Olynydd Richard (bu farw 1267). Cawsai y cabidwl ganiatâd i ethol ar 8 Tachwedd 1267; ar 12 Rhagfyr cadarnhaodd y brenin ddewisiad Anian, archddiacon Môn, ac fe'i cysegrwyd ef yng Nghaergaint cyn diwedd y flwyddyn.
Yr oedd cymod Trefaldwyn yr Hydref cynt wedi peri mai Llywelyn ap Gruffydd oedd y gwr pwysicaf mewn cylchoedd Cymreig, ac am rai blynyddoedd bu Anian ac yntau mewn cytgord clos. Bu'n gymedrolwr dros y tywysog o dan y cytundeb a wnaethpwyd ag iarll Gloucester yng Nghantref Selyf ym Mrycheiniog 27 Medi 1268; ymunodd ag esgob Llanelwy i drefnu dealltwriaeth rhwng Llywelyn a Dafydd ei frawd yn Aberriw yn 1269. Cyfamod arall y bu iddo ran ynddo oedd hwnnw a wnaethpwyd rhwng Llywelyn a'i frawd Rhodri fis Ebrill 1272. Ym mis Medi 1273 yr oedd gyda'r tywysog ac yn ei gyngor.
Fodd bynnag, â chymylau ystorm 1277 yn dechrau cydgrynhoi, yr oedd safle Anian yn myned yn ansicr. Yr oedd yn Gymro ac yn gyffeswr y tywysog, y mae'n wir, ond nid oedd yn barod i herio gallu'r brenin. Yn gynnar ar ôl 21 Mawrth y flwyddyn honno ffoes i Loegr gan gael noddfa yn abaty S. Alban. Ymladdai ei berthynasau ar du'r brenin, ac nid oedd y colli bywyd yn eu plith yn annerbyniol gan y tywysog. Daeth yn gyfyng ar Anian o achos colli ohono'i foddion cynhaliol arferol, ac ni bu i gymod Conwy ddwyn cyfeillgarwch y tywysog a'r esgob yn ôl am beth amser. O'r diwedd, sef ym mis Gorffennaf 1280, ceir yr archesgob Peckham yn datgan ei lawenydd oblegid gwella hen glwyf. Eithr ni pharhaodd y cyd-ddealltwriaeth newydd yn hir; pan gododd y Cymry yn 1282 yn erbyn y brenin aeth Anian unwaith eto at blaid hwnnw; gyda llu'r brenin y cawn ef yn Rhuddlan 28 Gorffennaf y flwyddyn honno.
Pan fu farw Llywelyn daeth yn ôl, yng nghwmni'r brenin, i'w esgobaeth, a bu'n ddygn yn y gwaith o ailsefydlu pethau yn y Gogledd. Derbyniodd freiniau yn dâl am ei gymorth i'r brenin - hawliau cyfreithiol o wahanol fathau, caniatâd i wneuthur ei ewyllys, a chyfran o ddegwm y taliadau a oedd yn ddyledus i'r brenin yn Nhegeingl. Ond nid oes dim yn tystio iddo dderbyn maenorau yn rhodd am iddo fedyddio plentyn Edward I yng Nghaernarfon.
Bu'r ugain mlynedd a oedd yn weddill iddo o'i oes yn ddiddigwyddiad. Ym mis Gorffennaf 1291 cynhaliodd synod o glerigwyr ei esgobaeth yn eglwys Llanfair Garthbrannan, h.y. hen eglwys y Santes Fair, ychydig i'r gogledd o'r eglwys gadeiriol. Mynegir hyn ar ddalen wag yn llyfr gwasanaethau (sef 'Pontifical') Anian, cyfrol sydd yn cael ei thrysori'n fawr yn yr esgobaeth. Yn 1298 bu raid iddo achwyn, ac yntau bellach yn hen a heb fod yn gryf o gwbl, oblegid fod swyddogion y brenin yn ymyrryd â rhai o'i hawliau fel esgob. Talodd wrogaeth, 28 Ebrill 1301, yng Nghonwy i'r Tywysog Cymru newydd, ac ni chlywir sôn amdano wedi mis Mai 1305. Cysegrwyd ei olynydd 26 Mawrth 1307. Yn amser Anian, sef ym mis Gorffennaf 1280, y prynwyd at wasanaeth yr esgobaeth y tir yn Shoe Lane yn ninas Llundain yr adeiladwyd arno Bangor House, a fu'n gartref yn Llundain i'r esgobion hyd ddechrau'r 17eg ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.