Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 2029 for "jones, dafydd"

13 - 24 of 2029 for "jones, dafydd"

  • AP THOMAS, DAFYDD RHYS (1912 - 2011), ysgolhaig Hen Destament Ganwyd Dafydd ap Thomas ar yr 28ain o Fai 1912 yn fab i'r Parchedig W. Keinion Thomas ai wraig Jeannete Thomas, Porthaethwy. Ef oedd yr ieuengaf o'u pum mab, Gwyn, Alon, Iwan a Jac, a chawsant chwaer ieuengach, Truda. Cafodd ei addysg gynradd yn y cartref, ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Biwmares ac yna Coleg y Brifysgol, Bangor, lle y graddiodd gydag anrhydedd mewn Hebraeg ac Ieithoedd
  • ARMSTRONG-JONES, ROBERT (1857 - 1943), meddyg ac arbenigwr ar anhwylderau'r ymennydd Ganwyd 2 Rhagfyr 1857, yn Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, yn fab i'r Parch Thomas Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Eisteddfa, Cricieth, a Jane Elizabeth, merch Robert Jones o'r un lle. Bu yn ysgol ramadeg, Porthmadog, ysgol Grove Park, Wrecsam, coleg y Brifysgol, Bangor, ac ysbyty S. Bartholomew, Llundain; cymerodd ei M.D. (Llundain) yn 1885; F.R.C.S. (Lloegr) 1886; F.R.C.P. (Llundain) 1908. Yn
  • teulu ARNOLD Llanthony, Llanfihangel Crucorney, Eglwyswr ac yn cydffurfio, bu'n gweithio gydag Anghydffurfwyr o'r cylch megis Samuel Jones; dywedir iddo, yn ddiweddarach, fod yng nghyswllt â Samuel Jones mewn amcanion bradwriaethus. Ym mis Medi 1679 ceisiodd, eithr yn ofer, ennill sedd yn y Senedd dros fwrdais Trefynwy yn erbyn aer Worcester; llwyddodd, fodd bynnag, 26 Tachwedd 1680, gyda'i betisiwn a geisiai beri i'r aelod a ddewiswyd golli ei sedd
  • ASHTON, CHARLES (1848 - 1899), llyfryddwr a hanesydd llenyddiaeth Cymru Ganwyd 4 Medi 1848 yn Ty'nsarn, Llawr-y-glyn, Sir Drefaldwyn, yn fab i Elizabeth Ashton. Tua'r 9 oed, dechreuodd dderbyn addysg gan un John Jones a gadwai ysgol yn achlysurol yn y capelau lleol. Yn 12 oed dechreuodd weithio yng ngwaith mwyn Dylife, eithr blinodd ar hynny, a symudodd i weithio yng Nghaer lle yr oeddid yn gwneuthur y Grosvenor Park ar y pryd. Fe'i ceir yn ddiweddarach yn borter
  • AWBREY, WILLIAM (c. 1529 - 1595), gwr o'r gyfraith sifil betisiynau a chwestiynau cyfreithiol a anfonwyd iddo fel ' Master of Requests ' gan Burghley a'r Cyfrin Gyngor. Yr oedd Cymry eraill o gyfreithwyr yn cydeistedd ag ef pan oeddid yn dyfarnu ar rai o'r materion cyfreithiol pwysicaf - Cymry fel Dr. Thomas Yale, David Lewis, a Henry Jones (bu farw 1592), rheithor Llanrwst (1554) a Llansannan (1561), a chylch-ganon Llanelwy (1560). Bu Awbrey 'n A.S. dros
  • teulu BAILEY Glanusk Park, Bailey I fel barwnig ac yn ystad Glanusk gan ei wyr, Syr JOSEPH RUSSELL BAILEY (1840 - 1906), yr ail farwnig; gwnaethpwyd ef yn farwn Glanusk yn 1899. Gwnaeth ychwanegiadau pwysig at Hist. of Brecknocks (Theophilus Jones). Dilynwyd yntau gan ei fab, Syr JOSEPH HENRY RUSSELL BAILEY (1864 - 1928), ail farwn Glanusk.
  • BAKER, DAVID (1575 - 1641), ysgolhaig Benedictaidd a chyfriniwr gweld y cofysgrifau; rhoddwyd trefn ar y defnyddiau hyn gan ei gyfaill John Leander Jones (1575 - 1636), ac y maent yn parhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell o bwys. Gadawodd ar ei ôl draethodau anorffenedig ar hanes eglwysig a chyfraith Lloegr, ynghyd a gweithiau ar ddiwinyddiaeth a chyfriniaeth y mae gan aelodau ei urdd feddwl uchel ohonynt. Rhydd ei hunangofiant (a ysgrifennwyd yn 1637-8) inni
  • BALLINGER, Syr JOHN (1860 - 1933), llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru James 'Ifano' Jones a'r Athro Thomas Powel i'w helpu a'i gyfarwyddo. Gyda chymorth ' Ifano ' Jones fe drefnodd i gyhoeddi yn 1898 gatalog o lyfrau Cymreig y llyfrgell; gwelir arwyddion o help gwerthfawr ' Ifano ' hefyd yn y pethau a gyhoeddwyd gan neu dros Ballinger ar y Ficer Prichard (1899), gwasg argraffu Trefecca (1905), a The Bible in Wales (1906). Wedi i Ballinger gael y fath lwyddiant gyda'r
  • BANCROFT, WILLIAM JOHN (1871 - 1959), chwaraewr rygbi a chriced Gymru yn erbyn yr Alban yn Chwefror 1890 pan anafwyd y dewis cyntaf, Tom England o Gasnewydd. Aeth Bancroft ymlaen i ennill 33 o gapiau yn ddi-dor rhwng 1890 ac 1901, record na thorrwyd tan 1954 gan Ken Jones (Casnewydd). Yr oedd yn gefnwr digymar, a chanddo lygaid craff a dwylo diogel y cricedwr profiadol: treuliai oriau maith yn perffeithio'i gicio, a chic gosb adlam o'i eiddo a enillodd y gêm yn
  • teulu BARKER, arlunwyr enwog; yr oedd ei wyrion THOMAS JONES BARKER a JOHN JONES BARKER, meibion ei fab Thomas Barker, Bath, yn baentwyr hefyd. THOMAS BARKER (1769 - 1847), arlunydd Celf a Phensaernïaeth Mab Benjamin Barker, Pontypwl; ganwyd yn Trosnant, Pontypwl, yn 1769. Dangosodd dalent arlunydd yn gynnar yn ei oes, ac ymsefydlodd yn Sion Hill House, Bath, lle y daeth yn boblogaidd. Aeth i Rufain yn 1790 ac aros yno dair
  • BARNES, EDWARD, bardd a chyfieithydd llyfrau crefyddol yn ail hanner y 18fed ganrif Ganwyd yn Llanelwy, a bu'n athro ysgol yno. Yn ôl Josiah Thomas Jones yn Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru trodd yn Fethodist, a bu fyw am flynyddoedd yn Sir Drefaldwyn, a chroesawai yno bregethwyr teithiol i'w dy. Ceir dwy garol blygain o'i waith ynghyd a cherdd yn erbyn medd-dod a cherdd yn erbyn bydol chwantau yn Cyfaill i'r Cymro, sef casgliad William Hope, Mostyn, a argraffwyd yng
  • BARRETT, JOHN HENRY (1913 - 1999), naturiaethwr a chadwraethwr rhaglenni natur ar radio a theledu, a'r mwyaf cofiadwy efallai oedd y sesiynau ymholiadau gwrandawyr gyda Derek Jones yn y cyfresi Living World neu Wildlife. Mewn cydweithrediad â'r Athro Maurice Yonge cynhyrchodd yr arweinlyfr cyntaf ar yr arfordir - Collins Pocket Guide to the Seashore (1958). Cyhoeddwyd ei golofn 'The Countryman' yn y Western Mail am gyfnod o bymtheng mlynedd, 1974-1989. Cafodd ei