Hawliai aelodau'r teulu hwn eu bod yn disgyn o Dudur ab Ednyfed, arglwydd Broughton, ail fab Cynwrig ab Rhiwallon, arglwydd Maelor Gymraeg. Yn yr 16eg ganrif yr oedd RALPH BROUGHTON yn meddu Plas Isa, Isycoed, sir Ddinbych; yr oedd ei drydydd mab ef, VALENTINE BROUGHTON (bu farw 1603), aldramon yn ninas Caer, yn noddwr cynnar i ysgol ramadeg Wrecsam, eithr nid efe ydoedd sylfaenydd yr ysgol, fel y dywedir weithiau. Ychwanegodd Morgan Broughton (c. 1544 - c. 1614), ŵyr Ralph Broughton ac etifedd Plas Isa, ystad Marchwiel Hall at un Plas Isa trwy briodi merch Henry Parry, Basingwerk a Marchwiel; bu'n siryf sir Ddinbych yn 1608. Gwnaethpwyd ei fab hynaf ef, EDWARD, yn farchog, Syr EDWARD BROUGHTON (18 Mawrth 1618). Pan dorrodd ail Ryfel yr Esgobion ('the second Bishops war') allan ceisiodd gael ysgafnhau ryw gymaint ar y beichiau a osodwyd ar y sir (Mai 1639); am ei fod yn frenhinwr rhemp fe'i cymerwyd i'r ddalfa yn ei dŷ ei hun (Tachwedd 1643) gan wŷr Cyrnol Myddelton yn ystod eu cyrch cyntaf ar Ogledd Cymru. Bu ei frawd iau, ROBERT BROUGHTON, Stryd yr Hwch, Marchwiel, yn ymladd fel capten yn ail Ryfel yr Esgobion ac fel cyrnol yn y fyddin a ddanfonwyd i ddarostwng gwrthryfel y Gwyddelod yn 1641; daeth â'i gatrawd yn ôl i Gaer, Ionawr 1644, i ymladd yn erbyn y Pengryniaid ac fe'i gwnaethpwyd yn rheolwr tref Amwythig (18 Awst 1644). Cymerwyd ef yn garcharor ym mrwydr Trefaldwyn (17 Medi 1644), eithr fe'i gollyngwyd yn rhydd a bu'n gwasanaethu ar ôl hynny (yn 1645) gyda'r brenhinwyr yng Ngogledd Cymru. Arweiniodd WILLIAM BROUGHTON, trydydd mab Morgan Broughton, y cant a hanner o wŷr a godwyd yn sir Ddinbych i ymladd yn ail Ryfel yr Esgobion (5 Ebrill 1639), a bu'n gapten ym myddin y brenhinwyr yn y Rhyfel Cartrefol.
Ymladdodd Syr EDWARD BROUGHTON (bu farw 1665), etifedd y Syr EDWARD CYNTAF, fel isgapten ar ochr y brenin yn y Rhyfel Cartrefol; yr oedd yn aelod o'r gwarchodlu a fu'n dal Castell y Waun (Chirk) yn erbyn Lambert yn ystod gwrthryfel Booth (Awst 1659), ac ni chynhwyswyd ei enw ef, o fwriad, ymhlith enwau y rheiny a oedd i gael eu pardynu gan Lambert pan gymerwyd y castell. Taflwyd ef i garchar y Gatehouse, Westminster, a phan ryddhawyd ef priododd, yn ail wraig, Mary Wyke, gweddw ceidwad y Gatehouse a oedd newydd farw; gwnaeth drefniant i setlo ei holl ystadau arni hi (6 a 7 Ebrill 1660), ac addawodd, mewn mynegiad melltithiol (a argreffir yn Pennant, Tours, arg. 1883, iii, 286-8), ymgadw rhag ei digio; trwy hyn cafodd iddo'i hun gyfran yn y budd prydlesol mawr a ddeilliai o fod gofal y Gatehouse a'r cyffiniau arnynt. Bu'n byw ar yr eiddo hwn nes y cafodd ei ladd ar y môr yn y rhyfel â'r Isellmyn (26 Mehefin 1665) ac fe'i claddwyd yn abaty Westminster cyn i drefniadau i'w wneuthur yn farwnig gael eu cwblhau, er bod y teitl newydd yn cael ei ddefnyddio ar brydiau mewn dogfennau cyfreithiol (ochr yn ochr â'r disgrifiad ohono fel marchog - er nad oes gofnod swyddogol ychwaith o'i wneuthur yn farchog). Dygwyd y teitl newydd gan ei fab EDWARD (neu Syr EDWARD BROUGHTON) (1661 - 1718), yr olaf o'r llinell; bu ef yn siryf sir Ddinbych yn 1698.
Bu ROBERT BROUGHTON, trydydd mab y Syr Edward cyntaf, a brawd yr arwr llyngesol, yn uchgapten ym myddin y brenin yn y Rhyfel Cartrefol; cafodd ei glwyfo yn Wem (17-18 Hydref 1643), ac yr oedd yn un o'r cenhadau a ddanfonwyd gan Thomas Myddelton (y barwnig cyntaf, wedi hynny) i drefnu telerau traddodi Castell y Waun i'r ochr arall pan fethodd gwrthryfel Booth (24 Awst 1659). Dywedir i frawd arall, FRANCIS BROUGHTON, ymladd gyda lluoedd y Senedd. Pan ddarfu am linach y teulu, aeth ystadau Marchwiel i ddwylo AQUILA WYKE (bu farw 1792), Llwynegryn, gerllaw'r Wyddgrug, siryf sir Ddinbych yn 1743, ac wyr yr Arglwyddes (Mary) Broughton trwy ei gŵr cyntaf, ceidwad y Gatehouse; yn nes ymlaen daethant yn eiddo ei nai ef, CHARLES BROWN (siryf sir Ddinbych, 1789, Sir y Fflint, 1790), a phan fu ef farw fe'u gwerthwyd hwynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.