Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.

EDWARDS, HUW THOMAS (1892 - 1970), arweinydd ym myd undebaeth a gwleidydd

Enw: Huw Thomas Edwards
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1970
Priod: Margaret Edwards
Plentyn: Elizabeth Catherine Edwards
Plentyn: Gwynfor Edwards
Rhiant: Elizabeth Edwards (née Williams)
Rhiant: Huw Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd ym myd undebaeth a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 19 Tachwedd 1892 ym Mhen-y-ffridd, y Ro-wen, Dyffryn Conwy, Sir Gaernarfon, yr ieuangaf o saith o blant Huw Edwards, tyddynnwr a chwarelwr, a'i wraig. Ychydig o addysg ffurfiol a dderbyniodd, ond fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig a chrefyddol. Yn 1907, ac yntau'n 14 oed, dilynodd ei dad i weithio yn chwarel ithfaen Penmaen-mawr. Arferai gerdded i'w waith o lethrau Mynydd Tal-y-fan i Benmaen-mawr. Dangosodd rywfaint o ysbryd yr anturiaethwr pan redodd i ffwrdd i'r De i weithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Yn Nhonypandy yr oedd yn ystod streic 1911. Arferai baffio 'n lleol ar y Sadyrnau er mwyn ychwanegu at ei incwm pitw.

Cafodd ei niweidio'n ddrwg yn ystod Rhyfel Byd I, ond dychwelodd i weithio yng nglofeydd a chwareli ithfaen gogledd Cymru lle'r aeth ati i drefnu canghennau o'r T.G.W.U. a'r Blaid Lafur. Fe'i etholwyd yn aelod o gyngor dinesig Penmaen-mawr a bu'n gadeirydd arno. Yn etholiad 1929 gwasanaethodd fel cynrychiolydd Thomas ap Rhys a safodd fel ymgeisydd Llafur yn erbyn David Lloyd George ym mwrdeistrefi Caernarfon. Tra oedd yn ddi-waith yn 1932 fe'i penodwyd yn swyddog undeb llawn amser pan olynodd Arthur Deakin fel ysgrifennydd Cylch Shotton o'r Transport and General Workers' Union. Gweithredodd fel ysgrifennydd Rhanbarth Gogledd Cymru ac Ellesmere Port o'r T.G.W.U., 1934-53. Fe'i dewiswyd yn ynad heddwch dros Sir y Fflint.

Daeth yn ffigwr pwysig a dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru o gyfnod llywodraeth Attlee ymlaen. Ac yntau'n adnabyddus yn y gogledd a'r de, ac yn meddu ar brofiad eang o weithgareddau llywodraeth leol yng Nghymru, fe'i dewiswyd yn gadeirydd cyntaf Cyngor Ymgynghorol Cymru yn 1949. Yn ystod y 9 mlynedd y bu yn y swydd, cydweithiodd â Syr William Jones i gynhyrchu adroddiadau pwysig ar ddatganoli ac ar ddiboblogi yn ardaloedd gwledig Cymru. Ymddiswyddodd o'r Cyngor yn 1958 fel protest yn erbyn methiant llywodraeth Macmillan i fabwysiadu argymhellion y Cyngor ynglyn â phenodiad Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a newidiadau gweinyddol eraill. Bu hefyd yn gadeirydd Bwrdd Croeso Cymru am 15 mlynedd (a bu'n bennaeth ar ddirprwyaeth i Rwsia), Pwyllgor Addysg sir y Fflint a Bwrdd Ysbyty Clwyd a Glannau Dyfrdwy. Yr oedd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Television Wales and the West ac o Gyngor Cenedlaethol Darlledu y B.B.C., o Orsedd y Beirdd (ei enw barddol oedd ' Huw Pen Ffridd') ac o gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, o Fwrdd Nwy Cymru ac o'r Bwrdd Cynhorthwy Cenedlaethol. Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr Gwasg Gee, Dinbych, ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Disgrifiwyd ef fel 'Prif Weinidog answyddogol Cymru'. Ef oedd perchennog Y Faner am ychydig flynyddoedd ar ôl 1956 yn ystod cyfnod tyngedfennol yn hanes y papur. Buddsoddodd arian personol ynddo ac ymladdodd drosto mewn cylchoedd dylanwadol gan sicrhau ei ddyfodol nes ei drosglwyddo i ddwylo Gwasg y Sir, y Bala.

Yr oedd yn Sosialydd pybyr ac yn aelod o'r Blaid Lafur ar hyd ei oes hyd fis Medi 1959 pan ymunodd â Phlaid Cymru, ond dychwelodd i'w hen blaid yn 1965. Bu'n llywydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Gwasanaethodd fel cadeirydd Plaid Lafur sir y Fflint a chadeirydd Ffederasiwn Llafur Gogledd Cymru am flynyddoedd. Eto llwyddai i ennill parch a hyder rhai a safai i'r dde yn y sbectrwm gwleidyddol. Ceisiwyd droeon ei berswadio i sefyll fel ymgeisydd seneddol ar ran y Blaid Lafur, ond gwrthod a wnaeth yn ddi-ffael.

Ymddiddorai mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o hunangofiant Tros y tresi (1956) a Troi'r drol (1963), ac fe'u cyfieithwyd i'r Saesneg - It was my privilege (1962) a Hewn from the rock (1967). Golygodd Ar y cyd: cerddi gan Huw T. Edwards, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones a Rhydwen Williams (1962).

Anrhydeddwyd ef gan Orsedd y Beirdd a chan Brifysgol Cymru (LL.D. er anrhydedd, 1957), ond ni wnaeth dderbyn yr M.B.E. a gwrthododd wahoddiad i'w urddo'n farchog yn ystod arwisgo'r Tywysog yng Nghaernarfon, Gorffennaf 1969.

Bu farw ei briod Margaret fis Mehefin 1966, a threuliodd ddiwedd ei oes ar aelwyd ei ferch yn Sychdyn. Bu farw 9 Tachwedd 1970 yn ysbyty Abergele, a llosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Pentrebychan, Wrecsam. Rhoddwyd ei bapurau ar adnau yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.