Canlyniadau chwilio

1189 - 1200 of 1224 for "osmond williams"

1189 - 1200 of 1224 for "osmond williams"

  • WILLIAMS, WILLIAM EWART (1894 - 1966), ffisegydd a dyfeisydd Ganwyd 3 Mawrth 1894 ym Modgarad, Rhostryfan, Caernarfon, mab hynaf Ellis William Williams (goruchwyliwr chwarel y Cilgwyn) a'i wraig Jane, Llys Twrog, y Fron. Wedi mynychu ysgolion lleol ymaelododd yng Ngholeg Owens, Prifysgol Manceinion lle y cafodd Rutherford, Bohr a Darwin yn athrawon. Graddiodd gydag anrhydedd mewn ffiseg yn 1915 ac ennill M.Sc. (Manc.) yn 1926. Wedi hyfforddiant gyda Barr
  • WILLIAMS, WILLIAM GILBERT (1874 - 1966), ysgolfeistr a hanesydd lleol Ganwyd yn Nhŷ'r Capel, Rhostryfan, Llanwnda, Caernarfon, 20 Ionawr 1874, yn fab i John Williams, chwarelwr, a'i briod Catherine (ganwyd Jones). Brawd iddo oedd ' J. W. Llundain ' (JOHN WILLIAMS). Gadawodd yr ysgol leol yn naw mlwydd oed i weithio yn chwarel y Cilgwyn ond dychwelodd yno yn ddisgybl-athro ac ennill ysgoloriaeth i fynd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, 1892-94. Penodwyd ef yn
  • WILLIAMS, WILLIAM HUGH (Arafon; 1848 - 1917), arweinydd llafur
  • WILLIAMS, WILLIAM JOHN (1878 - 1952), arolygwr ysgolion a chyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru a Mynwy Ganwyd 1878, pedwerydd mab Richard ac Anne Williams, Hafod, Abertawe. Fe fu ei frawd Richard Trefor Williams, O.B.E., (bu farw 1932) yn Brif Arolygwr y Weinyddiaeth Iechyd yng Nghaerdydd. Addysgwyd ef mewn ysgolion yn Abertawe ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn LL.B. ac yn M.A. Bu'n ysgolfeistr yn ysgol sir Tre-gwyr, ysgol ganol Bootle ac ysgol sir Casnewydd-ar-Wysg
  • WILLIAMS, WILLIAM JONES (1891 - 1945), diwygiwr, gweinidog Apostolaidd Brawd Daniel Powell Williams a'i gydymaith fel proffwyd ar ei deithiau; ganwyd yn Garn-foel 9 Mai 1891. Yn ddeg oed dechreuodd fynychu cyfarfodydd diwygiad, ac mewn cyfarfod yng nghapel (MC) Llanllian arddododd Evan Roberts a'r Dr D. M. Phillips eu dwylo arno gan ddymuno yr arweinid ef i'r weinidogaeth. Fel y gwelwyd uchod, galwyd ef i'r swydd broffwydol yn yr Eglwys Apostolaidd, a bu ar deithiau
  • WILLIAMS, WILLIAM JONES (1863 - 1949), swyddog yn y gwasanaeth gwladol, Ysgrifennydd Cwmni Kodak, Trysorydd Coleg Harlech ac Urdd Gobaith Cymru Ganwyd 21 Mai 1863 yn Salford, sir Gaerhirfryn, yr hynaf o 7 plentyn John Williams (1828 - 1877), ' warehouseman ' (gynt o Dyn-y-graig, Garthgarmon, gerllaw Llanrwst) a'i wraig (gyntaf), Ellen Williams (1838 - 1874), brodor o Fethel, gerllaw Llandderfel, Sir Feirionnydd. Wedi cyfnod byr yn Ysgol Ramadeg Manceinion (Ionawr 1875 hyd Rhagfyr 1876) dechreuodd weithio (21 Rhagfyr 1876) ym masnach ' Mr
  • WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur Ganwyd 10 Mawrth 1867 yn Brownhill, Llansadwrn, dyffryn Tywi (ar 15 Medi 1938 dadorchuddiwyd cofgolofn iddo o flaen y tŷ), yn ail fab i Morgan Williams a'i wraig Sarah (Davies). Yr oedd ei deulu'n dda eu byd, ac yn Annibynwyr o hil gerdd; ei daid, Morgan Williams, yn ddiacon yng Nghapel Isaac cyn symud o'r Ffrwd-wen (Llandeilo) i Brownhill, a dau o frodyr ei dad yn weinidogion, sef JOHN WILLIAMS
  • WILLIAMS, WILLIAM MATTHEWS (1885 - 1972), cerddor Ganed 9 Rhagfyr 1885 yn Pen y Bonc, Burwen, ger Amlwch, Môn, yn fab i Richard ac Ellen Williams, Victoria House, Amlwch. Amlygodd ddawn gerddorol yn ifanc. Ar anogaeth John Matthews, prifathro'r Ysgol Fwrdd, prynodd ei rieni organ fach 'Americanaidd' iddo, ac fe'i dysgodd ei hun i'w chanu; erbyn iddo gyrraedd ei wythmlwydd yr oedd yn cyfeilio'n rheolaidd yn y Capel Mawr, Amlwch. Yn 1898 enillodd
  • WILLIAMS, WILLIAM MORRIS (1883 - 1954), chwarelwr, arweinydd corau, datgeiniad a beirniad cerdd dant Ganwyd 17 Ionawr 1883 yn Nhan-y-fron, Tanygrisiau, Meirionnydd, yn fab i William Morris Williams, chwarelwr, a Jane ei wraig. Yr oedd yn un o saith o blant. Bu'r tad yn godwr canu yn eglwys Bethel (MC), Tanygrisiau am 25 mlynedd a dechreuodd y mab gynorthwyo gyda'r gwaith pan oedd yn 17 oed. Priododd ef yn 1905 a Mair, merch Daniel a Mary Williams, Conglog, Tanygrisiau, a magasant deulu cerddgar
  • WILLIAMS, WILLIAM NANTLAIS (1874 - 1959), gweinidog (MC), golygydd, bardd ac emynydd Ganwyd 30 Rhagfyr 1874 yn Llawr-cwrt, Gwyddgrug, ger Pencader, Sir Gaerfyrddin, yn ieuangaf o ddeg plentyn Daniel a Mari Williams. Cafodd addysg yn ysgol elfennol New Inn, ac yn 12 oed prentisiwyd ef yn wehydd gyda'i frodyr. Magwyd ef yn eglwys y New Inn, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1894. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn ac yng Ngholeg Trefeca
  • WILLIAMS, WILLIAM OGWEN (1924 - 1969), archifydd, Athro prifysgol Ganwyd yn Llanfairfechan, Caernarfon, 12 Rhagfyr 1924, yr hynaf o ddau fab William Henry Williams a Margaret (ganwyd Pritchard); addysgwyd yn yr ysgol genedlaethol, Llanfairfechan, 1928-35, Ysgol Friars, Bangor, 1935-42, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, 1942-47 (B.A., Hanes, dosbarth cyntaf, 1945), Prifysgol Llundain 1947-48 (diploma mewn Archifyddiaeth, 1949); penodwyd ef yn ddarpar-archifydd Sir
  • WILLIAMS, WILLIAM PRICHARD (1848 - 1916) mab David Williams, ganwyd c.1824 Glasdo, Llan Ffestiniog, (un o ddisgynyddion William Prichard, Clwchdyrnog, sir Fôn), a'i wraig Ann Owen (c.1823-1867). Ganwyd 21 Gorffennaf 1848. Bu am ysbaid mewn ysgol yn y pentref a gedwid gan hen wraig, yna aeth i Fanceinion i wasanaeth J. a N. Phillips, a bu'n trafaelio drostynt hwy yng Ngogledd Cymru hyd derfyn ei oes. Ef oedd un o sylfaenwyr eglwys