Canlyniadau chwilio

25 - 36 of 665 for "Henry Parry"

25 - 36 of 665 for "Henry Parry"

  • PARRY, GEORGE (1613? - 1678), clerigwr a wnaeth fersiwn fydryddol Gymraeg o rai o'r salmau Ganwyd c. 1613, mab James Rhys Parry. Ceir rhai manylion am gysylltiadau'r teulu a siroedd Henffordd a Brycheiniog yn yr erthygl ar y tad, ac yn llawnach yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 276-301, a iii, 13-6 - y cwbl o'r bron wedi eu cael yn rhagymadroddion George Parry i'w fersiwn ef fel y ceir hi yn NLW MS 641C. Y mae'n weddol sicr mai yr un ydoedd George Parry mab James
  • DAVIES, GLYNNE GERALLT (1916 - 1968), gweinidog (A) a bardd Ganwyd yn Lerpwl 21 Chwefror 1916, ond magwyd ef yn y Ro-wen, Dyffryn Conwy, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol y Rowen ac ysgol ramadeg Llanrwst. Bu am gyfnod yn gweithio yn swyddfa Henry Jones, cyfreithiwr yn Llanrwst. Dechreuodd bregethu gyda'r MC a bu dan addysg bellach yng Ngholeg Clwyd, Coleg y Brifysgol, Bangor, a'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Safodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn
  • FOSTER, IVOR LLEWELYN (1870 - 1959), datganwr dwywaith ar yr unawd baritôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Caernarfon 1894 a Llanelli 1895). Yn dilyn ei lwyddiant yn Llanelli trefnodd rhai o'i gyfeillion yn y Rhondda gyngherddau i'w gynorthwyo i gael addysg gerddorol; aeth i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ym mis Mai 1896, a bu yno am bedair blynedd yn astudio gyda Henry Blower (llais), James Higgs (cynghanedd) a Villiers Stanford (opera
  • PARRY, JOHN (1789 - 1868), saer maen a cherddor Ganwyd John Parry ar 10 Chwefror 1789 yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, yn fab i Bernard Parry, ffermwr ac athro canu, a'i wraig Elizabeth (g. Saunders). Dengys cyfrifiad 1841 fod John Parry a'i wraig Mary Williams Parry (1784-1849) yn byw gyda'u dau fab ieuengaf, William a Caleb, yn Ochr-y-gop, i'r gogledd-ddwyrain o Drelawnyd. Saer maen oedd John Parry wrth ei grefft, a chyflogai nifer o weithwyr
  • PARRY, HUMPHREY (c. 1772 - 1809), ysgolfeistr, aelod o Wyneddigion a Chymreigyddion Llundain Ganwyd tua 1772 yn y Cwm Mawr, Clynnog Fawr, Arfon. Yn glerc i gyfreithiwr yr aeth i Lundain, ond wedyn bu'n athro cynorthwyol yn ysgol ramadeg y Brewers' Company, Sadler's Wells, dan David Davies. Ar farwolaeth Davies (1797), agorodd Parry ysgol breifat yn Hackney; gellid meddwl iddi fod yn llwyddiant, oblegid yn 1806 sonia am wario £700 ar helaethu ei hadeilad. Yr oedd yn aelod o'r Gwyneddigion
  • PARRY, JOHN HUMFFREYS (1786 - 1825), hynafiaethydd Yr oedd ei dad, Edward Parry (1752 - 1805), fab Edward Parry, ' gent. ', o'r Nercwys yn Sir y Fflint, yn glerigwr; aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1772, ond ni ddengys Foster (Alumni Oxonienses) iddo raddio, serch y rhoddir B.A. iddo mewn cyfeiriadau ato; priodola W. D. Leathart iddo ' high literary attainments.' Bu'n rheithor Llangar (1784-9) a Llanferres (1789-1805) - gweler Thomas, A History
  • PARRY, EDWARD (1798 - 1854), cyhoeddwr llyfrau a hynafiaethydd Ganwyd yn 1798 yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, mab Edward a Mary Parry, ond symudodd i Gaerlleon yn gynnar yn ei fywyd, ac ymsefydlu yno fel llyfrwerthwr, yn gyntaf yn Exchange, Northgate Street, ac yn ddiweddarach yn Bridge Street Row. Yn ei siop lyfrau gwerthid amrywiaeth o weithiau llenyddol Gymreig, llyfrau, a darluniau, o'i waith ef ei hun ac eraill. Ymdaflodd i fywyd Cymreig y ddinas o'r
  • PARRY, WILLIAM (1719 - 1775?), swyddog gwladol, ac ysgrifennydd y Cymmrodorion Ganwyd yn 1719, yn bedwerydd mab i John Parry, Gwredog (o deulu Pendref, Rhodogeidio ger Llannerch-y-medd - J. E. Griffith, Pedigrees, 346), a'i wraig Elizabeth (Thomas), o Drefor yn Llansadwrn. Geilw'r Morysiaid ef yn 'gâr,' ar ba sail nid yw'n eglur; ond yn sicr y mae gyrfa Parry (yn y cyfnod y gwyddom ddim amdani) yn cydredeg yn awgrymog â gyrfa Richard Morris yn y gwasanaeth gwladol. Yr oedd
  • DAVIES, RICHARD (1818 - 1896), aelod seneddol yr ymgais, gan Owen Parry, yn y gyfrol Er Clod (1934, gol. T. Richards), 135-50. Hen sedd Dorïaidd oedd hon, dan fodiau uchelwyr y cylch, a methodd Davies - yr oedd mwyafrif o 93 yn ei erbyn. Eto, ystyrir etholiad 1852 yn garreg filltir yn hanes gwleidyddol Cymru yn y 19eg ganrif Ond daeth cyfle Davies yn nes ymlaen, yn etholiad hanesyddol 1868, pan ddaeth i'r maes dros Ryddfrydwyr Môn. Teulu
  • PARRY, Syr DAVID HUGHES (1893 - 1973), cyfreithiwr, cyfreithegwr, gweinyddwr prifysgol Fe'i ganed ar 3 Ionawr 1893, yn ail blentyn a mab hynaf i John Hughes Parry, ffermwr, a'i wraig Anne (Hughes gynt), yn Uwchlaw'r-ffynnon, Llanaelhaearn, Sir Gaernarfon. Roedd ei fam yn wyres i Robert Hughes, Uwchlaw'r-ffynnon. Fe'i haddysgwyd yn yr ysgol elfennol yn Llanaelhaearn ac yn ddiweddarach yn Ysgol Ramadeg Pwllheli. Ym 1910, ymrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle
  • PARRY, JOHN (1770 - 1820), bardd Ganwyd 29 Mehefin 1770 mewn fferm o'r enw Y Wern, ger Llanelian, sir Ddinbych. Ef efallai yw'r John Parry, mab Edward a Catherine Parry, y nodir ei fedyddio ar 31 Awst 1770 yng nghopïau cofrestri plwyf Llanelian. Derbyniodd addysg dda, fel y mae'n amlwg oddi wrth ansawdd ei farddoniaeth. Pan oedd yn 28 oed, priododd ag Elsbeth Huws, Ffermnant, Llanelian, ac ar un adeg cadwai ef a'i wraig westy yn
  • PARRY, DAVID (1794 - 1877), clerigwr Ganwyd yn 1794 yn Llan-gan, ger yr Hen-dŷ-gwyn-ar-Daf, Sir Gaerfyrddin, mab Dafydd Parry a Dorothy ei wraig. Cafodd ei addysg yn Ystrad Meurig ac ysgol ramadeg Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yn ddiacon, Mawrth 1818, gan yr esgob Burgess o Dyddewi. Trwyddedwyd ef yn gurad i blwyf Crinow, ger Arberth, ac yn Ebrill 1819 i Landisilio ger Clunderwen hefyd. Derbyniodd urddau offeiriad ym Mehefin 1819, ac