CLARK (TEULU), argraffwyr a chyhoeddwyr yn sir Fynwy, etc.

Ymsefydlodd JAMES CLARK (1781 - 1859), yn Chepstow yn 1823; ganwyd ef 22 Ionawr 1781 yng Nghaerloyw. Bu'n brentis yn swyddfa y Gloucester Journal ac wedyn yn gweithio yn Llundain a Portsmouth. Priododd Mary Baker (bu farw 1875, yn 100 oed) tua'r adeg y dychwelodd i Gaerloyw (sef yn 1808). Cyn ymsefydlu yn Chepstow (yn 1823) bu'n byw yn Gosport, Hampshire, a Trowbridge, Wiltshire. Cymerth ei fab, WILLIAM EDWARD CLARK, yn bartner â ffyrm Clark and Son a ddechreuodd gyhoeddi, ar 23 Mehefin 1855, y Chepstow Weekly Advertiser, a barhaodd hyd 1916. Dygwyd y busnes ymlaen gan William Edward New Clark ac EMMELINE CLARK, mab a merch William Edward Clark, ond fe'i gwerthwyd yn 1903 i Enoch Williams.

Bu James Clark farw 12 Mehefin 1859.

Bythefnos wedi dechrau cyhoeddi y Chepstow Weekly Advertiser cychwynnwyd newyddiadur arall yn sir Fynwy, sef The Illustrated Usk Observer, gan JAMES HENRY CLARK (1818 - 1913), mab arall i James Clark. Dechreuasai J. H. Clark fusnes yn Brynbuga, 1 Ionawr 1834, gyda'i frawd hŷn, GEORGE A. CLARK (a fu farw, fodd bynnag, yn Chepstow, 12 Ebrill 1835). Dysgasai'r ddau frawd eu crefft yn swyddfa eu tad. Ganed J. H. Clark 23 Ionawr 1818 yn Caerloyw a bu farw 16 Chwefror 1913, yn 95 oed. Yn ystod ei yrfa hir fel argraffydd a chyhoeddwr ysgrifennodd a chyhoeddodd lu o lyfrynnau a llyfrau - e.e. Usk and its Neighbourhood, 1856; Handbook to Monmouthshire and South Wales, 1861; Sketches of Monmouthshire, 1868; History of Monmouthshire, 1869; Usk, Past and Present, 1893, etc.; am ragor o fanylion gweler Ifano Jones, History of Printing and Printers in Wales and Monmouthshire, a chasgliadau William Haines ar lyfryddiaeth sir Fynwy (yn Ll.G.C.). Newidiodd y newyddiadur ei enw o bryd i bryd, gan barhau hyd 1907. Priododd J. H. Clark, 15 Mawrth 1838, Sophia (bu farw 1901), ferch hynaf William Howell, Chepstow. Bu ganddo siop lyfrau yng Nghaerdydd am gyfnod. Yn Awst 1875 dechreuodd gyhoeddi misolyn, The Usk Gleaner and Monmouthshire Record, a barhaodd hyd ddiwedd 1878. Dygwyd y busnes argraffu ym Mrynbuga ymlaen gan ei ferch, ELIZA BLANCHE CLARK. Aeth WILLIAM HENRY CLARK, mab hynaf J. H. Clark, o Frynbuga i Aberhonddu yn 1866 i gychwyn The Brecon County Times.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.