CHAMBERS, WILLIAM (1774-1855) diwydiannwr a gwr cyhoeddus

Enw: William Chambers
Dyddiad geni: 1774
Dyddiad marw: 1855
Plentyn: William Chambers
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr a gwr cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil

Yn ei ewyllys, dyddiedig 9 Awst 1802, (dyfynnir hi yn ' An Act to enable William Chambers … to grant leases of certain estates ', 1840 - copi yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd), trefnodd Syr John Stepney (gweler teulu STEPNEY, i'w eiddo, mewn pedwar plwyf ar hugain, fyned, nid i'w frawd Thomas (a ddilynodd Syr John fel barwnig ar ei farwolaeth, 3 Hydref 1811), nac i etifeddion ei ddwy chwaer, ond i chwe pherson na perthynent i'r teulu, a'u hetifeddion gwryw hwythau. Yr oedd William Chambers o Bicknor, swydd Caint, yn un o'r rhain. Ar ôl dydd Chambers, oni fyddai etifeddion gwryw, yr oedd y stâd i fyned yn ôl i Syr Thomas Stepney, ac yna i etifeddion dwy chwaer Syr Thomas. Yn hynod iawn, bu'r personau a enwid yn yr ewyllys farw, y naill ar ôl y llall, yn gyflym iawn, heb etifeddion, ac fel canlyniad daeth y stad i feddiant William Chambers, 18 Rhagfyr 1824. Bu Syr Thomas Stepney farw yn ddietifedd, 19 Medi 1825. Ni cheir unrhyw esboniad ar yr ewyllys hon, arwahan i'r traddodiad teuluol fod Syr John Stepney wedi cweryla â'i frawd ac â'i chwiorydd.

Ganwyd William Chambers yn Llundain, ac addysgwyd ef yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (cofrestrwyd ef 1792; B.A., 1795; M.A., 1800). Pan ddaeth stadau Stepney i'w feddiant, daeth i fyw yn Llanelly House (ger eglwys y plwyf), ty na fuasai teulu Stepney yn byw ynddo ers 60 mlynedd. Yn 1828 yr oedd yn uchel siryf sir Gaerfyrddin. Bu ef a'i fab yn amlwg iawn yn natblygiad diwydiannol Llanelli, yn arbennig drwy iddynt sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840, a gwario £10,000 ar wneud hynny. Bu farw yn Llanelli, 9 Chwefror 1855, yn 81 oed.

Gan fod y ddeddf a nodir uchod yn dweud nad oedd ganddo etifedd, rhaid tybio tybio mai mab anghyfreithlon oedd WILLIAM CHAMBERS, yr ieuaf (1809 - 1882). Ganwyd ef yn Valenciennes, Ffrainc, 24 Mai 1809, a chafodd ei addysg yn Eton a Choleg S. Ioan, Caergrawnt (derbyniwyd ef 1826, a chofrestrwyd ef Pasg 1828. Nid oes tystiolaeth iddo raddio). Priododd Joanna Trant, merch Capten Payne, R.N., 20 Gorffennaf 1835, a bu iddynt 5 o blant. Bu farw 21 Mawrth 1882 yn 72 oed. Yr oedd William Chambers, yr ieuaf, yn wr a chanddo syniadau rhyddfrydol iawn. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839. Er ei fod yn ynad, ef oedd yn y gadair yng nghyfarfod protest 'Beca' ar Fynydd Sylen, 25 Awst 1843. Er hynny, bu iddo ran yng nghipio arweinwyr 'Beca' pan ymosodwyd ar glwydi ym Mhontarddulais, 6 Medi 1843, a dioddefodd ddial y terfysgwyr (gweler John Jones. Rhoes dystiolaeth bwysig o flaen y comisiynwyr addysg yn 1849, ac yn 1850 penodwyd ef yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli, a gymerth le'r bwrdeiswyr llygredig a fuasai'n gyfrifol am weinyddu stadau'r dre. Ar farwolaeth ei dad aeth stadau Stepney yn ôl i feddiant etifeddion chwiorydd Syr John Stepney, ond, yn unig, ar ôl achos cyfreithiol hir (Llys y Siawnsri, 1865). Yn 1853 prynodd William Chambers, yr ieuaf, Hafod (a newidiasai berchenogion ddwywaith er pan fu farw Thomas Johnes. Gwerthodd yntau'r lle cyn ei farw.

Ganwyd JOHN GRAHAM CHAMBERS (1843 - 1883), mabolgampwr a newyddiadurwr, mab William Chambers, yr ieuaf, yn Llanelli, 12 Chwefror 1843, ac addysgwyd ef yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt (cofrestri 1861, B.A., 1865). Cafodd ei ' blue ' am rwyfo yn 1862 a 1863, ac ef oedd llywydd clwb rhwyfo'r brifysgol, 1864-1866. Dywedid mai ef oedd y cerddwr gorau yn y brifysgol. Am fanylion ynglyn â'i yrfa, gweler D.N.B. Bu farw yn Llundain, 4 Mawrth 1883.

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.