Cafodd Cadwgan ei esgobaeth pan fu farw Robert yn 1212. Y pryd hwn yr oedd Llywelyn ap Iorwerth yn ben llywodraethwr ar Ogledd Cymru; trwy ei ddylanwad ef, y mae'n ddiamau, y cafodd Cadwgan yr esgobaeth. Ac ni bu i'r brenin John ychwaith, a oedd ar y pryd yn ceisio cael cymorth y Cymry yn erbyn ei farwniaid, roddi unrhyw rwystr ar ei ffordd. Ar 13 Mawrth caniatâwyd i'r cabidwl ethol abad y Tŷ-gwyn-ar-Daf, ar yr amod eu bod yn ceisio cydsyniad y brenin yn ffurfiol yn nes ymlaen. Ar 13 Ebrill rhoes John hysbysrwydd am yr etholiad i'r archesgob Langton a gofyn iddo gysegru. Ar ôl i Gadwgan wneuthur y broffes arferedig o ufudd-dod ar 28 Ebrill cydsyniodd yr archesgob a chymerth y gwasanaeth cysegru le yn Staines, 21 Mehefin.
Ni wybuasid ddim am ddechreuad yr esgob newydd oni bai am y darlun a dynnwyd ohono gan Gerallt Gymro yn ei Speculum Ecclesiae - darlun nad oes dim yn eisiau ynddo ond yr enw. Fe'i tynnwyd gyda rhyfyg diofn a dylid bod yn ofalus iawn rhag ei dderbyn yn ei grynswth. Serch hynny, gellir dywedyd a chredu bod Cadwgan yn fab i offeiriad o Wyddel a mam a oedd yn Gymraes, iddo dderbyn addysg glerigol dda, a dyfod yn fynach yn urdd y Sistersiaid. Daeth yn ben ar abaty Ystrad Fflur ac heb fod yn hir iawn wedi hynny yn bennaeth y Tŷ-gwyn-ar-Daf, mam-gartref tai Sistersaidd Cymru bron i gyd. Oherwydd iddo wasanaethu Llywelyn yn ddiwyd a diflino fe'i cafodd ei hun yn esgob o'r diwedd. Y mae popeth a wyddys am Gadwgan o ffynonellau eraill llai gwenwynig yn fwy ffariol iddo. Yn y flwyddyn 1234, ar adeg prinder bwyd yng Ngogledd Cymru, trefnwyd i ddwyn llonaid llong o ŷd o Iwerddon er mwyn ei bobl. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gyda chaniatâd y pab Grigor IX, ymddiswyddodd o'r esgobaeth a dychwelyd i fyw bywyd mynach syml yn abaty Dore, lle bu farw 11 Ebrill 1241. Y mae peth tystiolaeth ei fod yn ŵr o ddysg ac yn awdur; priodolir llyfr homilïau iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.