CAIN, santes a gwyryf (fl. diwedd y 5ed ganrif a dechrau'r 6ed).

Enw: Cain
Rhiant: Brychan ap Anlach
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: santes a gwyryf
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Yn ôl y 'De Situ Brecheniauc' (Wade-Evans, Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae, 313-5) a'r 'Cognacio Brychan' (op. cit., 315-8), un o ferched bucheddol Brychan Brycheiniog oedd Cain.

Ceir y traddodiad amdani ym 'muchedd' y santes Gain, crynodeb a gyfansoddwyd tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg gan John o Teignmouth allan o ryw lawysgrif anhysbys. Ni chwenychodd Cain y bywyd priodasol, ac oherwydd hynny rhoddwyd iddi yr enw 'Keynwiri' ('Cain Wyryf'). Ymadawodd â'i bro enedigol, a gwnaeth ei chartref mewn lle a adwaenir heddiw fel Keynsham yng Ngwlad yr Haf; ac yno bu fyw bywyd meudwy. Wedi llawer o flynyddoedd, dychwelodd i Ddeheudir Cymru gan sefydlu mynachlog mewn lle nad oes ddim sicrwydd amdano ond y dywedir mai Llangeinwr yn Sir Forgannwg yw. Dywed y 'fuchedd' mai Cadog Sant a'i claddodd hi.

Y santes Gain yw nawddsant Llangeinwr, a chedwir ei henw ar gof yn Llangain a Chapel Cain Wyry (plwyf Tal-y-llychau) yn Sir Gaerfyrddin, yn Llangeinwen ym Môn, ac, efallai, ym Machen yn sir Fynwy. Ceir eglwysi wedi eu henwi arni hefyd yn swydd Henffordd, Gwlad yr Haf, a Chernyw. Fel rheol dethlir ei gŵyl ar 8 Hydref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.