DAVIES, JOHN GRIFFITH (1836 - 1861), bardd a chyfieithydd

Enw: John Griffith Davies
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1861
Rhiant: Phoebe Davies (née Griffiths)
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Williams

Yr ail o bedwar o blant a fu i John [ George ] Davies ('Siôn Gymro'), Yetwen, Glandwr, Sir Benfro, a'i wraig Phoebe, merch J. D. Griffiths ac wyres y Parch. John Griffiths, Glandwr. Bu farw'r pedwar plentyn ym gymharol ifanc - Mary Ann yn 1860 yn 26, Elizabeth yn 1859 yn 19, David yn 1848 yn 5 oed, a John Griffith, a syrthiodd dros fwrdd y llong Hibernia yn agos i Lerpwl, 14 Mawrth 1861, pan oedd yn 25 mlwydd oed.

Addysgwyd ef yn ysgol ddyddiol James Humphreys, Glandwr, ac ysgolion Ceinewydd a Thredeml, Sir Benfro. Prentisiwyd ef yn deiliwr yn Arberth. Etifeddodd lawer o ddawn ei dad at ddysgu ieithoedd, ac aeth i'r môr fel morwr a theithio'r gwledydd tramor er mwyn gwneuthur hynny. Dysgwyd Lladin iddo gan ei dad, ac yna meistrolodd Hebraeg, Ffrangeg, Almaeneg, ac Eidaleg.

Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth a rhyddiaith, y rhan fwyaf ohono'n gyfieithiadau, ond ychydig o'i waith llenyddol sydd wedi'i gadw, ac ni chyhoeddwyd dim ohono yn ystod ei fywyd. ' Gwylofain Petrarc,' cyfieithiad o'r Eidaleg, yw ei waith mwyaf adnabyddus. Ymddangosodd hwn mewn amryw o'i fywgraffiadau; ceir enghraifft o'i brydyddiaeth Saesneg, ' The Grave,' yn Y Beirniad, 1863, iv.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.