AMBROSE, WILLIAM ROBERT (1832 - 1878), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hynafiaethydd

Enw: William Robert Ambrose
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1878
Rhiant: William Robert Ambrose
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 19 Ionawr 1832, yn y Galltraeth, Bryncroes, Llŷn, yn fab i'r Parch. Robert Ambrose (gweler Spinther, iii, t. 367) - yr oedd felly'n gefnder i'r bardd William Ambrose. Dygwyd ef i fyny'n deiliwr, a dilynodd yr alwedigaeth honno yng Nghaernarfon, Lerpwl, Bangor, Porthmadog, a Thalsarn. Yn 1856, bedyddiwyd ef (ym Mangor), a dechreuodd bregethu; ac ym mlynyddoedd olaf ei oes yr oedd yn fugail cyflogedig ar Fedyddwyr Talsarn, serch ei gyfri'n bregethwr trymaidd. Yn Nhalsarn, cymerodd gryn ran ym mywyd cyhoeddus yr ardal.

Enillodd amryw wobrau mewn eisteddfodau am farddoniaeth a thraethodau. Ei brif ddiddordeb oedd hynafiaethau; darlithiai ar y pwnc; a'i hawl i glod yw ei draethawd da, Hynafiaethau, Cofiannau, a Hanes Presennol Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872). Bu'n briod ddwywaith. Bu farw 21 Rhagfyr 1878.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.