CHAMBERS, WILLIAM (1809 - 1882), ustus

Enw: William Chambers
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1882
Priod: Joanna Chambers (née Trant)
Plentyn: John Graham Chabmers
Rhiant: William Chambers
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ustus
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awduron: Nansi Ceridwen Jones, David Williams

Unig fab William Chambers, Llanelly House, Sir Gaerfyrddin, brodor o Bicknor, Caint, ac uchel siryf sir Gaerfyrddin yn 1828. Priododd, 1835, Joanna Trant, merch Capten Payne o'r llynges. Fel ynad gweithiodd yn galed i ddarostwng gwrthryfel Beca yn 1843 ac i symud y drygau a oedd yn gyfrifol amdano. Cynorthwyodd i ddatblygu diwydiannau ac adnoddau crai tref a phorthladd Llanelli. Yn 1840 sefydlodd y ' South Wales Pottery, ' a dug y gwaith ymlaen hyd 1855 pryd y'i trosglwyddwyd i'r Meistri Coombs a Holland. Yr oedd ei dad wedi etifeddu Llanelly House am ei oes drwy ewyllys Syr John Stepney, a phan fu farw ef ar y 9fed o Chwefror 1855, aeth yr ystad yn ôl i deulu Stepney. Ar farw'r 9fed barwnig, Syr Thomas Stepney yn 1825, y cafodd Chambers 'Llanelly House' - ni wyddys pa fodd. Yn 1853 prynodd stad yr Hafod, Sir Aberteifi, a bu'n byw yno hyd 1871, pryd y gwerthodd Hafod a dychwelyd i Gaint. Yr oedd yn ustus heddwch yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi ac yn ddirprwy-raglaw sir Aberteifi. Bu farw ddechrau 1882.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.