DAFYDD NANCONWY (fl. yn yr 17eg ganrif), cywyddwr

Enw: Dafydd Nanconwy
Rhiant: Tomas Dafydd ap Ieuan ap Rhys ap Gronnw ap Meyrick ap Llewelyn ap Richard ap Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cywyddwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Dywedir ei fod yn fab i Domas Dafydd ap Ieuan ap Rhys ap Gronnw ap Meyrick ap Llewelyn ap Richard ap Dafydd o Bwll-y-crochan yn y Llechwedd Isaf yn Arllechwedd, Sir Gaernarfon. Yr oedd y tad hefyd yn fardd, a gwyddys iddo ganu cywydd yn 1654. Ychydig o waith y mab sydd ar gael; canodd gywydd i'r Capten William Myddelton o Waenynog a fu farw yn 1637. Ceir ei waith yn NLW MS 3050D , a gopïwyd yn rhannol yn ail hanner yr 17eg ganrif, ac yn NLW MS 695E . Cydoesai â Harri Hywel a Huw Machno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.