DAFYDD DARON (fl. 1400), deon Bangor

Enw: Dafydd Daron
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: deon Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

yn niwedd teyrnasiad Rhisiart II. Ym mis Tachwedd 1397 cafodd brebendiaeth Llandwrog. Ynghyd â'r cabidwl rhoes gyfrif, 19 Mai 1399, o werthoedd ariannol yr esgobaeth a fuasai yn eu gofal hwy er pan fu'r esgob Swaffham farw 24 Mehefin 1398. Ar un adeg yr oedd ganddo swydd yn eglwys Clynnog Fawr. Dyna'r cwbl a ddywed hanes cyfoes amdano.

Dywed Browne Willis (gan ddilyn Le Neve) iddo gael ei fwrw allan o'i wlad oherwydd iddo gynorthwyo Owain Glyn Dŵr; dywed hefyd fod y deon yn ŵr o gyfoeth ac yn fab i Evan ap Dafydd ap Griffith, yn disgyn o Garadoc ap Iestyn. Y mae'r honiad mai yn ei dŷ ef yr arwyddwyd y ' Cytundeb Tridarn ' yn fwy amheus. Yn ôl Hall, croniclydd o Sais, a'r unig awdurdod sy'n dywedyd ymhle'r arwyddwyd y ddogfen honno, yn nhŷ archddiacon Bangor yr arwyddwyd hi, ac felly ni ellir cysylltu Dafydd Daron â'r hanes ond trwy farnu bod y gair ' archddiacon ' wedi ei arfer ar gam am ' deon.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.