Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 1741 for "david evans"

13 - 24 of 1741 for "david evans"

  • ANTHONY, WILLIAM TREVOR (1912 - 1984), canwr Ganwyd Trevor Anthony ar 28 Hydref 1912 yn Nhŷ-croes, ger Rhydaman, yn fab hynaf i David John Anthony a'i wraig Adeline (ganwyd Lewis). Wedi gadael yr ysgol bu'n gweithio dan ddaear a derbyn hyfforddiant lleisiol gan Gwilym R. Jones. Daeth i amlygrwydd pan enillodd gystadleuaeth yr unawd bas yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1934, ac yntau'n ddim ond 21 oed. Un o feirniaid y
  • teulu ANWYL Parc, Llanfrothen Y mae Anwyliaid y Parc, Llanfrothen, yn disgyn o Robert ap Morris, Park (bu farw 1576), pedwerydd mab y Morris ap John ap Meredydd, Rhiwaedog, y ceir ei hanes yn llyfr Syr John Wynn, The history of the Gwydir family. Cymerodd meibion iau Robert ap Morris y cyfenw Roberts, e.e. John Roberts, Vaner, gerllaw Dolgellau, oedd tad David Roberts, rheithor Llanbedrog, caplan i iarll Warwick, eithr
  • AP GWYNN, ARTHUR (1902 - 1987), Llyfrgellydd, a thrydydd llyfrgellydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ei ysgrif 'T. Gwynn Jones' a ymddangosodd yn Yr Efrydydd, I, 1950, tt. 11-15, ei gyfraniad i rifyn coffa canmlwyddiant 'Thomas Gwynn Jones a David de Lloyd', Y Traethodydd (Ionawr 1971) tt. 77-89, ac ysgrif a ymddangosodd yn Taliesin, 24 (1972), tt. 11-24, 'I Aberystwyth Draw.' Yn 1950 cyhoeddwyd ar y cyd â'i dad Geiriadur-Cymraeg a Saesneg-Cymraeg (Caerdydd: Hughes a'i Fab a'r Educational
  • teulu ARNOLD Llanthony, Llanfihangel Crucorney, Cyffredin a diolchwyd iddo (27 Mawrth 1678). Buwyd yn archwilio'r cyhuddiadau mewn pwyllgor yr oedd Syr John Trevor (1637 - 1717) yn gadeirydd iddo; gwnaeth y pwyllgor adroddiad llawn, a'r canlyniad fu chwalu cartref y Jesiwitiaid yn Cwm, Swydd Henffordd, a rhoi'r Brodyr David Lewis, Philip Evans, John Lloyd, ac eraill, i farwolaeth; cymerth Arnold ran amlwg yn y gweithrediadau hyn i gyd. Er ei fod yn
  • ASHBY, ARTHUR WILFRED (1886 - 1953), economegydd amaethyddol amaethyddiaeth llawr gwlad yng Nghymru (a'r Deyrnas Unedig i gyd o ran hynny) o'i thlodi o 1933 ymlaen. Cyfrannodd nifer fawr o erthyglau yn ei faes mewn lliaws o gylchgronau, ac mae ei lyfr (gydag Ifor L. Evans) yn 1943 The Agriculture of Wales and Monmouth, yn gyflawn o wybodaeth ar bynciau'r tir rhwng 1867 ac 1939. Cafodd radd M.A. er anrhydedd yn 1923 a thrwy archddyfarniad yn 1946 gan Brifysgol Rhydychen
  • ATKIN, LEON (1902 - 1976), gweinidog yr Efengyl Gymdeithasol ac ymgyrchydd dros y difreintiedig yn ne Cymru yn 1964. Safodd yn ymgeisydd seneddol yn Nwyrain Abertawe yn yr is-etholiad 28 Mawrth 1963 yn dilyn marwolaeth David Llewelyn Mort. Gwnaeth yn dda, yn drydydd allan o chwech gan lwyddo i gadw ei ernes ac ennill 8% o'r bleidlais, yn fwy nag ymgeiswyr y Comiwnyddion a Phlaid Cymru gyda'i gilydd. Dyma'r canlyniad: Neil McBride (Llafur), 18,909; R. Owens (Rhyddfrydwr), 4,985; Parchg Leon Atkin (Plaid y
  • AWBREY, WILLIAM (c. 1529 - 1595), gwr o'r gyfraith sifil betisiynau a chwestiynau cyfreithiol a anfonwyd iddo fel ' Master of Requests ' gan Burghley a'r Cyfrin Gyngor. Yr oedd Cymry eraill o gyfreithwyr yn cydeistedd ag ef pan oeddid yn dyfarnu ar rai o'r materion cyfreithiol pwysicaf - Cymry fel Dr. Thomas Yale, David Lewis, a Henry Jones (bu farw 1592), rheithor Llanrwst (1554) a Llansannan (1561), a chylch-ganon Llanelwy (1560). Bu Awbrey 'n A.S. dros
  • teulu BACON, perchenogion gweithydd haearn a glo Homfray am na châi ddigon o fetel; aeth yn gweryl rhwng y ddau, trosglwyddodd Homfray ei les i David Tanner, gan sefydlu ei dri mab ef ei hun ychydig yn ddiweddarach mewn gwaith haearn newydd yn Penydarren. Tua mis Mawrth 1786 trosglwyddodd Tanner ei les i Richard Crawshay. Bu Bacon farw yn Cyfarthfa, 21 Ionawr 1786, yn 67 mlwydd oed. Gadawsai ar ei ôl y tri gwaith mawr - Cyfarthfa, Plymouth, a Hirwaun
  • BADDY, THOMAS (bu farw 1729), gweinidog Annibynnol, ac awdur hefyd am gynulleidfaoedd Wrecsam a'r Bala pan ddigwyddai i'r naill neu'r llall fod heb weinidog. Ei wraig oedd Anne, ferch Robert Salusbury, Galltfaenan (Palmer, The Older Nonconformity of Wrexham); daeth eu merch yn wraig i fasnachwr llwyddiannus yn Ninbych o'r enw Pugh, ac ar ei dir ef y codwyd capel Lôn Swan yn 1742. Yr oedd cynulleidfa Baddy (60 mewn nifer, meddai ystadegau John Evans yn 1715) yn
  • BAKER, DAVID (1575 - 1641), ysgolhaig Benedictaidd a chyfriniwr Ganwyd 9 Rhagfyr 1575 yn y Fenni o hen deulu lleol a oedd ond newydd fabwysiadu'r cyfenw Seisnig. Yr oedd ei dad, William Baker, yn ddyn o ysbryd cyhoeddus a wnaeth lawer dros dyfu ffrwythau a'r diwydiant defnyddiau dillad yn ei ardal; yr oedd hefyd yn ynad heddwch ac yn stiward ar arglwyddiaeth Bergavenny. Yr oedd ei fam, Maud Lewis, yn ferch Lewis Wallis, ficer y Fenni, ac yn chwaer i Dr. David
  • BARRINGTON, DAINES (1727/1728 - 1800), barnwr, hynafiaethydd, a naturiaethwr oedd yn awyddus am gael gweld ffrwyth yn dyfod o astudiaethau Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') i lenyddiaeth gynnar Cymru; efe (a'r esgob Thomas Percy) fu'n foddion i ddyfod â gwaith Evan Evans i sylw Thomas Gray a Samuel Johnson (Cymm., 1951, 69). Ef hefyd oedd y cyntaf i gyhoeddi gwaith Syr John Wynn, The history of the Gwydir family; fe'i cyhoeddodd y tro cyntaf yn 1770, gyda nodiadau, a'r eiltro
  • BASSETT, CHRISTOPHER (1753 - 1784), offeiriad Methodistaidd i'w goffadwriaeth gan John Williams, S. Athan, a William Williams, Pantycelyn. Cyhoeddodd David Jones, Langan, lyfryn ar achlysur ei farwolaeth, Llythyr oddi wrth Dafydd ab Ioan y Pererin at Ioan ab Gwilim y Prydydd … (Trefecca, 1784), yn rhoi hanes ei fywyd.