BIRCHINSHAW (BYRCHINSHA, BYCHEINSHA), WILLIAM (fl. 1584-1617), bardd

Enw: William Birchinshaw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Jenkins

O dueddau Dinbych yr hanoedd, a hwyrach yn perthyn i Maurice Birchinshaw a gymerodd raddau yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, yn 1511 a 1515, ac a wnaed yn rheithor Dinbych yn 1543; bu ef farw yn 1564. Yn NLW MS 5272C , t. 185, ceir llythyr gan William Mydleton 'at i gefnder Wilm Birchinsha ag at Mr. Owen Meurig,' lle y dywed Mydleton 'dysgwch fod yn foesol wrth ych athro…' Ac am Birchinshaw dywed, er ei fod yn medru canu cywydd cadarn, 'byth ni ddysg un arfer dda.' Gorau peth gan y ddau, medd ymhellach, yw 'caru merched a diota,' ac 'i gael aur â'n i glera,' Ar t. 182 o'r un llawysgrif ceir gan Birchinshaw englyn i Rys Grythor, gyda'r dyddiad 30 Tachwedd 1584 wrtho, ac yn Chirk Castle Accounts 1605-66, t. 4, sonnir am dalu rhent am diroedd a ddelid gan bedwar o wŷr, yn cynnwys un Burchinshawe. Efallai mai'r bardd oedd ef. Gelwir ef weithiau yn Syr W. Byrchinsha, ac efallai, gan hynny, ei addysgu i fod yn offeiriad. Yr oedd yn gyfoeswr i Morris Kyffin. Yn NLW MS 567B , NLW MS 1553A , a NLW MS 5272C y cadwyd y rhan fwyaf o'i waith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.