BADDY, THOMAS (bu farw 1729), gweinidog Annibynnol, ac awdur

Enw: Thomas Baddy
Dyddiad marw: 1729
Priod: Anne Baddy (née Salusbury)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Nid yw amser ei eni'n hysbys. Gellid meddwl mai dyn o Wrecsam oedd; pan roes y Bwrdd Presbyteraidd arian iddo yn 1690, disgrifir ef fel ‘Mr. Tho. Baddie of Wrexham’ (Nicholson and Axon, The Older Non-conformity in Kendal, 579); ac yr oedd ganddo frawd, Owen Baddy, yn ysgolfeistr yn Wrecsam (Palmer, The Older Nonconformity of Wrexham, 69 n.); dywedir mai ffurf lafar ar Madog yw ‘Baddy.’ Aeth Baddy i Academi Frankland yn Rathmell (sir Efrog) ar 25 Tachwedd 1689, ac o 1691 hyd 1693 yr oedd yn ‘ysgolor’ dan nawdd y Bwrdd Unedig (Nicholson - Axon, ibid., a Gordon, Freedom after Ejection, 204).

Yn 1693 aeth i fugeilio cynulleidfa Annibynnol Dinbych, a oedd newydd ei hailsefydlu ar ôl ymweliad (1690) James Owen â'r dre; bu yno hyd ei f. ym Mehefin 1729, gan ofalu hefyd am gynulleidfaoedd Wrecsam a'r Bala pan ddigwyddai i'r naill neu'r llall fod heb weinidog. Ei wraig oedd Anne, ferch Robert Salusbury, Galltfaenan (Palmer, ibid.); daeth eu merch yn wraig i fasnachwr llwyddiannus yn Ninbych o'r enw Pugh, ac ar ei dir ef y codwyd capel Lôn Swan yn 1742. Yr oedd cynulleidfa Baddy (60 mewn nifer, meddai ystadegau John Evans yn 1715) yn dda iawn eu byd, a myn traddodiad ei fod ef ei hunan yn ffasiynol ei ddiwyg ac yn marchogaeth ar geffyl da.

Yr oedd yn gyfieithydd dyfal ar lyfrau diwinyddol (rhestr yn Ashton, Hanes Llen. Gymreig, 167-77, a Williams, Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, Rhan 3). Y mae ei gyfansoddiadau gwreiddiol — trosiad mydryddol o Ganiad Solomon (1725), ac emynau a atodwyd at Pasc y Christion (1703) — yn haeddu sylw ar waethaf eu diffygion llenyddol; hwy, hyd y gwyddys, yw'r emynau Cymraeg cyntaf gan Ymneilltuwr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/