DAVIES, DAVID JOHN (1870 - ?), arlunydd

Enw: David John Davies
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: ?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Harold Williams

Ganwyd 16 Mawrth 1870 yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, mab i farcer. Cafodd addysg rydd yn Ysgol Gelf Kidderminster, a chafodd gymorth casgliad cyhoeddus a wnaethpwyd yn Llandeilo i fynd i Antwerp i astudio am ddwy flynedd. Agorodd stiwdio yn Llanelli a bu yno am bedair blynedd gan gael D. Pugh, A.S., yr Arglwydd Dynevor, yr Arglwydd Emlyn, Mansel Lewis, a Mrs. Gwynne Hughes, Tregyb, Llandeilo, yn noddwyr iddo. Arwyddodd ei waith cynnar gyda'r enw ' D. J. Davies '; yn ddiweddarach mabwysiadodd ' Dyer Davies ' yn enw iddo'i hun oblegid bod cysylltiad rhwng ei fam a theulu Dyer, Aberglasney - gweler yr erthygl ar John Dyer. Yr oedd yn gwneuthur tirluniau a lluniau personau; gwnâi hefyd ddarluniau i Wales (O.M.E.) ynghyd â gwawdluniau a brofai fod ganddo syniadau radicalaidd pur eithafol. Yn David Davies, dychanlyfr gwleidyddol Beriah Gwynfe Evans, y ceir ei gartwnau gwleidyddol gorau.

Aeth o Lanelli i Lundain i weithio ar y Graphic, eithr dychwelodd i Gymru yn ddiweddarach ac agor stiwdio yn Llandeilo. Yn 1899, pan oedd yn anterth ei boblogrwydd, aeth i Ddeheudir Affrica adeg y rhyfel â'r Boeriad i fod yn artist a newyddiadurwr yn gweithio ar ei ben ei hun, a chafodd ei osod gyda brigâd gwŷr meirch yr arglwydd Roberts. Arhosodd yn y wlad honno wedi i'r rhyfel ddyfod i'w derfyn; yn 1924, yn yr 'Empire Exhibition' yn Wembley, arddangoswyd ei 'African Sunset.' Ni wyddys pa bryd y bu farw.

Mewn casgliadau preifat y mae y rhan fwyaf o'i bortreadau o bersonau yn aros. Ceir, fodd bynnag, ei ' Portrait of an unknown man ' yn ystafell cyngor Llandeilo, ac y mae portread mewn olew o'i waith o'r Parch. William Davies, aldramon, yng nghapel y Tabernacl, yn yr un dref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.