Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.

THOMAS, DYLAN MARLAIS (1914 - 1953), bardd a llenor

Enw: Dylan Marlais Thomas
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1953
Priod: Caitlin Thomas (née Macnamara)
Plentyn: Aeronwy Bryn Thomas
Plentyn: Colm Garan Hart Thomas
Plentyn: Llewelyn Edouard Thomas
Rhiant: Florence Hannah Thomas (née Williams)
Rhiant: David John Thomas
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Walford Davies

Ganwyd 27 Hydref 1914 yn Abertawe, yn fab i David John Thomas a'i wraig Florence Hannah (ganwyd Williams); hanent ill dau o dras gwledig a Chymraeg yn siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin. Bu'r tad, a oedd yn nai i Gwilym Marles, yn athro Saesneg yn ysgol ramadeg Abertawe o 1899 hyd 1936, a bu Dylan Thomas yn ddisgybl yno o 1925 hyd 1931. Dyna oedd yr unig gyfnod o addysg ffurfiol a gafodd. Aeth wedyn yn is-ohebydd i'r South Wales Daily Post am ryw bymtheg mis, ond gwelwyd ffrwyth ei ddiddordeb cynnar mewn barddoniaeth Saesneg eisioes yn y pedwar nodlyfr lle y cofnododd y cynharaf o'i gerddi aeddfed rhwng 1930 ac 1933. Y nodlyfrau hyn oedd prif ffynhonnell y cerddi a ymddangosodd yn y tair cyfrol gyntaf a gyhoeddodd: 18 poems (Llundain, 1934), Twenty-five poems (Llundain, 1936), a The map of love (straeon byrion a cherddi: Llundain, 1939). Canlyniad cyhoeddi cerddi unigol yng nghylchgronau Llundain oedd ei gyfrol gyntaf, a hyn yn ei dro a barodd iddo symud i Lundain ym mis Tachwedd 1934. Yn ystod y 1930au cafodd ei waith sylw cynyddol yn America yn ogystal ag ym Mhrydain, ac fe'i gwahoddwyd i adolygu llyfrau ar gyfer cylchgronau blaenllaw Llundain. Patrwm gweddill ei yrfa oedd symud ar yn ail rhwng cylch llenyddol-gymdeithasol Llundain a chyfnodau mwy creadigol yng Nghymru. Dechreuodd cyfeillgarwch agos rhyngddo a'r bardd VernonWatkins yn Abertawe yn 1935.

Cyfarfu â Caitlin Macnamara yn 1936 a phriodasant y flwyddyn wedyn. Ym mis Mai 1938 symudasant i fyw yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin, am y tro cyntaf; bu'r pentref hwn, sydd ynghlwm wrth ei enw bellach, yn ddylanwad cryf ar ei farddoniaeth a'i ryddiaith ddiweddarach. Derbyniasai wobr barddoniaeth Blumenthal o America, ac yr oedd wrthi'n ysgrifennu'r straeon byrion hunangofiannol a gyhoeddwyd dan y teitl Portrait of the artist as a young dog (Llundain, 1940). Yr oedd realaeth smala'r straeon hyn yn wahanol iawn i'r elfen macabre a swrealaidd yn ei waith cynnar, a geir yn A prospect of the sea (Llundain, 1955). Ar ôl dechrau Rhyfel Byd II cychwynnodd ar y gwaith o lunio sgriptiau radio i'r B.B.C. a darlledu sgyrsiau a darlleniadau. Bu'n ddarlledwr poblogaidd hyd ddiwedd ei oes a gwelir ansawdd ei waith radio yn y gyfrol Quite early one morning (Llundain, 1954). O 1942 hyd ddiwedd y rhyfel fe'i cyflogwyd i lunio sgriptiau i Strand Films yn Llundain; enghraifft o'i waith yn y cyfrwng yma yw The doctor and the devils (Llundain, 1953).

Yr oedd y rhyfel wedi ymyrryd â'i waith barddonol, er iddo ymgartrefu fwyfwy yng Nghymru tua diwedd y rhyfel. Yn Llan-gain a Cheinewydd yn 1944-45 cychwynnodd ar gyfnod newydd o waith creadigol fel bardd. Dyma oedd y cyfnod mwyaf cynhyrchiol ers y blynyddoedd cynnar yn Abertawe, a gwelwyd y ffrwyth yn Deaths and entrances (Llundain, 1946). Ar ddiwedd y rhyfel, fodd bynnag, dechreuodd ymddiddori hefyd mewn ymweld ag America, ac yr oedd y rheidrwydd i ennill bywoliaeth (yn bennaf trwy waith ar gyfer ffilmiau a radio) yn golygu byw o fewn cyrraedd i Lundain. O 1946 hyd 1949, felly, bu'r bardd a'i deulu yn byw yn Rhydychen neu'r cyffiniau. Ymwelodd â Phrâg yn 1949 ar wahoddiad llywodraeth Siecoslofacia.

Symudodd i fyw yn y 'Boat House' yn Nhalacharn ym mis Mai 1949, ac yno y ganwyd ei drydydd plentyn. Ei fwriad oedd sefydlu cartref parhaol yno, trwy gymorth ariannol ymweliadau ag America, o bosibl, lle yr oedd bri ar ei enw fel bardd. Chwefror-Mehefin 1950 oedd cyfnod ei ymweliad cyntaf ag America, ac aeth deirgwaith yn rhagor yn 1952 ac 1953. Y gwaith unigol a gymerodd y rhan fwyaf o'i amser o 1950 ymlaen oedd y ddrama radio Under Milk Wood (Llundain, 1954), a ysbrydolwyd yn bennaf gan awyrgylch a thrigolion Talacharn ei hun. Yn ystod ei ail daith yn America cyhoeddwyd yr olaf o'i gyfrolau unigol o gerddi, yn America yn unig, sef In country sleep (Efrog Newydd, 1952). Dyma gwblhau'r rhestr o gyfrolau a oedd i'w cynnwys yn ei Collected poems 1934-1952 (Llundain, 1952), a enillodd wobr barddoniaeth Foyle. Ond o ganlyniad i'w yfed gormodol a'i agwedd anghyfrifol at arian profodd ansefydlogrwydd personol ac ariannol na allai hyd yn oed yr ymweliadau llwyddiannus ag America ei ddatrys, a hyn yn ei dro yn esgor ar lai a llai o gynnyrch newydd gartref. Bu farw yn Efrog Newydd ar 9 Tachwedd 1953, ac fe'i claddwyd yn Nhalacharn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.