Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 284 for "Gruffydd"

13 - 24 of 284 for "Gruffydd"

  • teulu OWEN Peniarth, , Heraldic Visitations, a (b) yn J. E. Griffith, Pedigrees, 323. Braslun yn unig a roir yma. Hawliai'r teulu ddisgyn o Ednowain ap Bradwen. Ceir LLEWELYN a dalodd warogaeth am ei diroedd i'r brenin Edward I. Mab i Lewelyn oedd EDNYFED, a briododd Gwenllian, merch a chydaeres Gruffydd ab Adda ap Gruffydd, Dôl Goch, rhaglod cwmwd Ystumaner am beth amser yn ystod amser Edward III - ceir beddrod Gruffydd ab
  • MADOG ap GRUFFYDD (bu farw 1236), arglwydd Powys Mab hyn Gruffydd Maelor I ac Angharad, ferch Owen Gwynedd. Ynghyd â'i frawd Owen, dilynodd Gruffydd Maelor yn 1191, a phan fu Owen farw yn 1197 daeth yn unig reolwr Powys i'r gogledd o afonydd Rhaeadr a Thanat. O hyn ymlaen daeth y wlad hon - a gynhwysai Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg, Iâl, Cynllaith, Nanheudwy, a rhan o Mochnant - i'w galw yn Powys Fadog o'i chyferbynnu â Phowys Wenwynwyn
  • MADOG FYCHAN ap MADOG ap GRUFFYDD (bu farw 1269) ŵyr Gruffydd Maelor I a brawd Gruffydd Maelor II. Pan fu ei dad farw yn 1236 ymunodd Madog Fychan yn y rhannu a ddilynodd ar Powys Fadog. Yr oedd ei osgo ef ar broblemau gwleidyddol mawr y cyfnod yn gyffelyb i eiddo Gruffydd Maelor I. Yn 1245 ceir ef ymhlith cynghreiriaid Dafydd II; yn 1258 yr oedd ar ochr Llywelyn II. Nid oedd y ffaith i'w ymrwymiad ar ran Tudur ab Ednyfed gael ei dderbyn gan
  • CYNAN ab IAGO (bu farw 1060?), tywysog a alltudiwyd mab Iago ab Idwal, yn disgyn o Rodri Mawr, ac arglwydd Gwynedd o 1033 hyd 1039. Pan lofruddiwyd Iago yn 1039 gan ei wŷr ei hun a dyfod Gruffydd ap Llywelyn, o linach arall, i awdurdod, ffoes Cynan i blith Daniaid Dulyn. Yno priododd Ragnhildr, ŵyres Sitric 'â'r farf sidanog' (bu farw 1042), ac felly daeth i berthyn i'r teulu brenhinol. Yn ôl David Powel (Historie of Cambria) fe ymdrechodd
  • RHYS ap TEWDWR (bu farw 1093) Wyr Cadell ab Einion ab Owen ap Hywel Dda. Cymerth lywodraeth Deheubarth i'w ddwylo yn 1075 ar farw ei gyfyrder, Rhys ab Owain ab Edwin. Yn 1081 cymerwyd y llywodraeth oddi arno gan Garadog ap Gruffydd, eithr yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, gyda chymorth Gruffydd ap Cynan, fe'i cadarnhawyd mewn meddiant ohoni ar ôl brwydr bwysig Mynydd Carn. Yn yr un flwyddyn aeth William y Concwerwr ar daith
  • teulu ELLIS Bron y Foel, Ystumllyn, Ynyscynhaearn fel y cyfrifid Ieuan, brawd Syr Howel y Fwyall, yn gyndad hen deulu Madryn, Sir Gaernarfon. Priododd HOWELL AP MEREDYDD, Bron y Foel, Gwenllian, ferch Gruffydd ab Ednyfed Fychan. Aer y briodas oedd GRUFFYDD AB HOWEL. Ei aer ef, o'i wraig Angharad, oedd EINION AP GRUFFYDD, siryf sir Gaernarfon, 1354-6, a mab arall oedd Syr Howel y Fwyall. Dilynwyd Einion gan IEUAN AB EINION, siryf sir Gaernarfon
  • CADELL ap GRUFFYDD (bu farw 1175) Mab Gruffydd ap Rhys (bu farw 1137). Clywir sôn amdano gyntaf yn 1138; yn y flwyddyn honno dug ef a'i frawd Anarawd, ynghyd ag Owain a Chadwaladr o Wynedd, 15 o longau rhyfel Danaidd - o Ddulyn, y mae'n fwy na thebyg - hyd at aber afon Teifi, mewn ymgais i gymryd tref Aberteifi, y lle olaf a oedd o dan lywodraeth y Normaniaid yng Ngheredigion. Yn ystod y blynyddoedd nesaf yr oedd yn ddinod o'i
  • DAFYDD ap GRUFFYDD DREWYN, bardd
  • GRUFFYDD, ROBERT (Patrobas; 1832 - 1863), bardd Ganwyd 7 Tachwedd 1832 yn Penymaes, Nefyn, Sir Gaernarfon, mab Robert a Catrin Gruffydd. Aeth yn fasnachwr, eithr bu farw o'r darfodedigaeth, 21 Ebrill (20 Ebrill yn ôl Not. W.) 1863, yn ddyn cymharol ieuanc, gan adael gweddw a dau o blant. Y flwyddyn cynt cyhoeddwyd Byr Ganeuon gan Patrobas (Pwllheli, 1862, ac arg. arall); ymddangosodd rhai caneuon o'i waith yn Y Dysgedydd a chyfnodolion eraill.
  • EDNYFED FYCHAN oedd mor helaeth ac wedi eu gwasgaru ar led hefyd, a hynny ar delerau mor ffariol, yn gwneuthur y bobl hyn yn rhagflaenwyr y dosbarth hwnnw o ysgwieriaid Cymreig y mae ei ddyfod i sylw yn elfen amlwg yn y cyfnod ar ôl y goncwest. Nid ydyw'r tablau achau yn cytuno'n gyfan gwbl â'i gilydd ynglyn a nifer plant Ednyfed. Yn ystod y blynyddoedd y bu Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffydd (1240-62) yn
  • CATRIN ferch GRUFFYDD ab IEUAN ap [LLYWELYN?] FYCHAN (fl. 16eg ganrif), bardd Merch, y mae'n debyg, i'r bardd Gruffydd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Un gerdd ganddi a gadwyd, sef awdl i Dduw ac i'r byd - yn NLW MS 722B (155). Ymddengys mai chwaer iddi, Ales ferch Gruffydd ab Ieuan, biau'r cywydd a geir yn Cardiff MS. 19 (742), Cwrtmawr MS 14C (72), ac NLW MS 6681B (404).
  • DAFYDD BAENTIWR (fl. tua 1500-30?), bardd Ni chadwyd dim o'i waith ac eithrio'i ymryson â Gruffydd ab Ieuan ap Rhys Llwyd. Cynnwys hwn osteg i Ruffydd gan Ddafydd, cywydd ateb Gruffydd, a chywydd arall gan Ddafydd. Ceir yr ymryson yn y llawysgrifau canlynol: Caerdydd 7, Mostyn 143, NLW MS 5269B, Peniarth MS 112 a Peniarth MS 152, a rhan ohono yn NLW MS 728D a Peniarth MS 78.