Aelod o deulu Hanbury, swydd Worcester; bedyddiwyd ef yn 1664 yn S. Nicholas, swydd Gloucester, mab Capel Hanbury (1625 - 1704), trydydd mab John Hanbury, Pursall Green.
Cydnabyddir John Hanbury fel arloeswr y diwydiant alcam ar haearn ('tin-plate'). Etifeddodd stad Pontypŵl gyda'i gweithydd haearn pan fu farw ei dad, a gladdwyd yn Kidderminster, Ionawr 1704. Ei wraig gyntaf oedd Albinia, merch John Selwyn, swydd Gloucester; bu hi farw yn ddiblant yn 1702. Yn 1701, sef yn gynnar ar ôl ei briodas, dechreuodd Hanbury helaethu Park House, Pontypŵl, a adeiladesid gan ei dad yn 1659. Sylfaenodd y felin rholio a dechreuodd waith alcam ar haearn - 'Reinvented the method of rolling iron plates by means of cylinders and introduced the art of tinning into England.' Yn y gwelliannau hyn ei oruchwyliwr, Thomas Cooke, gŵr o Stourbridge, oedd dyfeisydd y felin rholio; rhoddir y clod am y gwelliantau yn y dull o wneuthur haearn a oedd yn fwy plygadwy i William Payne; a chysylltir enw Edward Allgood - gweler dan Allgood - â gwelliannau yn y dull o 'dynnu' gwifrau a thunio platiau haearn.
Ym mis Gorffennaf 1703 priododd Hanbury Bridget, merch hynaf Syr Edward Ayscough, Stallingbough, swydd Lincoln, a chael £10,000 yn waddol gyda hi. Daeth ei chyfeillgarwch hi â Sarah Churchill, duges Marlborough, â'i gŵr i gyfeillgarwch â theulu'r Churchilliaid ac felly i amlygrwydd mewn cylchoedd gwleidyddol. Yr oedd Hanbury yn un o ysgutorion ewyllys dug Marlborough; am ei wasanaeth yn hynny o beth rhoes y dduges set o lestri bwrdd (arian) iddo a pherlau i'w wraig. Yn 1720 cafodd Hanbury £70,000 yn gymynrodd ar ôl ei gyfaill, Charles Williams, Caerlleon-ar-Wysg. Gyda rhan o'r arian hwn prynodd Colbrook House, gerllaw y Fenni, hen blasty'r Herbertiaid, i'w bedwerydd mab, Charles Hanbury, a elwid yn ddiweddarach yn Charles Hanbury Williams.
Etholwyd Hanbury yn aelod seneddol dros ddinas Gloucester yn 1701 a bu'n ei chynrychioli mewn tair senedd yn olynol; trechwyd ef yn etholiad 1715. Bu'n cynrychioli sir Fynwy o fis Mawrth 1720 hyd flwyddyn ei farw. Pan ailgrewyd y South Sea Company ar ôl y cwymp trychinebus, etholwyd Hanbury yn un o'r cyfarwyddwyr newydd. Yr oedd yn gefnogydd brwd i barti'r Chwigiaid; yn ddiweddarach, fodd bynnag, bu'n gwrthwynebu Walpole ar nifer o fesurau seneddol pwysig. Bu farw 14 Mehefin 1734 a chladdwyd ef yn eglwys Trefethin, Pontypŵl. Bu ei weddw farw 26 Medi 1741 a chladdwyd hithau yn Nhrefethin. Dengys ei llythyrau fod iddi ddiddordeb personol cryf yn y gwaith tunio yn Pontypŵl.
Aeth y gweithydd haearn i feddiant ei drydydd mab, CAPEL HANBURY (1707 - 1765) ac wedyn i fab hynaf hwnnw, sef JOHN HANBURY (1744 - 1784). Dyma'r John Hanbury a fanteisiodd i'r eithaf ar welliantau'r Milwriad Hanbury.
Cymerth trydydd mab y John Hanbury hwn, CHARLES (1777 - 1858), y cyfenw chwanegol TRACY yn 1798; yn 1838 gwnaed ef yn farwn SUDELEY. Cysylltir y gainc hon o'r teulu â Sir Drefaldwyn, gan i briod Charles Hanbury Tracy etifeddu stad Gregynog; bu amryw aelodau o'r teulu'n flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Maldwyn - gweler Williams, Montgomeryshire worthies , 300-2.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.