Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 665 for "Henry Parry"

13 - 24 of 665 for "Henry Parry"

  • JONES, JOHN OWEN (1857 - 1917), gweinidog ac athro gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor anrhydedd mewn athroniaeth. Penodwyd ef i gymryd y dosbarthiadau elfennol yng Ngholeg y Bala; a phan wnaethpwyd y dosbarthiadau hynny yn 'Adran' ar wahân (1891), rhoddwyd eu gofal ar E. Wynne Parry (gweler dan Parry, Griffith) ac yntau; pan fu farw Parry (1897) daeth yn bennaeth arni. Parhaodd yn ei swydd hyd 1915, pan benderfynwyd diddymu'r adran, er mawr siom iddo. Ymneilltuodd i Gaernarfon; yn 1916
  • SNELL, DAVID JOHN (1880 - 1957), cyhoeddwr cerddoriaeth Ganwyd 1 Awst 1880 yn 44 Dyvatty Terrace, Abertawe, mab Henry ac Eliza (ganwyd Lewis) Snell. Yn 1900 ymsefydlodd mewn busnes yn Alexandra Arcade, Abertawe, yn gwerthu cerddoriaeth, offerynnau cerdd a recordiau. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, pan ymddeolodd y cyhoeddwr Benjamin Parry (1835 - 1910) a fuasai'n gweithio yn Abertawe er 1878, prynodd Snell ei stoc a'i hawlfreintiau a thrwy hynny
  • PARRY, EDGAR WILLIAMS (1919 - 2011), llawfeddyg Ganwyd Edgar Parry ar 1 Mai 1919 yn Swyddfa'r Post, Salem, Betws Garmon, Sir Gaernarfon, ail blentyn Gruffydd Henry Parry, ffermwr o Hafod y Rhug, Llanrug, a'i wraig Helena Parry (g. Williams). Roedd ganddo chwaer hŷn Mary (Vaughan Jones) a ddaeth yn athrawes Bioleg ac yn brifathrawes. Symudodd y teulu i Blas Glanrafon, Waunfawr lle magwyd Edgar. Mynychodd Edgar Ysgol Gynradd Waunfawr ac Ysgol
  • PARRY, Syr THOMAS (bu farw 1560), gŵr llys Mab Harry Vaughan ac ŵyr Syr Thomas Vaughan a gafodd ei wneuthur yn farchog ac wedyn a ddienyddiwyd gan Richard III, ac a oedd yn fab anghyfreithlon Syr Roger Vaughan, Tre Tŵr, sir Frycheiniog, cyndad Henry Vaughan, ' Silurist ', ac yn ŵyr, trwy Syr Dafydd Gam, i Syr Roger Vaughan, Bredwardine, a laddwyd yn Agincourt (1415). Gwenllian oedd ei fam, merch William ap Grono, yntau hefyd o sir
  • HARRIES, EVAN (1786 - 1861), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn Nhŷ'n-y-llan, Llanwrtyd, 7 Mawrth 1786, mab Henry ac Anne Harries. Ei frawd hynaf oedd William Harries, Trefeca. Priododd Mariah, merch y Parch. Dafydd Parry, Llanwrtyd, 1808. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Ebenezer Richard yn 1812; ymunodd ag eglwys Pontrhyd-y-bere a dechreuodd bregethu yn 1814. Aeth i fyw i Aberhonddu yn 1818 i fasnachu fel brethynwr. Ordeiniwyd ef yn sasiwn
  • DAVIES, JOHN (John Davies, Nantglyn';; 1760 - 1843), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Ni ellir yma wneuthur cyfiawnder â'r gwreiddioldeb a'i nodweddai, ond y mae Cofiant byr iddo gan T. Parry (Caerlleon, 1844), a chynhwysir ei hunangofiant yn hwnnw - gweler sylwadau Henry Rees arno, yn Y Drysorfa, 1844, 151; ganwyd 1 Hydref 1760 yn y Glythan Uchaf, Henllan (Dinbych), ac ni chafodd ysgol ond yn un o ysgolion Madam Bevan. Argyhoeddwyd ef yn 1778 gan John Evans o Gil-y-cwm, a
  • JONES, (WILLIAM JOHN) PARRY (1891 - 1963), datganwr Ganwyd 14 Chwefror 1891, ym Mlaenau Gwent (Blaina), Mynwy, yn fab i John Rees Jones, cigydd, a Mary Jones (ganwyd Parry) ei wraig. Enillodd ysgoloriaeth i ysgol sir Abertyleri yn 11 oed, ond gadawodd yr ysgol ar òl 18 mis oherwydd amgylchiadau ariannol y teulu, ac aeth i weithio i'r lofa. Ar ôl astudio mewn dosbarthiadau nos, a'i benodi'n llyfrgellydd yn Sefydliad y Glowyr yno, ymunodd â
  • PARRY, ROBERT WILLIAMS (1884 - 1956), bardd, darlithydd prifysgol Ganwyd 6 Mawrth 1884 yn Madog View, Tal-y-sarn, Sir Gaernarfon, yn fab i Robert a Jane Parry (y tad yn hanner brawd i Henry Parry-Williams). Cafodd ei addysg elfennol yn ysgol Tal-y-sarn, ac yna ysgol sir Caernarfon 1896-98, a blwyddyn yn ysgol sir newydd Pen-y-groes. Treuliodd dair blynedd, 1899-1902, fel disgybl athro. Aeth i Goleg y Brifysgol Aberystwyth yn 1902 ac ymadael yn 1904 wedi dilyn
  • JONES, WILLIAM (1896 - 1961), bardd a gweinidog Ganwyd 24 Medi 1896, Trefriw, Caernarfon, mab Henry Jones, gweinidog (A) a'i wraig Margaret (Madgie), merch William Jones, gweinidog (MC) Trawsfynydd. Addysgwyd ef yn ysgol sir Llanrwst (1908) ac aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1914 a Choleg Bala-Bangor 1914-16. Graddiodd yn y Gymraeg a Hebraeg yn 1917. Ordeiniwyd ef yn weinidog y Tabernacl (A), Betws-y-coed yr un flwyddyn ond
  • PARRY, JAMES RHYS (fl. 1570?-1625?), bardd a droes rai o'r salmau ar gân yn Gymraeg Ni wyddys mo flwyddyn ei eni nac amser ei farw, eithr gellir barnu ei fod yn aelod o ryw gangen o deulu Parry, Poston, sir Henffordd, a Llandefaelog-tre'r-graig, sir Frycheiniog - gweler ach y teulu arbennig hwn yn Jones, Brecknockshire, a Llyfr Baglan, 37. Os felly, bu James yn briod deirgwaith; ac y mae'n fwy na thebyg mai'r drydedd wraig oedd mam ei fab George Parry. Pan aeth y mab hwn i
  • THOMAS, DAVID JOHN (Afan; 1881 - 1928), cerddor Ganwyd 15 Ebrill 1881 yng Nghwmafan, Morgannwg, yn fab i Evan Thomas (arweinydd côr) a'i briod (a oedd yn gantores ac yn ferch i Dafydd Nicholas, yntau'n gerddor gwybodus). Yn ifanc fe ddysgodd ganu'r ffidil a'r piano, ac yn ddiweddarach yr organ yn un o eglwysi Bournemouth ac yn eglwys gadeiriol Llandaf. Cafodd lawer athro cerddorol, yn eu plith Dr. Joseph Parry yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd
  • PARRY, DAVID (1682? - 1714), ysgolhaig Ganwyd yn nhref Aberteifi yn fab i William Parry, 'dyn tlawd.' Tua 1695, pan oedd (i bob golwg) yn ysgol ramadeg Aberteifi (ac 'yn Lladinwr rhugl'), dygwyd ef gan William Gambold y gramadegydd i sylw Edward Lhuyd, a'i cymerth yn gynorthwywr yn ei ymchwiliadau ac yn gydymaith ar ei deithiau yng Nghymru, Iwerddon, Sgotland, Cernyw, a Llydaw (lle y cymerwyd y ddau i'r ddalfa fel 'ysbiwyr'). Ar eu