Ganwyd 11 Medi 1842 yn Llanelli, mab i Hopkin Bevan ac Eliza (Davies), y tad yn un o Bevaniaid Llangyfelach, teulu Hopkin Bevan, a'r fam yn disgyn o Lewis Rees. Addysgwyd ef yn University College School a'r Coleg Newydd yn Llundain (B.A., LL.B.). O 1865 hyd 1869 bu'n gynorthwywr i'r Dr. Thomas Binney yn y King's Weigh-house, ac o 1869 hyd 1876 yn weinidog Whitefield's Tabernacle, Llundain. Ar ôl tymor o fugeilio (1876-82) yn New York, dychwelodd i ofalu (1882-6) am eglwys Highbury Quadrant; ond symudodd wedyn i Collins Street, Melbourne. Yn Awstralia y bwriodd weddill ei oes - 1886-1910 ym Melbourne, a 1910-8 yn brifathro Coleg Annibynnol Parkin, yn Adelaide. Bu farw 9 Awst 1918. Yr oedd yn briod, a chanddo bump o blant.
Pedwerydd mab Llewelyn David Bevan. Bu yn Athro Anianeg yn y Royal Holloway College; am ei yrfa a'i waith, gweler T. Iorwerth Jones yn "The contributions of Welshmen to science" , Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion , 1932-3, 54-6.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.