Fe wnaethoch chi chwilio am dic jones
Cysylltir teulu o'r enw hwn am dros 150 mlynedd â'r diwydiant japanio ym Mhontypwl a Brynbuga (Usk). Cychwyn yr olyniaeth gyda THOMAS ALLGOOD I (c. 1640 - 1716), Crynwr o swydd Northampton, a ddaeth ar wahoddiad ei gyfaill Richard Hanbury i sefydlu gwaith copperas ym Mhontypwl. Troes ei egnïon at y posibilrwydd o gynhyrchu lacar o gynyrchion eilraddol glo. Bu farw 8 Mai 1716, ac fe'i claddwyd ym mynwent y Crynwyr ym Mhontymoel.
Ei fab, EDWARD ALLGOOD I (1681 - 1763), oedd prif oruchwyliwr John Hanbury yn y gwaith haearn, ond gwnaeth hefyd welliannau pwysig mewn japanio; bu farw 9 Ionawr 1763 ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanfrechfa. Cyn ei farwolaeth pasiodd y gwaith lacar i ddwylaw dau o'i feibion. Gwnaeth yr hynaf ohonynt, THOMAS ALLGOOD II (ganwyd tua 1707), welliannau pellach (tua 1734) yn y gelfyddyd. Sefydlodd ef, gyda'i fab THOMAS ALLGOOD (ieuengaf) III, a'i frawd ieuengach, EDWARD ALLGOOD II (1712 - 1801), waith lacar japan ym Mrynbuga yn 1761; yr oedd y symudiad hwn eisoes wedi ei arfaethu ers 1755, a throdd y mater hwn yn achos cynnen a rhwyg yn y teulu.
Yna pasiodd y gwaith lacar ym Mhontypwl i ofal THOMAS ALLGOOD IV (bedyddiwyd 15 Mai 1727), mab John Allgood I ac wyr Thomas Allgood I. Unodd mewn partneriaeth ariannol â John Davies a William Edwards. Eu prif arluniwr a phaentiwr ydoedd Benjamin Barker, tad Thomas Barker o Bath; yn ystod y cyfnod hwn cododd ansawdd lacar Pontypwl i'w uchafbwynt, ac anfonodd cwmni Pontypwl her (nas derbyniwyd) i'w cystadleuwyr ym Mrynbuga. Bu farw Thomas IV 22 Tachwedd 1779, ac fe'i claddwyd ym mynwent y Bedyddwyr ym Mhenygarn. Dilynwyd ef ym Mhontypwl gan JOHN ALLGOOD II (fl. 1779-1790), a wnaeth arbrofion mewn japanio ar wydr; tua diwedd ei gyfnod ef y torrodd ei bartner Davies ei gysylltiad â'r cwmni.
O gylch 1790 hyd 1811 yr oedd y busnes yn nwylo WILLIAM ALLGOOD I ('Billy Allgood,' ' Billy the Bagman'), y ceir darlun bychan ohono yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Parhaodd i gadw safon uchel ei grefft drwy wasanaeth Mary ei ferch a dwy ferch o'r Midlands - Anne a Hannah Walker - fel paentwyr. Y mae'n ddirgelwch o hyd pa fodd y diflannodd William I yn Llundain yn 1811; daeth cyfrifoldeb y gwaith, eithr ar raddau llai, ar ei weddw, MARY ALLGOOD I (1760 - 1822) gyda chynhorthwy ei merch MARY ALLGOOD II (1785 - 1848) (a grybwyllwyd eisoes), a John Hughes, nai Thomas Hughes (1740 - 1828), a ddeuai drosodd o Frynbuga. Yn y siop yn Lower Crane Street (a elwid gynt yn ' Japan Street'), Pontypwl, yr oedd ar werth nid yn unig gelfi japan ond nwyddau haearn a chanhwyllau hefyd. Bu farw Mary I 21 Awst 1822, a chyda hi daw hanes japanio ym Mhontypwl i ben, oherwydd trodd ei mab hi, WILLIAM ALLGOOD II, yn groser, ac ymfudodd i America. Priododd Mary II Thomas Jones, meddyg.
I droi at waith japan Brynbuga - sefydlwyd hwn yn 1761 gan EDWARD ALLGOOD II gyda THOMAS ALLGOOD II a'i fab, THOMAS ALLGOOD (ieuengaf) III; yr oeddynt yn cynhyrchu gwaith penigamp gan ddefnyddio platiau duon a phlatiau alcam o ffwrn Caerlleon. Mae Coxe (Monmouthshire, pennod 25) yn crybwyll iddo gyfarfod ag Edward Allgood II. Ni wyddys ddim ychwaneg am Thomas II nac am Thomas III. Bu farw Edward II yn 1801, ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys yr Annibynwyr, y Twyn, Brynbuga. Yr oedd wedi trosglwyddo ei fusnes i'w nai, THOMAS HUGHES (1740 - 1828).
Gweler ymhellach Pyrke, John, a Evan Jones (1790 - 1860).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.