mab Benjamin Davies (a fu farw 1816), gweinidog cyntaf eglwys y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Aeth i athrofa'r Fenni yn 1818, yn 18 oed (J. Rufus Williams, Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr - ond deil ' Iorwerth Ceitho ' iddo gael ei eni yn 1794). Ar ôl dwy flynedd yn y Fenni, aeth i Goleg Stepney. Yn 1822 urddwyd ef yn weinidog cynorthwyol yn Evesham, a bu wedyn yn weinidog llawn yno hyd 1837, pan alwyd ef gan eglwys Hwlffordd. Ar agoriad athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd (1 Awst 1839), penodwyd ef yn athro arni. Bu farw 19 Mawrth 1856.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.