mab yr Arglwydd Rhys. Ni wyddid amdano onibai am yr argraff a wnaeth ar Gerallt Gymro pan oedd hwnnw'n teithio trwy Geredigion gyda'r archesgob Baldwin ar genhadaeth y groesgad. Dywed Gerallt ei fod yn ddyn ieuanc tal, golygus, gyda gwallt melyn cudynnog, wedi ei wisgo yn null Cymry'r cyfnod - crys a chlogyn tenau, heb ddim am ei draed - ond yn edrych yn osgeiddig ac urddasol. Tyfodd i fod yn hynafgwr ond ni adawodd ddim o'i ôl ar hanes ei gyfnod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.