Canlyniadau chwilio

1153 - 1164 of 1224 for "osmond williams"

1153 - 1164 of 1224 for "osmond williams"

  • WILLIAMS, THOMAS OSWALD (ap Gwarnant; 1888 - 1965), gweinidog (U), llenor, bardd, gŵr cyhoeddus Ganwyd 10 Mai 1888, yn un o bedwar o blant Rachel a Gwarnant Williams, ffermwr, bardd a gŵr cyhoeddus, fferm Gwarnant, plwyf Llanwenog, Ceredigion. Cafodd ei addysg yn ysgol Cwrtnewydd ac ysgol Dafydd Evans, Cribyn (1901-02); a chael ei brentisio'n ddisgybl athro; am gyfnod o ddeng mlynedd bu'n is-athro yn ysgol Blaenau, Gors-goch, ac ysgol Cwrtnewydd. Yn 1911, ' heb awr o ysgol eilradd ' aeth i
  • WILLIAMS, THOMAS RHONDDA (1860 - 1945), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn y Bont-faen 19 Mehefin 1860 yn un o dri o feibion Thomas Williams gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a aeth i'r weinidogaeth, dau ohonynt gyda'r Annibynwyr, ac un gyda'r M.C. Derbyniwyd ef i goleg Caerfyrddin fel Thomas Rees Williams yn 1877. Bu'n weinidog ym Methania, Dowlais (1880), Gnoll Road, Castell Nedd (1884), Greenfield, Bradford (1888), a'r Union Chapel, Brighton (1909
  • WILLIAMS, TOM PUGH (1912 - 1985), athro prifysgol Ganed Tom Pugh Williams yn 1912 yn Nhrawsfynydd lle roedd ei rieni, Edward a Jane (née Jones) Williams yn amaethu ar fferm Dolwen. Pan gafodd llyn Trawsfynydd ei greu, fe ddiflanodd y fferm o dan y dwr. Yr oedd y teulu wedi symud o Drawfynydd i Bantgwyn, Ysceifiog, Holywell a mynychodd Tom Pugh Williams yr Ysgol Sir i Fechgyn yn nhref Dinbych. Yn 1929 dechreuodd astudio yng Ngholeg Prifysgol
  • WILLIAMS, Syr TREVOR (c. 1623 - 1692) Llangibby, gwleidyddwr yn disgyn o briodas Howel Gam ap David (fl. 1300) â merch i deulu Scudamore. Mabwysiadwyd y cyfenw'n gyntaf gan ei daid, Roger William (bu farw 1583), a oedd yn siryf sir Fynwy yn 1562 ac a ddilynwyd yn y swydd honno yn 1627 gan ei fab, Syr Charles Williams, tad Syr Trevor Williams; bu Syr Charles Williams, a wnaethpwyd yn farchog yn 1621, yn aelod seneddol y sir y flwyddyn honno hefyd eithr
  • WILLIAMS, VICTOR ERLE NASH - gweler NASH-WILLIAMS, VICTOR ERLE
  • WILLIAMS, WALDO GORONWY (1904 - 1971), bardd a heddychwr Ganwyd Waldo Williams yn Hwlffordd, Sir Benfro ar 30 Medi 1904, y trydydd o bum plentyn John Edwal Williams (1863-1934) ac Angharad Williams (ganwyd Jones, 1875-1932). Ysgolfeistr Ysgol Prendergast yn Hwlffordd oedd y tad, a Saesneg oedd prif iaith yr aelwyd. Ar ôl iddo ddioddef gan byliau o anhwylder nerfol a adawodd eu hôl yn ddwfn ar ei fab ifanc, yn 1911 penodwyd J. Edwal Williams yn
  • WILLIAMS, WATKIN HEZEKIAH (Watcyn Wyn; 1844 - 1905), athro, bardd, a phregethwr Mab Hezeciah Williams, a ffermiai Cwmgarw Ganol ger Brynaman wrth odre'r Mynydd Du, ac Ann, merch David Williams, y Ddôl-gam, Cwmllynfell. Yng Nghwmgarw y magwyd ef er mai yn y Ddôlgam y cafodd ei eni (ar 7 Mawrth 1844). Cawsai ychydig fisoedd o ysgol cyn iddo ddechrau gweithio dan y ddaear yn 8 oed. Bu dan ysgolfeistri lleol am ryw fis yn awr ac yn y man ar ôl hynny a dysgodd lawer gan ei
  • WILLIAMS, WILLIAM (1747 - 1812), clerigwr efengylaidd a adwaenir fel ' William Williams, Waterbeach,' sir Gaergrawnt. Wedi ei ordeinio penodwyd ef yn gaplan i ffowndri Seisnig yn Rotterdam, ac wedi hynny (1794-1812) yn ficer plwyf Waterbeach. Bu farw 13 Hydref 1812. Cysylltir ei gymwynas â Chymru â Bibl Cyssegr-Lan, arg. Caergrawnt, 1807. William Owen Pughe, oedd y cywirwr swyddogol. Trwy esgeulustra Pughe daeth agos i 3,000 o gopïau allan yn wallus
  • WILLIAMS, WILLIAM (fl. 1648-77), awdur Poetical Piety Thomas yn nyddiau ieuenctid hwnnw a'r adeg y daeth i'w oed. Pwysleisia hefyd y dylid gwahaniaethu rhyngddo ag awdur arall o'r un enw ('he's Cornwal born and I am Cardigan') a gyhoeddodd yntau lyfr yn Llundain yn 1677, sef Divine Poems and Meditations, by William Williams of the county of Cornwall … when he was a prisoner in the King's-Bench.
  • WILLIAMS, WILLIAM (Gwilym Twrog; 1768 - 1836), bardd
  • WILLIAMS, WILLIAM (Crwys; 1875 - 1968), bardd, pregethwr ac archdderwydd Ganwyd 4 Ionawr 1875 yn 9 Fagwr Road, Craig-cefn-parc ger Clydach, Morgannwg, yn fab i John a Margaret (ganwyd Davies) Williams. Crydd oedd y tad ac am rai blynyddoedd bu'r mab yntau yn dysgu'r grefft, ond penderfynodd newid cwrs ei fywyd a mynd yn weinidog. Codwyd ef i bregethu yn Eglwys Pant-y-crwys (A), ac wedi dwy flynedd yn ysgol Watcyn Wyn (WILLIAMS, WATKIN HEZEKIAH), Rhydaman, derbyniwyd
  • WILLIAMS, WILLIAM (1832 - 1900), meddyg anifeiliaid Ganwyd ym mhlwyf Cefn Meiriadog, ger Llanelwy, yn fab i William Williams, ac yn ŵyr i Thomas Williams, ' ffarier ' o gryn enw. Aeth yntau i'r un alwedigaeth â'i daid, yn 17 oed, ond torrodd ei iechyd yn 20 oed ac aeth i Awstralia am dair blynedd. Wedyn, aeth i Dick's Veterinary College yn Edinburgh. Dechreuodd yn 1857 ar yrfa lwyddiannus iawn yn Bradford, ac yn 1866 penodwyd ef yn brifathro ei