Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 284 for "Gruffydd"

1 - 12 of 284 for "Gruffydd"

  • GRUFFYDD ap MADOG (bu farw 1191) mab Madog ap Maredudd a Susanna, merch Gruffydd ap Cynan, a sylfaenydd prif linach deyrnasol gogledd Powys yn ystod y 13eg ganrif. Pan rannwyd y dalaith yn ddwy adran o ddylanwad ar farwolaeth Madog ap Maredudd yn 1160, yr oedd tiroedd i'r gogledd o'r Rhaeadr yn agored i gael eu rhannu unwaith yn rhagor cydrhwng Gruffydd a'i frodyr; gweler Owain Fychan ac Owen Brogyntyn. Ei gyfran ef oedd Maelor
  • CYNWRIG HIR (fl. 1093) Edeirnion Yn ' Hanes Gruffydd ap Cynan ' adroddir amdano'n dyfod i Gaer lle'r oedd Gruffydd yn garcharor Hu Iarll ers deuddeng mlynedd, gweld y tywysog mewn gefynnau, ei gario i ffwrdd tra oedd y bwrdeisiaid wrth eu bwyd, ei gadw'n ddirgel tros dro yn ei dŷ ei hun, ac yna ei ddwyn yn llechwraidd i Fôn. Os gwir yr hanes, yr oedd yn weithred dyngedfennol yn hanes Cymru yn wyneb pwysigrwydd gyrfa Gruffydd a'i
  • GRUFFYDD ap IEUAN ap LLYWELYN FYCHAN (c. 1485 - 1553), bardd ac uchelwr Mab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Yr oedd yn byw yn Llannerch, Llewenni Fechan, gerllaw Llanelwy. Cyhoeddodd J. C. Morrice Detholiad o Waith Gruffydd ab Ieuan ab Llewelyn Vychan a gasglwyd o wahanol lawysgrifau yn y British Museum (Bangor, 1910) a rhoes beth o hanes y bardd; ceir cyfeiriadau at lawysgrifau eraill yn y llyfryddiaeth. Ceir gan T. A. Glenn yn ei lyfr a enwir The Family of Griffith of
  • teulu LESTRANGE Great Ness, Cheswardine, Knockin, Bu JOHN LESTRANGE (a fu farw c. 1269) yn dyst i'r cytundeb rhwng Dafydd ap Gruffydd a'r brenin Harri III ym mis Mai 1240; yn Mawrth 1241 apwyntiwyd ef i farnu achos Dafydd, ac yn Ionawr 1245 yr oedd yn aelod o gomisiwn i wneud telerau â Dafydd. Priododd Hawise, merch John Lestrange, â Gruffydd ap Gwenwynwyn. Yn 1244-5 ysgrifennodd John Lestrange at Harri III i ddweud wrtho am gynhorthwy Gruffydd
  • GRUFFYDD ap RHYDDERCH ap IESTYN (bu farw 1055), brenin Pan feddiannwyd y Deheubarth gan Gruffydd ap Llywelyn yn 1044, rhoddwyd ynni newydd i wrthwynebiad y De; gan arweiniad Gruffydd ap Rhydderch; felly adenillodd ei hannibyniaeth yn 1045. Rhoddodd Gruffydd i'w wlad fabwysiedig lywodraeth rymus a nodweddwyd gan wrthwynebiad i'r Daniaid. I raddau gellir priodoli ei hawl i ymyrryd yn helyntion Deheubarth i'r ffaith i'w dad lwyddo i gipio'r awdurdod yno
  • ROBERT, GRUFFYDD (c. 1527 - 1598), offeiriad, gramadegydd a bardd Brodor o sir Gaernarfon oedd Gruffydd Robert. Ni wyddys pryd y ganwyd ef, ond dengys dogfennau a ddiogelir ym Milan iddo gael ei eni circa 1527 yn fab i ryw Robert a'r domina Catherina de Griffis, sef y foneddiges Catrin ferch Gruffudd. Posibilrwydd atyniadol yw mai'r brydyddes Catrin ferch Gruffudd ap Hywel a'i chymar, yr offeiriad Syr Robert ap Rhys o Landdeiniolen, a olygir. Yr oedd brydyddes
  • GRUFFYDD, IFAN (1896 - 1971), llenor Ganwyd 1 Chwefror 1896 yn Rhos-y-ffordd, Llangristiolus, Môn, yn fab i Mary Gruffydd. Bu'n gweini ar ffermydd yn ei gynefin o 1909 ymlaen - yn Fferam, Paradwys ymhlith lleoedd eraill; ymunodd â'r fyddin yn 1914 a pharhau'n filwr hyd 1920 gan wasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc a'r Aifft; wedyn bu'n arddwr ym Mhlas Trescawen am 12 mlynedd, yn weithiwr ar y ffordd fawr, ac
  • GRUFFYDD, ROBERT (1753 - 1820), cerddor
  • GRUFFYDD LLWYD Syr (bu farw 1335), arwr traddodiadol gwrthryfel tybiedig Cymreig yn 1322 Gorwyr Ednyfed Fychan, senesgal Llywelyn ab Iorwerth. Yn yr achau Cymreig disgrifir ef fel arglwydd Tregarnedd yn sir Fôn a Dinorwig yn Sir Gaernarfon; daliai diroedd hefyd yn Twynan a mannau eraill yng ngogledd sir Ddinbych, yn Llansadwrn yn Sir Gaerfyrddin, ac yn Llanrhystud yn Sir Aberteifi. Etifeddasai Tregarnedd a'r tiroedd yn sir Ddinbych ar ôl ei dad, Rhys ap Gruffydd, a fu farw yn gynnar
  • ANGHARAD (bu farw 1162) Gwraig Gruffydd ap Cynan, a merch Owain ab Edwin, un o benaethiaid dwyrain Gwynedd. Priododd Gruffydd tua'r flwyddyn 1095, yn gynnar yn ei ymdrech am allu; goroesodd Angharad ei gŵr flynyddoedd lawer, gan farw yn 1162. Dyma eu plant: Cadwallon (bu farw 1132), Owain (Gwynedd), Cadwaladr, a phum merch, sef Gwenllian, Marared, Rainillt, Susanna, ac Annest. Priododd Gwenllian Gruffydd ap Rhys a daeth
  • teulu CHERLETON JOHN CHERLETON (1268 - 1353) Mab Robert, Arglwydd Cherleton yn Wrockwardine, Sir Amwythig. Yn 1309 priododd Hawys (Hawise) Gadarn, chwaer ac aeres Gruffydd ab Owain (bu farw 1309), arglwydd Powys. Yr oedd y Cherletoniaid (Charltoniaid) felly yn arglwyddi y 'rhan honno o Gymru yn y 14eg ganrif a dechrau'r 15fed. Gwrthwynebwyd gwaith John Cherleton yn meddiannu Powys gan Gruffydd ap Gruffydd
  • GRUFFYDD ap RHYS (c. 1090 - 1137), tywysog Deheubarth Mab Rhys ap Tewdwr a Gwladus, merch Rhiwallon ap Cynfyn. Pan dorrodd hen frenhiniaeth y De i lawr ar farw Rhys ap Tewdwr yn 1093, aethpwyd â'r aer, Gruffydd, nad oedd eto namyn plentyn, i Iwerddon, lle y cafodd gartref a lloches yn ystod ei blentyndod a thra yr ydoedd yn tyfu i fod yn ddyn. Pan ddychwelodd yn 1113 amharwyd ar gymorth gwlatgar ei gyfoedion ieuanc gan agwedd ofnus a gofalus rhai