CURIG (fl. 550?), sant

Enw: Curig
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Nawddsant Llangurig, plwyf mawr yn ne Arwystli ac efallai hefyd Eglwys Fair a Churig yn Sir Gaerfyrddin a Capel Curig yn Sir Gaernarfon. Adwaenid ef wrth y cyfenwau Curig Lwyd (sef y gwynfydedig) a Curig Farchog; yn ' Buchedd Curig ' (sydd yn waith diweddar) dygir ef i gysylltiad â Maelgwn Gwynedd. Yn amser Gerallt Gymro trysorid ei bawl bugeiliol - a addurniesid ag aur ac arian ac a oedd yn hynod am ei allu gwyrthiol - yn S. Harmon's; yr oedd hi rywsut neu gilydd wedi croesi drosodd i Werthrynion. Nid oes braidd ddim o hanes y sant ar gael; ni cheir mo'i enw yn yr achau. Yn gymharol gynnar mewn hanes fe'i camgymysgir â Cyricus, y plentyn o Cilicia a laddwyd gyda'i fam Julitta (' Ilid ' yn Gymraeg) yn ystod yr erledigaeth yn adeg Diocletian. Mehefin 16 ydyw eu dydd hwy, a dyna felly ddydd gwyl Llangurig. Rhaid amau ai yr un un ydyw Curig y Cymro â Kirik y sant Llydewig a goffeir ar 17 Chwefror.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.