Y Parch. Rees Davies (1804 - 1891), a anwyd yn Ysgubor Fawr, Myddfai, Sir Gaerfyrddin, oedd ei dad; yr oedd y Parch. Jeffrey Davies, Llangammarch, yn ewythr iddo. Bu John Davies yn ysgol Morgan Jones ym Myddfai, ac yn Ysgol Frutanaidd Cefnarthen. Dechreuodd bregethu yn 19 oed yn eglwys y Babell, cylchdaith Beilidu, sir Frycheiniog. Aeth am flwyddyn i ysgol yn Aberhonddu, ac yna i ysgol ramadeg ym Merthyr Tydfil, lle y daeth dan ddylanwad Thomas Stephens. Yn ddiweddarach ysgrifennodd nifer o ysgrifau i'r Geninen ar Thomas Stephens. Ym Medi 1865 aeth i Goleg Trefeca ar ei ail agoriad. Ymadawodd â Threfeca ddiwedd 1869 a derbyniodd alwad i eglwysi'r Pandy a Forest Coal Pit, ger Abergavenny, gan ddechrau yno yn Ionawr 1870. Ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Llandeilo, Awst 1870.
Bu yn arweinydd holl symudiadau cyhoeddus ardal y Pandy - cadeirydd y cyngor plwyf, henadur cyngor sir Fynwy, ynad heddwch; yr oedd yn F.S.A. Dewiswyd ef yn llywydd cymdeithasfa'r De yn 1905, ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol, 1916. Cynorthwyodd Syr Joseph Bradney i gasglu hanes sir Fynwy, ac ysgrifennodd yn helaeth i'r Geninen, Y Traethodydd, Y Drysorfa, Y Lladmerydd, Y Goleuad, Archæologia Cambrensis, The Hereford Times, Red Dragon, Old Chips, Poole, History of Breconshire, etc. Bu farw 6 Chwefror 1917, a chladdwyd ym mynwent capel y Pandy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.