DAVIES, MORRIS ('Meurig Ebrill '; 1780 - 1861), bardd

Enw: Morris Davies
Ffugenw: Meurig Ebrill
Dyddiad geni: 1780
Dyddiad marw: 1861
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Nolgellau. Fe'i prentisiwyd gyda saer coed a bu'n dilyn ei grefft a barddoni yn Nolgellau a'r cylch; gweithiai ar brydiau yn rhai o blasau'r cylch - Nannau, Hengwrt, Dolserau, a Caerynwch. Pan oedd tua 13 oed cafodd gyfle i adnabod Thomas Edwards ('Twm o'r Nant') pan oedd y bardd a'r anterliwtiwr yn y Bala. Canodd lawer o gerddi a chaneuon ar destunau cefn gwlad, llu o englynion, a thua 12 o garolau. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Diliau Meirion, yn 1853; fe'i dilynwyd gan ail ran, gyda rhagdraeth gan ' Gutyn Ebrill,' yn 1854. Teitl ei drydydd llyfr, a gyhoeddwyd yn 1855, oedd Hanes Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill gyda 'Diliau Meirion' o Ddolgellau i Gaerlleon-Gawr, Birkenhead, Llynlleifiad, a Manceinion, a'i ddychweliad yn ol drwy siroedd a threfydd Gogledd Cymru yn … 1854-55; y mae cynnwys hwn yn gymysg o ryddiaith a barddoniaeth. Bu farw 26 Medi 1861.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.