Bu mor anffodus a lladd cefnder iddo (Morgan o Benrhos) mewn gornest, â gorfu iddo ffoi o'r wlad. Aeth i Smyrna, a throi at fasnach yno ac mewn gwledydd eraill, megis Rwsia, a chasglodd gyfoeth dirfawr. Llwyddodd John Hanbury o Bont-y-pŵl (gweler dan ' Hanbury ') i rwyddhau'r ffordd iddo i ddychwelyd i Brydain, yn nheyrnasiad William III, ond ymddengys iddo drigiannu yn Llundain, heb dynnu sylw ato'i hun, eithr gan farchnata mewn stociau a rhoi benthyg arian i'r Llywodraeth - a chwanegu at ei gyfoeth. Bu farw'n ddibriod, 29 Awst 1720, 'yn 87 oed'; pan wnaeth ei ewyllys (Ionawr 1717) yr oedd yn byw yn Covent Garden. Yn ei ddiolchgarwch i Hanbury, yr oedd wedi trefnu i £70,000 fynd i Charles, pedwerydd mab Hanbury, ar yr amod iddo chwanegu ' Williams ' at ei gyfenw pan ddelai i oed; gwnaethpwyd hynny yn 1729; gweler dan Hanbury-Williams, Syr Charles. Yn ei ewyllys, gadawodd £4,000 i sefydlu ysgol elusennol i 30 o fechgyn a 20 o enethod, yng Nghaerllion-ar-Wysg, ac i dalu am eu prentisio hyd y caniatâi'r gwaddol; adeiladwyd yr ysgoldy yn 1724. Ymhellach, mewn atodiad i'r ewyllys (23 Awst 1720), gadawodd £3,000 arall at atgyweirio'r eglwys yno ac at wella'r ffyrdd yn y dre ac ati.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.