DAFYDD DDU ATHRO o HIRADDUG (cyn 1400), gŵr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r 'llyfr cerddwriaeth' cyntaf sydd gennym

Enw: Dafydd Ddu Athro O Hiraddug
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r 'llyfr cerddwriaeth' cyntaf sydd gennym
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith John Williams

Hynny yw, llyfr sy'n trafod celfyddyd cerdd dafod, ac a gynnwys hefyd dalfyriad Cymraeg o'r gramadeg Lladin a ddefnyddid yn ysgolion yr Oesoedd Canol. Ni wyddom odid ddim amdano, ond gan fod Moel Hiraddug yn enw ar fryn yn ymyl Rhuddlan, efallai fod Syr Thomas Williams yn iawn pan ddywed, yn NLW MS 3029B , mai gŵr 'o Degeingyl' ydoedd. Myn y Dr. John Davies o Fallwyd yn Peniarth MS 49 ei fod yn 'archdeacon of Diserth,' a chan ei fod yn cael ei alw'n 'athro', a'r gair hwnnw (fel y dywedir yn y llyfr cerddwriaeth) weithiau'n golygu math arbennig o glerigwr, efallai fod y Dr. Davies yn cofnodi rhyw draddodiad a glywsai yn ei fachgendod yng nghyffiniau dyffryn Clwyd. Yn y 18fed ganrif, mynnid fod ei feddfaen yn eglwys Tremeirchion, ac arno arysgrif yn cynnwys yr enw David F'Korel, ond y mae hynny'n drwyadl ansicr. Ffynnai traddodiad amdano fel gŵr hyddysg ac fel dewin, a mynnai'r enwog Dr. John Dee yn 1582 mai ef oedd Roger Bacon.

Yr oedd ysgolheigion yr 16eg ganrif yn priodoli'r 'llyfr cerddwriaeth' iddo ef ac i Einion Offeiriad. Blodeuai Einion tua dechrau'r 14eg ganrif, ac felly awgrymir weithiau mai ychwanegu at lyfr Einion a wnaeth Dafydd Ddu. Ni sonnir am y ddau yn y copïau cynharaf ond fel gwŷr a luniodd dri mesur - tri chopi yn mynnu mai gwaith Einion oeddynt, a'r trydydd (sef yr un a geir yn Peniarth MS 20 , a ysgrifennwyd c. 1400, neu efallai cyn hynny) yn dywedyd mai Dafydd Ddu Athro a'u dychmygodd. Priodolir cywyddau iddo hefyd. Ond efallai mai'r peth mwyaf diddorol a gysylltir â'r enw ydyw'r cyfieithiad Cymraeg o 'Wasanaeth Mair,' a gyhoeddwyd yn y The Myvyrian Archaiology of Wales . Ni chyfeirir ato yn y copïau cynharaf, ond dywed y Dr. John Davies yn 1631 mai ei waith ef ydyw 'hyd y mae pawb yn tybieid.' Ond nid oes neb hyd yn hyn wedi datrys y broblem sydd ynglŷn â'r cyfieithiad hwn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.