CADWGAN FFOL (13eg ganrif), bardd

Enw: Cadwgan Ffol
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Ceir un englyn o'i waith yn Peniarth MS 113 , sef 'Pann vod[d]es y Sayson yn Neganwy.' Yn Peniarth MS 99 priodolir yr un darn i Ednyfed Vychan - 'pan las rhai o'r Saeson, 1270.' Ceir yr un darn yn Peniarth MS 122 heb enw wrtho. Y mae'r englyn wedi ei gyhoeddi yn Y Greal, Llundain, 1805, 167, ac fe'i priodolir yno i Gadwgan Ffol.

Yn Owen, Cambrian Biography, Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen , Cymru (O.J.), a Blackwell (NLW MS 9253A ), gelwir ef Cadwgan ab Cynvrig a rhoddir ei ddyddiad fel 1280.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.