFFUDD FYCHAN Syr (bu farw 1447), milwr O Froniarth a Threlydan ym mhlwyf Cegidfa, Sir Drefaldwyn. Mab ydoedd i Ruffudd ab Ieuan ap Madog ap Gwenwys o Fawd ferch Griffri ap Rhys Fongam. Olrheiniai teulu Gwenwys eu hachau o Frochwel Ysgithrog. Ymddengys mai ym mhlwyf Cegidfa yn swydd Ystrad Marchell yr oedd prif ganolfannau'r teulu. Bu nifer o'i aelodau yn flaenllaw ym mhlaid Owain Glyndŵr, a Gruffudd ab Ieuan yn un ohonynt. Yn