Canlyniadau chwilio

229 - 240 of 284 for "gruffydd"

229 - 240 of 284 for "gruffydd"

  • RHYS ab OWAIN ab EDWIN (bu farw 1078), brenin Deheubarth Gorŵyr Einion ab Owain ab Howel Dda. Efe oedd cynrychiolydd diwethaf llinach hynaf disgynyddion Howel. Wedi iddo ddilyn ei frawd Maredudd yn 1072 bu iddo ran a chyfran ym marwolaeth Bleddyn ap Cynfyn yn 1075; yn 1078 gorchfygwyd yntau yn Gwdig gan Trahaearn ap Caradog. Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn lladdwyd ef trwy law Caradog ap Gruffydd. Dilynwyd ef gan ei gyfyrder, Rhys ap Tewdwr.
  • RHYS ap GRUFFYDD (Yr Arglwydd Rhys), (1132 - 1197), arglwydd Deheubarth Mab iau Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr, a Gwenllian, ferch Gruffydd ap Cynan. Pedair oed yn unig oedd pan fu ei dad farw, y daeth ei hanner brodyr Anarawd a Chadell yn arweinwyr y gwrthryfel yn Ne Cymru yn erbyn y Normaniaid. Pan oedd yn 13 oed fe'i ceir gyda'i frawd hŷn, Maredudd, yn ymladd o dan arweiniad Cadell yn 1146. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf gwelwyd ail-ffurfio hen frenhiniaeth Deheubarth
  • RHYS ap GRUFFYDD (bu farw 1356) Mab Gruffydd ap Hywel (gweler Hywel y Pedolau) ap Gruffydd ab Ednyfed Fychan a Nest, merch Gwrwared ap Gwilym o Gemais. Ef ymhlith uchelwyr Cymreig y 14eg ganrif oedd y dyn cyfoethocaf a mwyaf ei ddylanwad. Cynrychiola ei yrfa agwedd meddwl a gobeithion yr aelodau hynny o'i ddosbarth a gefnogai achos teulu brenhinol yr Angeviniaid yng Nghymru yn ystod canrif gyntaf sefydliad y Saeson. Ymddengys i
  • RHYS ap GRUFFYDD Syr (bu farw 1531) - gweler RICE
  • RHYS ap MAREDUDD (bu farw 1292) Ystrad Tywi, arglwydd Dryslwyn Mab Maredudd, mab Rhys Gryg. Yn 1287-8 arweiniodd wrthryfel yn erbyn Edward I. Ildiasai i Edward yn 1277 pryd y cymerwyd castell Dinefwr oddi arno ond caniatáu iddo gadw Dryslwyn. Yn 1282 dug y tywysog Llywelyn ap Gruffydd gyhuddiadau yn erbyn swyddogion y brenin yng ngorllewin Cymru ar ran Rhys. Ond ni chymerodd Rhys ei hun ran yn y gwrthryfel. Yn hytrach, cynorthwyodd Edward, ymunodd yn yr
  • RHYS ap TEWDWR (bu farw 1093) Wyr Cadell ab Einion ab Owen ap Hywel Dda. Cymerth lywodraeth Deheubarth i'w ddwylo yn 1075 ar farw ei gyfyrder, Rhys ab Owain ab Edwin. Yn 1081 cymerwyd y llywodraeth oddi arno gan Garadog ap Gruffydd, eithr yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, gyda chymorth Gruffydd ap Cynan, fe'i cadarnhawyd mewn meddiant ohoni ar ôl brwydr bwysig Mynydd Carn. Yn yr un flwyddyn aeth William y Concwerwr ar daith
  • RHYS ap THOMAS Syr (1449 - 1525), prif gynorthwywr Cymreig y brenin Harri VII trydydd mab Thomas ap Gruffydd ap Nicholas. Cymerasai ei daid, Gruffudd ap Nicholas, brydles yn 1440 ar arglwyddiaeth Dinefwr a thrwy hynny gosododd sylfaen ffortiwn y teulu. Yr oedd ei dad, Thomas ap Gruffydd, wedi cryfhau safle'r teulu trwy briodi Elizabeth merch ac aeres Syr John Gruffydd, Abermarlais, a allai hawlio ei fod yn ddisgynnydd y tywysogion Cymreig. Yn fachgen ieuanc treuliasai Rhys
  • RHYS GOCH GLYNDYFRDWY (fl. c. 1460), bardd yr uchelwyr Fel Guto'r Glyn, canodd yntau gywydd mawl i bum mab Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn. Yr oedd cysylltiadau rhwng disgynyddion Llywelyn a theulu Pilstwn, a cheir cywydd marwnad gan Rys Goch i Siôn Pilstwn, aer Emrall. Y mae ei gywydd hiraeth am Rosier ap Siôn o Forgannwg yn ddiddorol am ei fod yn cynnwys cyfeiriad at gywydd Gruffydd Llwyd i yrru'r haul annerch y dalaith. Adlewyrchir anhrefn ei gyfnod mewn
  • RHYS, JOHN DAVID (Siôn Dafydd; 1534 - 1609?), meddyg a gramadegwr yn ystumio'r iaith Gymraeg i geisio'i ffitio i ffrâm ramadegol y Lladin, ac y mae'n amlwg nad oedd ganddo ddim o ddawn Gruffydd Robert a'r Dr. John Davies i ddadansoddi hanfodion yr iaith. Yn yr adran ar gerdd dafod y mae'n codi darnau helaeth yn syth o ramadegau'r beirdd, ac y mae'n amlwg droeon nad oedd yn iawn ddeall yr hyn a ysgrifennai. Ond rhaid sylwi fod yn y llyfr rai pethau a fuasai wedi
  • teulu RICE Newton, Yr oedd aelodau y teulu a gyfenwid yn ddiweddarach yn Rice yn disgyn o Gruffudd ap Nicholas, a chyraeddasant fan uchaf eu cyfoeth a'u dylanwad ym mherson Syr Rhys ap Thomas Dienyddiwyd ei wyr ef, Syr RHYS AP GRUFFYDD, am fradwriaeth yn 1531. Priodasai Syr Rhys ap Gruffydd, yn 1524, Lady Catherine Howard, merch ail dduc Norfolk. Eiddil oedd y dystiolaeth i'w euogrwydd, y gwir drosedd, y mae'n
  • ROBERT ap MAREDUDD ap HYWEL ap DAFYDD ap GRUFFYDD (fl. dechrau'r 15fed ganrif) - gweler WYNN
  • ROBERT, GRUFFYDD (c. 1527 - 1598), offeiriad, gramadegydd a bardd Brodor o sir Gaernarfon oedd Gruffydd Robert. Ni wyddys pryd y ganwyd ef, ond dengys dogfennau a ddiogelir ym Milan iddo gael ei eni circa 1527 yn fab i ryw Robert a'r domina Catherina de Griffis, sef y foneddiges Catrin ferch Gruffudd. Posibilrwydd atyniadol yw mai'r brydyddes Catrin ferch Gruffudd ap Hywel a'i chymar, yr offeiriad Syr Robert ap Rhys o Landdeiniolen, a olygir. Yr oedd brydyddes