Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 284 for "Gruffydd"

25 - 36 of 284 for "Gruffydd"

  • DAFYDD AP MAREDUDD GLAIS, llofrudd, swyddog dinesig, ysgrifydd a chyfieithydd Roedd Dafydd ap Maredudd Glais yn aelod o un o deuluoedd blaenllaw Aberystwyth yn y bymthegfed ganrif. Gweithredodd fel twrnai dros ei dad yn 1432-3 a chafodd ei garcharu yng nghastell Aberteifi am ôl-ddyledion. Ymddengys iddo fod yn saethydd, fel ei dad, ac yn 1438 cafodd lythyr gwarchodaeth i fynd dramor yng ngosgordd Edmund Beaufort. Yn 1439 bu'n warantwr, gyda John Roubury a Gruffydd Prôth
  • CYNFRIG ap DAFYDD GOCH (fl. c. 1420), bardd Ceir amryw o gywyddau o'i waith, yn eu plith dau gywydd mawl i Wiliam o'r Penrhyn, cywydd i ofyn paun a pheunes gan Robin ap Gruffydd Goch dros Lowri Llwyd ferch Ronwy, a chywydd i Dudur ap Iorwerth Sais (Rhys ap Cynfrig Goch yn ôl Cwrtmawr MS 244B (52); Gruffydd Gryg yn ôl Llanstephan MS. 11 (105), Peniarth MS 64 (122), a NLW MS 3047C (793)).
  • GWENLLIAN (bu farw 1136) Merch Gruffydd ap Cynan ac Angharad, merch Owain ab Edwin. Daeth yn wraig Gruffydd ap Rhys yn fuan wedi 1116; ei mab enwocaf oedd yr Arglwydd Rhys. Pan gychwynnodd y gwrthryfel Cymreig mawr yn 1136 arweiniodd Gwenllian, yn absenoldeb ei gŵr, y cyrch ar amddiffynfa'r Normaniaid yng Nghydweli a chafodd ei lladd wrth ymladd y tu allan i'r dref mewn man a elwir yn Maes Gwenllian hyd heddiw.
  • teulu FITZ WARIN, arglwyddi Whittington, Alderbury, Alveston, Angharad merch Madog ap Gruffydd â mab Fulk, ond ni bu priodas; nid oes sicrwydd ai gwrthwynebiad Llywelyn a achosodd fethiant y cynllun. Ar ôl ei fuddugoliaeth yn Lewes ar 14 Mai 1264, ceisiodd Simon de Montfort gynhorthwy Llywelyn ap Gruffydd trwy ganiatáu iddo, ar 22 Mehefin 1265, wasanaeth ffiwdal arglwydd Whittington; yn ôl cytundeb Trefaldwyn, 29 Medi 1267, cysylltwyd y wlad unwaith eto â Chymru
  • HAWYS (HAWISE) GADARN (1291 - cyn 1353) merch Owen de la Pole a Joanna Corbet ac ŵyres Gruffydd ap Gwenwynwyn. Gan ei bod yn aeres ei hunig frawd, Gruffydd, a fu farw yn 1309, daeth yn ward y Goron, a rhoddwyd hi'n wraig i John Charlton ynghyd â barwniaeth Powys, yn yr un flwyddyn. Bu iddi ddau fab - John, ail arglwydd (Charlton) Powys, ac Owen, a fu farw yn ddietifedd. Y mae'n debyg mai yn nhŷ y Brodyr Llwydion, Amwythig, y claddwyd
  • IAGO ab IDWAL ap MEURIG (bu farw 1039), brenin Gwynedd gor-wyr i Idwal Foel. Wedi i dreiswyr yn olynol gipio'r awdurdod yng Ngwynedd rhwng 986 a 1033 - gweler Maredudd ab Owain, Llywelyn ap Seisyll, Rhydderch ap Iestyn - adferwyd yr hen linach ym mherson Iago. Teyrnasiad byr o chwe mlynedd a gafodd cyn ei lofruddio ac i Gruffydd ap Llywelyn ap Seisyll gymryd ei le. Mab iddo oedd Cynan, tad Gruffydd ap Cynan, y tywysog a lwyddodd o'r diwedd i ail
  • teulu PHYLIP, beirdd Teulu o feirdd yn byw yn Ardudwy, Sir Feirionnydd, yn y 16eg a'r 17eg ganrif. Ymestyn eu cyfnod o c. 1543, a awgrymir yn flwyddyn geni Siôn Phylip, hyd 1678, pryd y profwyd ewyllys Phylip Siôn Phylip, un o'i feibion. Yr oedd y brodyr Siôn a Rhisiart, a'r brodyr Gruffydd a Phylip Siôn, yn canu yn y mesurau caethion, gan mwyaf, ac y mae digon yn eu gweithiau i dystio bod Siôn, Rhisiart, a Gruffydd
  • CARADOG ap GRUFFYDD ap RHYDDERCH (bu farw 1081) Ŵyr Rhydderch ab Iestyn, gŵr o ddylanwad yn Ne Cymru hyd ei farw yn 1033, a mab Gruffydd ap Rhydderch, cydymgeisydd Gruffydd ap Llywelyn, gan yr hwn y'i lladdwyd yn 1055. Yng Ngwynllwg a Gwent yr oedd cartref y teulu; yn y rhanbarth hwn o Gymru y daw Caradog i'r golwg gyntaf, yn 1065, pryd y daeth ar warthaf tŷ hela'r iarll Harold yn Portskewet, gan ei ddistrywio ac anrheithio'r gymdogaeth - heb
  • OWAIN FYCHAN ap MADOG ap MAREDUDD (bu farw 1187), tywysog Powys un o feibion Madog o Susanna, merch Gruffydd ap Cynan. Yn ôl cân gyfoes, ym Mechain, Cynllaith, a Mochnant-Isrhaeadr y gorweddai ei diroedd ef; yr oeddent yn ffurfio cainc rhwng tiroedd ei frawd hynaf, Gruffydd, a thiroedd ei gefnder, Owain Cyfeiliog. Yr oedd iddo bersonoliaeth ychydig uwchlaw'r cyffredin. Collodd ei fywyd yng Ngwern-y-Figyn gerllaw Carreg Hofa lle yr ymosodwyd arno yn fradwrus
  • HYWEL ab EDWIN (bu farw 1044), brenin Deheubarth mab Edwin ab Einion a gor-wyr i Hywel Dda. Pan fu'r cipiwr Rhydderch ap Iestyn farw yn 1033, daeth Hywel a'i frawd Maredudd, fel etifeddion hynaf Hywel Dda, yn gydfrenhinoedd Deheubarth. Bu Maredudd farw yn 1035, gan adael Hywel i deyrnasu ar ei ben ei hun, ac ar ei ysgwyddau ef y cwympodd y baich trwm o amddiffyn y De yn erbyn y Vikingiaid a chipiwr y Gogledd, Gruffydd ap Llywelyn. Alltudiwyd ef
  • MAELGWN ap RHYS (fl. 1294), gwrthryfelwr mab Rhys Fychan, arglwydd olaf Genau'r Glyn yng ngogledd sir Aberteifi, a disgynnydd Maelgwn ap Rhys ap Gruffydd. Yn 1294, pan dorrodd gwrthryfel (o dan arweiniad Madog ap Llywelyn yng Ngogledd Cymru a Morgan ap Rhys ym Morgannwg) yn erbyn llywodraeth estron, fe'i gwnaeth Maelgwn ei hun yn arweinydd y gwrthryfelwyr yn Sir Aberteifi. Yn ystod yr ymgyrch yng ngorllewin Cymru bu gwarchae caled
  • ANARAWD ap GRUFFYDD (bu farw 1143), tywysog Mab hynaf Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr; pan fu farw ei dad yn 1137 fe'i dilynodd fel arweinydd gwŷr Deheubarth. Eisoes, er ieuenged oedd, yr oedd wedi dangos peth ysbryd annibynnol yn y flwyddyn honno; dengys cronicl Tyddewi iddo, heb ganiatâd ei dad, ladd 'Letard frenin bach' - gormeswr o'r cylch a oedd o'i gartref yn Nhreletert yn gormesu ar glerigwyr a thrigolion morynys Pebidiawg. Yn 1138