Ganwyd yng Nghilfforch (Aberaeron) yn Chwefror 1791. Ymaelododd yn eglwys Neuadd-lwyd, ac addysgwyd ef i ddechrau yng Nghastell Hywel ac wedyn yng Nghaerfyrddin (1807-11). Urddwyd ef yn 1813 i gynorthwyo John Griffiths (1752 - 1818) ym Mhendref, Caernarfon, ond yn 1814 galwyd ef i Bant Teg a Pheniel, gerllaw Caerfyrddin, lle y bu am weddill ei oes. Priododd Anne, ferch David Jeremy o Drefynys (Peniel), a chymerodd fferm helaeth yn ymyl Abergwili - y wraig a edrychai'n bennaf ar ôl y fferm; cawsant 13 o blant. Yn 1835, ar ymddiswyddiad David Peter, penodwyd ef yn brifathro ac athro diwinyddol yng Nghaerfyrddin, ond erbyn 1854 teimlid nad oedd mwyach yn llenwi ei le yno, a pherswadiwyd ef i ymddiswyddo yn 1855. Bu farw 31 Gorffennaf 1864. Yn ddiwinyddol, Calfin llydan oedd Davies, ac yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr golygiadau Edward Williams o Rotherham (1750 - 1813) yn Neheudir Cymru. Y mae cofiant iddo, gan William Jones o Abertawe, 1867.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.